Mae criw o ymgyrchwyr o Gaernarfon yn gwrthwynebu dau ddatblygiad sydd ar y gweill yn hen safle gwaith brics y dref.
Y cyntaf o’r cynigion gan Jones Brothers Ltd yw gorsaf nwy deg injan, 20MW i gynhyrchu trydan ar safle hen Chwarel Seiont i’w werthu i’r Grid Cenedlaethol mewn cyfnodau o alw mawr.
Ymysg y pryderon ynghylch y cynnig hwnnw mae allyriadau gwenwynig a llygredd sŵn, a’i effaith niweidiol bosibl ar iechyd pobol leol a byd natur.
Mae’r ail gynnig yn gais i osod gwaith malu a phrosesu concrit ar yr un safle.
‘Y safle gwaethaf posib, ar gyfer y ddau ddatblygiad’
Mae Gretel Leeb, sy’n cadeirio’r pwyllgor sy’n ymgyrchu yn erbyn y ddau gynnig, wedi cydlynu’r gwaith o ysgrifennu dwy Ddogfen Gwrthwynebiad sy’n nodi rhesymau technegol ac amgylcheddol pam y dylid gwrthod y ddau gynnig.
“Mae’r grŵp wedi ymgyrchu ers misoedd yn erbyn y gwaith nwy arfaethedig yng Nghaernarfon, gan nodi’n glir y bygythiadau amgylcheddol a’r bygythiadau i iechyd pobol leol a fyddai’n cael ei achosi,” meddai Gretel.
“Yna, cyn y Nadolig, daeth cynigion newydd i’r amlwg ar gyfer gorsaf chwalu a phrosesu concrit ar yr un safle.
“Bydd y lleoliad arfaethedig, sef safle hen Chwarel Seiont, yn achos pryder i bobol leol.
“Mae wedi’i amgylchynu gan stadau tai, ysbyty, parc lleol a chaeau chwaraeon, yn ogystal ag Afon Seiont a choetir naturiol hynafol.
“O ystyried hyn oll, mae’n bosib mai hwn fyddai’r safle gwaethaf posibl ar gyfer y ddau ddatblygiad yma.
“Mae gweithfeydd ‘brig’ nwy yn cynhyrchu lefelau uchel o sŵn pan fyddant yn gweithredu, ac maent yn gollwng nifer o nwyon niweidiol gan gynnwys NOx.
“Mae effeithiau’r nwyon hynny ar iechyd pobol yn cynnwys cynnydd mewn clefydau fel asthma; cyflyrau ar y galon; a niwed i’r ysgyfaint.
“Ar ben hynny mae bygythiadau difrifol posibl o ganlyniad i’r sŵn, y llwch a’r gronynnau niweidiol a fyddai’n cael eu cynhyrchu gan yr orsaf goncrit arfaethedig.
“Hefyd, mae’n cael ei amcangyfrif y byddai 120 lori’n ymweld â’r safle bob dydd. Mae’r bygythiad go iawn i ecosystemau lleol ac i fioamrywiaeth yr ardal hefyd yn destun pryder mawr.
“Credwn y byddai’r naill gynnig neu’r llall yn mynd yn groes i reoliadau newydd Llywodraeth Cymru a newidiadau mewn polisi cynllunio sy’n ymwneud â sŵn, llygredd aer a bioamrywiaeth.”
‘Effaith fach iawn, neu ddim effaith o gwbl’
“I fanteisio’n llawn ar y gallu i gynhyrchu trydan mewn ffordd adnewyddadwy mae’r grid cenedlaethol angen pŵer wrth gefn i lenwi’r bwlch pan fydd cynhyrchiad gorsafoedd haul a gwynt yn isel,” meddai llefarydd.
“Mae gorsaf STOR (short-term operating reserve) yn defnyddio nwy prif lif i greu rhagor o drydan ar fyr rybudd.
“Gall gorsaf o’r fath fod yn weithredol o fewn ychydig funudau yn unig, gan roi hyder i gwsmeriaid y bodlonir eu hanghenion a thrwy hynny eu hannog i ddefnyddio trydan fel eu ffynhonnell ynni.
