Mae gŵr 80 oed “sy’n fwy heini nag erioed” yn annog eraill i fynd at eu meddyg unwaith maen nhw’n sylwi ar symptomau canser posib.

Dydy tua hanner y bobol (51%) yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru heb gysylltu â’u meddyg teulu ar ôl sylwi ar symptomau posib, medd ymchwil newydd.

Mae elusen Ymchwil Canser y DU wedi lansio ymgyrch ‘Canfod Canser yn Gynnar’ heddiw yn sgil y canfyddiadau.

Yn ôl yr elusen, mae’r canfyddiadau’n “hynod bryderus”.

Y rheswm mwyaf cyffredin roddodd pobol dros oedi neu beidio cysylltu â meddyg teulu oedd ei bod hi’n anodd cael apwyntiad, gyda 19% yn dweud hynny.

Er bod meddygfeydd yn brysur, mae Ymchwil Canser yn annog pobol i beidio oedi cyn cysylltu â meddyg gan mai canfod canser yn gynnar sy’n rhoi’r cyfle gorau i bobol oroesi.

‘Siaradwch gyda’ch meddyg’

Un sy’n cefnogi’r ymgyrch ydy Tony Gillard o Aberdâr, sy’n diolch ei fod wedi cael diagnosis cynnar a wnaeth achub ei fywyd.

Cafodd ddiagnosis o ganser yr arennau wythnos cyn iddo ymddeol fel peiriannydd prosiect yn 2008.

Roedd y taid i dri a’r hen daid i bedwar yn gwybod nad oedd rhywbeth yn iawn pan sylwodd ar waed wrth iddo basio dŵr.

“Gadewais fy nesg a mynd yn ôl yr arfer i doiledau’r dynion a sylwi yn y wrinal nad oedd pethau’n ymddangos yn iawn,” meddai Tony Gillard.

“Roeddwn i’n meddwl fod lliw ar fy nŵr oherwydd fy mod i wedi bwyta betys coch y noson gynt.

“Wrth edrych yn ôl, roeddwn wedi sylwi ar boen yn fy ochr dde ond doeddwn i ddim wedi meddwl llawer amdano.”

Fe wnaeth ei wraig ei berswadio i fynd at y meddyg ar unwaith. Doedd y canser heb ymledu o’i aren a chafodd lawdriniaeth i’w thynnu

Dywed Tony, sydd wedi bod heb ganser am 15 mlynedd bellach, fod ei ddiagnosis wedi arwain at ffordd hollol newydd o fyw iddo.

“Cyn i mi gael diagnosis, roeddwn i’n pwyso 17 stôn,” meddai.

“Roedd cael canser yn rhybudd go iawn felly penderfynais newid fy ffordd o fyw. Ymunais â Slimming World a llwyddais i golli pwysau nes fy mod i’n 12 stôn a hanner.”

Daeth yn rhedwr brwd hefyd, gan gerdded 10,000 o gamau’r dydd. Cwblhaodd Tony Ras am Oes Ymchwil Canser y llynedd ac mae wedi cofrestru i gymryd rhan eto eleni ym Mharc Biwt, ochr yn ochr â’i fab Michael, i ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed.

“Felly dyma fi dros 15 mlynedd yn ddiweddarach, bron yn 80 oed, ac yn fwy heini nag erioed.

“Fe fydda i’n rhedeg Ras am Oes yng Nghaerdydd gyda fy mab sy’n 55 oed, ac mae’n debyg y bydd yn cael trafferth cadw i fyny gyda mi!

“Fy nghyngor i chi yw, cyn gynted ag y sylwch fod pethau ddim yn ymddangos yn iawn, ewch i gael archwiliad. Pe bawn i wedi anwybyddu fy symptomau, efallai na fyddwn i yma nawr.

“Os ydych chi’n poeni o gwbl, siaradwch gyda’ch meddyg – gallai achub eich bywyd.”

Tony Gillard ar ôl y ras ddiwethaf

‘Canfod yn gynharach yn allweddol’

Canfu’r ymchwil, oedd yn canolbwyntio ar brofiadau pobol ddiwedd y llynedd, mai’r rhesymau eraill dros oedi cyn gofyn am help oedd peidio bod eisiau siarad â’r derbynnydd yn y feddygfa am y symptomau (15%), ddim eisiau i bobol feddwl eu bod yn gwneud ffws (14%) a phoeni na fyddai’r symptomau’n cael eu cymryd o ddifrif (14%).

“Mae canfod canser yn gynharach a chael diagnosis cyflymach yn allweddol i wella cyfradd goroesi cleifion canser yng Nghymru,” meddai’r Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru.

“Rydym yn annog cleifion sydd ag arwyddion a symptomau parhaus i gysylltu a mynd i weld eu meddyg teulu, a lle bo’n briodol i gael profion diagnostig.

“Rydym wedi datblygu nifer o lwybrau canser a byddwn yn cefnogi cleifion trwy’r rhain.

“Yn y mwyafrif helaeth o achosion bydd pobl yn cael tawelwch meddwl o glywed nad oes tystiolaeth o ganser, ond pan nad dyna’r sefyllfa, byddwn yn eu cefnogi nhw a’u gofalwyr drwy’r daith, hyd at y driniaeth a thu hwnt iddi. Os oes amheuaeth, ewch am archwiliad.”

‘Hynod bryderus’

Ychwanega Michelle Mitchell, Prif Weithredwr Ymchwil Canser y DU, eu bod nhw’n “hynod bryderus” nad ydy llawer o bobol yn cysylltu â’u meddyg yn syth ar ôl sylwi ar symptomau.

“Mae’n hanfodol bod pobl yn cael diagnosis cynnar, pan fydd triniaeth yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus,” meddai.

“Os ydych chi’n poeni am unrhyw newid sy’n anarferol i chi, mae’ch meddyg eisiau clywed gennych.

“Os ydych chi’n cael trafferth cael apwyntiad, daliwch ati.

“Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yn arwydd o rywbeth llai difrifol, ond os mai canser ydyw, gall ei ganfod yn gynnar wneud byd o wahaniaeth.”