Glaw Northampton yn drech na Morgannwg a Swydd Northampton

Mae’r ornest wedi dod i ben yn gyfartal

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers
Clwb Criced Morgannwg

Brad Wheal

Sgorfwrdd

Mae gan dîm criced Morgannwg fowliwr cyflym arall eto fyth ar gyfer eu taith i Swydd Northampton yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Gwener, Ebrill 19).

Mae Brad Wheal wedi ymuno ar fenthyg o Hampshire, a bydd ei gytundeb yn parhau un gêm ar y tro.

Mae Timm van der Gugten, Jamie McIlroy a Harry Podmore allan ag anafiadau, ac mae Craig Miles bellach wedi dychwelyd i Swydd Warwick ar ôl chwarae un gêm ar fenthyg i’r sir, er mai tair gêm oedd y cytundeb gwreiddiol cyn iddo fe gael ei alw’n ôl.

Ymhlith y batwyr, mae Eddie Byrom allan o hyd, ond fe fydd e’n chwarae i’r ail dîm yr wythnos nesaf wrth frwydro i ddychwelyd i’r tîm cyntaf yn holliach.

Mae Morgannwg wedi brwydro yn eu gemau hyd yn hyn, oddi cartref yn erbyn Middlesex ac wedyn gartref yn erbyn Swydd Derby, ond gorffennodd y ddwy yn gyfartal.

Maen nhw’n bedwerydd yn yr Ail Adran ar hyn o bryd.

Gemau’r gorffennol

Dydy Morgannwg ddim wedi chwarae yn y Bencampwriaeth yn Northampton ers 2021, pan enillodd y tîm cartref ar y diwrnod olaf.

Wrth gwrso 355 i ennill, adeiladodd Ricardo Vasconcelos a Rob Keogh bartneriaeth o 239 mewn 46 pelawd i gipio’r fuddugoliaeth gyda 6.2 pelawd yn weddill.

Y flwyddyn gynt, tarodd Callum Taylor ganred yn ei gêm gyntaf i Forgannwg, a chyrhaeddodd Marchant de Lange ganred cyflymaf erioed Morgannwg oddi ar 62 o belenni.

Ond y Saeson oedd yn fuddugol, a hynny o chwe wiced yn y gêm undydd yn Nhlws Bob Willis.

Roedd Morgannwg yn fuddugol o fatiad a 143 o rediadau yn 2019, wrth i Billy Root osod y seiliau gyda 229, ei sgôr gorau erioed, wrth i Forgannwg sgorio 547 yn eu batiad cyntaf.

Cafodd y Saeson eu bowlio allan am 209 a 195 i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i Forgannwg.

Cyn hynny, doedd Morgannwg ddim wedi ennill yn y Bencampwriaeth yn Northampton ers 2012 – hon oedd eu deuddegfed fuddugoliaeth yn Wantage Road mewn criced dosbarth cyntaf.

Carfan Swydd Northampton: L Procter (capten), G Bartlett, J Broad, E Gay, R Keogh, L McManus, G Miller, K Nair, J Sales, B Sanderson, C Tremain, R Vasconcelos, R Weatherall, S Zaib

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, Zain ul Hassan, B Root, C Ingram, C Cooke, D Douthwaite, J Harris, Mir Hamza, M Crane, A Gorvin, A Tribe, B Wheal

16:04

Amser te ar y trydydd diwrnod. Morgannwg 22-0 yn eu hail fatiad, ar ei hôl hi o 314.

15:28

200 i Karun Nair. Swydd Northampton 605 am chwech, ac maen nhw wedi cau’r batiad. Rhaid dweud bod y tîm cartref bellach wedi sicrhau na fyddan nhw’n colli. Ond all Morgannwg achub yr ornest? Maen nhw ar ei hôl hi o 334 ar ddiwedd y batiad cyntaf. Ychydig dros bedair sesiwn i ddod. 40 pelawd yn weddill heddiw.

15:02

Saif Zaib wedi’i ollwng ar 99 gan Colin Ingram cyn cyrraedd ei ganred, ond wedi’i ddal gan Dan Douthwaite oddi ar fowlio’r troellwr coes Mason Crane. Swydd Northampton 565 am chwech.

14:37

150 i Karun Nair. Swydd Northampton 522 am bump, ar y blaen o 251.

13:53

Saif Zaib wedi cyrraedd ei hanner canred toc ar ôl amser cinio. Swydd Northampton 447 am bump, ar y blaen o 176 yn y batiad cyntaf.

13:13

Cinio ar y trydydd diwrnod. Swydd Northampton 442 am bump. Karun Nair 109 heb fod allan, Saif Zaib 47 heb fod allan. Gyda’r tywydd drwg ar y gorwel, pa mor fentrus fydd y tîm cartref, tybed?

12:56

Canred i Karun Nair ar drothwy amser cinio. Swydd Northampton 422 am bump.

12:38

Pwyntiau batio a bowlio llawn i Swydd Northampton yn y gêm. 403 am bump. Dau bwynt bonws yn yr ornest i Forgannwg hyd yn hyn. Pwyntiau bonws ar gael o fewn 110 pelawd yn y batiad cyntaf, wrth gwrs.

12:07

WICED

James Sales allan. Coes o flaen y wiced gan James Harris. Swydd Northampton 353 am bump. 10.4 pelawd yn weddill i Forgannwg gipio’r pwyntiau bowlio.

11:59

WICED

Wiced gyntaf i Brad Wheal yng nghrys Morgannwg. George Bartlett wedi’i ddal yn y slip gan Sam Northeast. Swydd Northampton 349 am bedair.