Glaw Northampton yn drech na Morgannwg a Swydd Northampton

Mae’r ornest wedi dod i ben yn gyfartal

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers
Clwb Criced Morgannwg

Brad Wheal

Sgorfwrdd

Mae gan dîm criced Morgannwg fowliwr cyflym arall eto fyth ar gyfer eu taith i Swydd Northampton yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Gwener, Ebrill 19).

Mae Brad Wheal wedi ymuno ar fenthyg o Hampshire, a bydd ei gytundeb yn parhau un gêm ar y tro.

Mae Timm van der Gugten, Jamie McIlroy a Harry Podmore allan ag anafiadau, ac mae Craig Miles bellach wedi dychwelyd i Swydd Warwick ar ôl chwarae un gêm ar fenthyg i’r sir, er mai tair gêm oedd y cytundeb gwreiddiol cyn iddo fe gael ei alw’n ôl.

Ymhlith y batwyr, mae Eddie Byrom allan o hyd, ond fe fydd e’n chwarae i’r ail dîm yr wythnos nesaf wrth frwydro i ddychwelyd i’r tîm cyntaf yn holliach.

Mae Morgannwg wedi brwydro yn eu gemau hyd yn hyn, oddi cartref yn erbyn Middlesex ac wedyn gartref yn erbyn Swydd Derby, ond gorffennodd y ddwy yn gyfartal.

Maen nhw’n bedwerydd yn yr Ail Adran ar hyn o bryd.

Gemau’r gorffennol

Dydy Morgannwg ddim wedi chwarae yn y Bencampwriaeth yn Northampton ers 2021, pan enillodd y tîm cartref ar y diwrnod olaf.

Wrth gwrso 355 i ennill, adeiladodd Ricardo Vasconcelos a Rob Keogh bartneriaeth o 239 mewn 46 pelawd i gipio’r fuddugoliaeth gyda 6.2 pelawd yn weddill.

Y flwyddyn gynt, tarodd Callum Taylor ganred yn ei gêm gyntaf i Forgannwg, a chyrhaeddodd Marchant de Lange ganred cyflymaf erioed Morgannwg oddi ar 62 o belenni.

Ond y Saeson oedd yn fuddugol, a hynny o chwe wiced yn y gêm undydd yn Nhlws Bob Willis.

Roedd Morgannwg yn fuddugol o fatiad a 143 o rediadau yn 2019, wrth i Billy Root osod y seiliau gyda 229, ei sgôr gorau erioed, wrth i Forgannwg sgorio 547 yn eu batiad cyntaf.

Cafodd y Saeson eu bowlio allan am 209 a 195 i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i Forgannwg.

Cyn hynny, doedd Morgannwg ddim wedi ennill yn y Bencampwriaeth yn Northampton ers 2012 – hon oedd eu deuddegfed fuddugoliaeth yn Wantage Road mewn criced dosbarth cyntaf.

Carfan Swydd Northampton: L Procter (capten), G Bartlett, J Broad, E Gay, R Keogh, L McManus, G Miller, K Nair, J Sales, B Sanderson, C Tremain, R Vasconcelos, R Weatherall, S Zaib

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, Zain ul Hassan, B Root, C Ingram, C Cooke, D Douthwaite, J Harris, Mir Hamza, M Crane, A Gorvin, A Tribe, B Wheal

11:59

WICED

Wiced gyntaf i Brad Wheal yng nghrys Morgannwg. George Bartlett wedi’i ddal yn y slip gan Sam Northeast. Swydd Northampton 349 am bedair.

11:27

Dim record i Vasconcelos. Mae e allan am 182, wedi’i ddal gan y wicedwr Chris Cooke. Wiced i Mir Hamza. Swydd Northampton 336 am dair.

11:05

Bore da ar ddechrau’r trydydd diwrnod. Mae Ricardo Vasconcelos yn llygadu ei sgôr gorau erioed (185). Daeth hwnnw yn erbyn y sir Gymreig yn 2021.

19:19

Diwedd yr ail ddiwrnod. Swydd Northampton 314 am ddwy. Vasconcelos 166hfa, Nair 55hfa. Ar y blaen o 43 rhediad.

18:58

Hanner canred i Karun Nair. Swydd Northampton 297 am ddwy. Pum pelawd i ddod heno.

18:45

150 i Ricardo Vasconcelos. Swydd Northampton yn adeiladu blaenoriaeth sy’n debygol o fod yn sylweddol, 288 am ddwy. Luke Procter allan yn gynharach am 65 wrth i bartneriaeth o 191 ddod i ben.

16:05

Amser te – Swydd Northampton 133 am un. Ricardo Vasconcelos 69 heb fod allan, Luke Procter 40 heb fod allan. Partneriaeth o 113 hyd yn hyn.

13:16

CINIO – Swydd Northampton 31 am un. Wiced i James Harris wrth waredu Emilio Gay. 

12:25

DIWRNOD 2

Morgannwg 271 i gyd allan (Mason Crane 61). Pum wiced i Ben Sanderson am 92

19:28

Morgannwg wedi gorffen y diwrnod cyntaf ar 203 am saith. Hanner canred yr un i Colin Ingram (69 heb fod allan) a Dan Douthwaite (50). Partneriaeth o 74 rhyngddyn nhw wedi achub y sir Gymreig.