“Mae offer STOR yn cynnig hyblygrwydd mewn ffordd fwy effeithlon na chadw gorsafoedd trydan mawr yn rhedeg yn araf er mwyn bod yn barod i gwrdd â galw annisgwyl yn unig.
“Golyga’r cynllun y bydd gwaith yn parhau ar safle’r hen waith brics, safle a ddefnyddiwyd gan Jones Bros fel compownd a lle cynhyrchu concrit ar gyfer adeiladu Ffordd Osgoi Caernarfon a’r Bontnewydd.
“Er i’r cynlluniau adfer gwreiddiol ar gyfer y chwarel gael eu cymeradwyo yn 2017, wedi cwblhau’r ffordd osgoi yn 2022 mae’r safle bellach wedi ei nodi fel lleoliad hyfyw ar gyfer darparu gwaith gorsaf STOR i gynorthwyo gyda’r dasg o newid i sero net.
“Ni fydd newid arwyddocaol i edrychiad y safle ac ni fydd y sŵn a gynhyrchir ddim uwch na’r sŵn ‘cefndir’ presennol.
“Ni fydd ond effaith fach iawn, neu ddim effaith o gwbl, ar yr ardal o amgylch.”
Cynigion yn ‘groes i ysbryd a gweledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’
Cynhaliodd ymgyrch Caernarfon Lân gyfarfod cyhoeddus yng Nghlwb Pêl-droed Caernarfon ym mis Tachwedd i drafod eu gwrthwynebiad i’r datblygiad.
Mae Siân Gwenllian yn cynrychioli’r dref yn y Senedd ac roedd yn bresennol yn y cyfarfod.
“Dw i wedi mynegi fy mhryderon ynghylch gorsaf nwy brig arfaethedig yn nhref Caernarfon mor gynnar ag Awst 2023, a dw i wedi mynegi’r pryderon hynny i Lywodraeth Cymru a fydd yn y pen draw yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar argymhellion Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. (PEDW),” meddai.
“Dw i wedi ei wneud yn glir ar lawr y Senedd fy mod yn credu bod y cynnig yn groes i ysbryd a gweledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a thargedau hinsawdd Llywodraeth Cymru ei hun, ac y dylid ei wrthod ar y sail honno.
“Ond ers hynny, mae cynigion ar gyfer gwaith chwalu concrit ar yr un safle wedi dod i’r amlwg.
“Pe bai’r argymhellion yn cael eu cymeradwyo, mae’n cael ei amcangyfrif y byddai llif y traffig yn gyfwerth ag 1 lori bob 5 munud, 10 awr y dydd, 5.5 diwrnod yr wythnos.
“Ar ben hynny, yn ogystal â lefelau sŵn uchel, mae’r broses chwalu concrid yn defnyddio llawer iawn o drydan a llawer iawn o ddŵr i wlychu’r llwch niweidiol sy’n cael ei greu gan y broses.
“Afraid dweud, fel sy’n wir am yr orsaf nwy, mae peryglon difrifol i iechyd a lles pobol, ac i gynaliadwyedd yr amgylchedd naturiol o’i amgylch.”
Dywed hefyd ei bod hi wedi gofyn am sicrwydd gan Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd y bydd yr ail gais yn mynd gerbron Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd, ac na fydd yn nwylo swyddogion cynllunio yn unig.
“Os felly, bydd fy etholwyr yn gallu mynegi eu barn i’w cynghorwyr lleol a fydd yn eu tro yn gallu cyfleu eu pryderon i aelodau’r pwyllgor.”
Tra bod y penderfyniad terfynol ar yr orsaf nwy yn nwylo Llywodraeth Cymru, bydd yn rhaid i’r cais i greu gwaith chwalu concrit fynd i Gyngor Gwynedd am benderfyniad terfynol.
Mae ymgyrch Caernarfon Lân wedi lansio deiseb lle gall pobol leol leisio eu gwrthwynebiad.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.