Fydd Aaron Ramsey ddim yn chwarae i dîm pêl-droed Caerdydd eto y tymor hwn oherwydd anaf.

Dim ond 13 o gemau mae capten Cymru wedi’u chwarae ers iddo fe ddychwelyd i’r Adar Gleision cyn dechrau’r tymor hwn.

A dim ond unwaith mae e wedi dechrau gêm ers gwella o anaf i’w goes fis diwethaf.

Mae gan Gaerdydd dair gêm yn weddill o’u hymgyrch yn y Bencampwriaeth.

Wrth ymateb i’r newyddion, mae Erol Bulut, rheolwr Caerdydd, wedi aildanio ffrae bosib â Chymru, gan awgrymu y dylai “beidio meddwl” am y tîm cenedlaethol am y tro.

Mae gan dîm Rob Page gêm gyfeillgar yn erbyn Slofacia ar Fehefin 9, ac fe allai Ramsey fod yn holliach ar gyfer honno.

Dywed Bulut y bydd e allan am o leiaf dair wythnos, a bod yn “rhaid iddo fe wella a bod yn holliach”.

“Dw i’n credu bod yn rhaid iddo fe baratoi ei hun ar gyfer y tymor newydd a pheidio meddwl am y tîm cenedlaethol, p’un a fydd e’n chwarae ai peidio,” meddai.