Mae seiclo “mewn lle iach iawn” yng Nghymru ar hyn o bryd, yn ôl y gohebydd chwaraeon Gareth Rhys Owen.

Daw ei sylwadau ar ôl buddugoliaeth hanesyddol Stevie Williams o Aberystwyth yn La Flèche Wallonne ddoe (dydd Mercher, Ebrill 17), a llwyddiant Simon Carr ym mhedwerydd cymal Taith yr Alpau heddiw (dydd Iau, Ebrill 18).

Yn ddiau, hon oedd buddugoliaeth fwyaf Stevie Williams, y Cymro a’r seiclwr Prydeinig cyntaf i ennill y ras 88 oed, sy’n cynrychioli tîm Israel Premier Tech.

Ac fe fu Josh Tarling yn seiclo 45km ar ei ben ei hun cyn ei fuddugoliaeth yntau.

Daw ei lwyddiant yntau wythnos yn unig ar ôl cael ei ddiarddel o ras Paris-Roubaix ar ôl cael ei dywys gan ei gar o ganlyniad i broblemau technegol.

Eto i ddod eleni mae ymgyrch Geraint Thomas yn y Giro d’Italia a’r Tour de France, ac mae Gareth Rhys Owen yn dweud bod Josh Tarling yn “un o’r doniau ifainc mwyaf cyffrous yn y byd”.

“Mae seiclo dynion Cymru mewn lle iach iawn,” meddai ar X (Twitter gynt).

🎥 Rhodri Gomer yn sgwrsio gyda Stevie Williams

Nerys Henry

Y Cymro yn siarad â Chwys diwrnodau ar ôl ennill y Tour Down Under