Glaw Northampton yn drech na Morgannwg a Swydd Northampton

Mae’r ornest wedi dod i ben yn gyfartal

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers
Clwb Criced Morgannwg

Brad Wheal

Sgorfwrdd

Mae gan dîm criced Morgannwg fowliwr cyflym arall eto fyth ar gyfer eu taith i Swydd Northampton yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Gwener, Ebrill 19).

Mae Brad Wheal wedi ymuno ar fenthyg o Hampshire, a bydd ei gytundeb yn parhau un gêm ar y tro.

Mae Timm van der Gugten, Jamie McIlroy a Harry Podmore allan ag anafiadau, ac mae Craig Miles bellach wedi dychwelyd i Swydd Warwick ar ôl chwarae un gêm ar fenthyg i’r sir, er mai tair gêm oedd y cytundeb gwreiddiol cyn iddo fe gael ei alw’n ôl.

Ymhlith y batwyr, mae Eddie Byrom allan o hyd, ond fe fydd e’n chwarae i’r ail dîm yr wythnos nesaf wrth frwydro i ddychwelyd i’r tîm cyntaf yn holliach.

Mae Morgannwg wedi brwydro yn eu gemau hyd yn hyn, oddi cartref yn erbyn Middlesex ac wedyn gartref yn erbyn Swydd Derby, ond gorffennodd y ddwy yn gyfartal.

Maen nhw’n bedwerydd yn yr Ail Adran ar hyn o bryd.

Gemau’r gorffennol

Dydy Morgannwg ddim wedi chwarae yn y Bencampwriaeth yn Northampton ers 2021, pan enillodd y tîm cartref ar y diwrnod olaf.

Wrth gwrso 355 i ennill, adeiladodd Ricardo Vasconcelos a Rob Keogh bartneriaeth o 239 mewn 46 pelawd i gipio’r fuddugoliaeth gyda 6.2 pelawd yn weddill.

Y flwyddyn gynt, tarodd Callum Taylor ganred yn ei gêm gyntaf i Forgannwg, a chyrhaeddodd Marchant de Lange ganred cyflymaf erioed Morgannwg oddi ar 62 o belenni.

Ond y Saeson oedd yn fuddugol, a hynny o chwe wiced yn y gêm undydd yn Nhlws Bob Willis.

Roedd Morgannwg yn fuddugol o fatiad a 143 o rediadau yn 2019, wrth i Billy Root osod y seiliau gyda 229, ei sgôr gorau erioed, wrth i Forgannwg sgorio 547 yn eu batiad cyntaf.

Cafodd y Saeson eu bowlio allan am 209 a 195 i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i Forgannwg.

Cyn hynny, doedd Morgannwg ddim wedi ennill yn y Bencampwriaeth yn Northampton ers 2012 – hon oedd eu deuddegfed fuddugoliaeth yn Wantage Road mewn criced dosbarth cyntaf.

Carfan Swydd Northampton: L Procter (capten), G Bartlett, J Broad, E Gay, R Keogh, L McManus, G Miller, K Nair, J Sales, B Sanderson, C Tremain, R Vasconcelos, R Weatherall, S Zaib

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, Zain ul Hassan, B Root, C Ingram, C Cooke, D Douthwaite, J Harris, Mir Hamza, M Crane, A Gorvin, A Tribe, B Wheal

17:41

“Rydyn ni wedi brwydro’n galed, a dw i’n credu y gallwn ni wella ar ein sgiliau a lefel ein perfformiad wrth fynd i Headingley,” meddai Sam Northeast, capten Morgannwg.

“Roedd Swydd Northampton ar y blaen am ran fwya’r gêm am wn i.

“Roedd hi mor anodd batio ar y diwrnod cyntaf, a wnaethon ni ddim cweit adfer o fod yn y sefyllfa gynnar honno. Felly rydyn ni’n mynd i ddysgu tipyn o’r perfformiad hwn a symud ymlaen.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd hi’n gystadleuaeth dda yn Headingley. Mae ganddyn nhw eu chwaraewyr Lloegr o gwmpas, felly bydd e’n brawf da, ac mae’n debyg y bydd rhaid i ni godi sawl lefel os ydyn ni am fynd i fyny yno ac ennill. Mae hi’n mynd i fod yn her dda.”

16:10

Daeth cadarnhad bellach fod y gêm wedi dod i ben yn gyfartal yn dilyn diwrnod o law.

Bydd Morgannwg yn teimlo rhyddhad o fod wedi cael eu hachub gan y tywydd ar ôl tridiau digon anodd. Bydd yn rhaid bodloni ar ddau bwynt bonws o’r gêm, a deg pwynt i gyd, wrth iddyn nhw barhau i geisio buddugoliaeth gynta’r tymor. Ond taith i Swydd Efrog sydd nesaf…! 

15:18

Archwiliad pellach am 4 o’r gloch…!

14:39

Archwiliad o’r cae am 3 o’r gloch, ond y tywydd fawr gwell yn Northampton. Newyddion da i Forgannwg, sy’n ceisio achub yr ornest.

13:20

Dim criced o hyd o ganlyniad i’r glaw.

11:42

Cinio cynnar am 12.30yp, felly fydd dim criced tan o leiaf 1.10yp – bydd angen i Forgannwg oroesi dwy sesiwn ar y mwyaf i sicrhau gêm gyfartal.

10:48

Diwrnod 4

Newyddion da i Forgannwg ar y bore olaf. Fydd dim criced am y tro oherwydd y glaw. Rhagor o wybodaeth o Northampton pan ddaw…

19:12

Diwedd y trydydd diwrnod. Morgannwg 104 am dair yn eu hail fatiad, ar ei hôl hi o 230 wrth geisio achub yr ornest.

17:47

Billy Root a Sam Northeast allan mewn pelawdau olynol. Wiced yr un i Saif Zaib a Ben Sanderson. Morgannwg 79 am dair.

17:11

Wiced i Swydd Northampton. Zain ul Hassan allan, wedi’i ddal gan y wicedwr Lewis McManus oddi ar fowlio Raphy Weatherall. Morgannwg 46 am un.