Mae cwmni sy’n bwriadu gwneud cais cynllunio er mwyn adeiladu gorsaf nwy ar safle hen Chwarel Seiont wedi wfftio pryderon cynghorydd lleol am safle swnllyd na fydd yn creu rhagor o swyddi parhaol ar y safle.

Yn ôl Dawn Lynne Jones, sy’n cynrychioli Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd yn ward Cadnant yn y dref, does dim angen yr orsaf yno.

Pe bai’r orsaf yn cael ei hadeiladu byddai’n defnyddio’r nwy oedd yn arfer cyflenwi’r gwaith brics er mwyn creu trydan ar gyfer y Grid Cenedlaethol.

Byddai’r datblygiad yn cynnwys deng injan nwy naturiol, setiau cynhyrchu, ystafell gyfnewid ac adeilad cyfleuster lles i weithwyr cynnal a chadw’r safle mewn ardal o faint tua 3,300 metr sgwâr. 

Pe bai’r cynlluniau’n cael eu caniatáu, byddai’n cymryd hyd at dri mis i adeiladu’r orsaf, a byddai’n weithredol am 25 mlynedd.

Mae’r cwmni wedi dweud na fydd unrhyw swyddi parhaol ar y safle, a gallai Ysbyty Eryri gael ei heffeithio gan “weithgareddau diwydiannol” yno.

Roedd y safle yn cael ei defnyddio fel compownd i weithwyr oedd yn adeiladu ffordd osgoi Caernarfon, ac mae’r datblygwr hefyd wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu creu ffordd newydd i’r safle oddi ar Ffordd Waunfawr ar yr A4085.

“Dydyn ni ddim angen o yn y safle yna,” meddai Dawn Lynne Jones wrth golwg360.

“Roedd Jones Brothers wedi rhoi addewid i drigolion sy’n byw yn y gwaelod yn y fan honno, yn Seiont Mill, y bysa’r tir yn cael ei wneud yn ôl yn jest rhywle saff felly.

“Doedd dim sôn bod ffasiwn beth am gael ei roi yna. Doedd dim sôn am ddim byd yn cael ei adeiladu yna.

“Does dim un swydd yn mynd i fod yna, dw i jest yn gwrthwynebu iddo.

“Dim y fan yno ydy ei le o.

“Y teimlad yn lleol yw bod [pobol leol] yn siomedig bod cwmni Jones Brothers yn mynd yn ôl ar eu gair.”

‘Effaith fach iawn, neu ddim effaith o gwbl’

Yn ôl Jones Brothers, bydd y safle’n cael “effaith fach iawn, neu ddim effaith o gwbl” ar y gymuned leol.

“I fanteisio’n llawn ar y gallu i gynhyrchu trydan mewn ffordd adnewyddadwy mae’r grid cenedlaethol angen pŵer wrth gefn i lenwi’r bwlch pan fydd cynhyrchiad gorsafoedd haul a gwynt yn isel,” meddai llefarydd.

“Mae gorsaf STOR (short-term operating reserve) yn defnyddio nwy prif lif i greu rhagor o drydan ar fyr rybudd.

“Gall gorsaf o’r fath fod yn weithredol o fewn ychydig funudau yn unig, gan roi hyder i gwsmeriaid y bodlonir eu anghenion a thrwy hynny eu hannog i ddefnyddio trydan fel eu ffynhonnell ynni.

“Mae offer STOR yn cynnig hyblygrwydd mewn ffordd fwy effeithlon na chadw gorsafoedd trydan mawr yn rhedeg yn araf er mwyn bod yn barod i gwrdd â galw annisgwyl yn unig.

“Golyga’r cynllun y bydd gwaith yn parhau ar safle’r hen waith brics, safle a ddefnyddiwyd gan Jones Bros fel compownd a lle cynhyrchu concrit ar gyfer adeiladu Ffordd Osgoi Caernarfon a’r Bontnewydd.

“Er i’r cynlluniau adfer gwreiddiol ar gyfer y chwarel gael eu cymeradwyo yn 2017, wedi cwblhau’r ffordd osgoi yn 2022 mae’r safle bellach wedi ei nodi fel lleoliad hyfyw ar gyfer darparu gwaith gorsaf STOR i gynorthwyo gyda’r dasg o newid i sero net.

“Ni fydd newid arwyddocaol i edrychiad y safle ac ni fydd y sŵn a gynhyrchir ddim uwch na’r sŵn ‘cefndir’ presennol. Ni fydd ond effaith fach iawn, neu ddim effaith o gwbl, ar yr ardal o amgylch.”

Ymateb yr awdurdodau

Gan ei fod yn cael ei ystyried yn gais o “arwyddocâd cenedlaethol”, Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru, fydd yn gwneud y penderfyniad, yn hytrach na Chyngor Gwynedd.

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oes modd iddyn nhw “gynnig sylwadau ar y cynnig penodol hwn gan y gallai gwneud hynny effeithio ar unrhyw benderfyniad y gallai gweinidogion Cymru orfod ei wneud ynghylch y mater yn y dyfodol”.

 

Pryder am gynllun i adeiladu gorsaf ynni yng Nghaernarfon

Lowri Larsen

Mae’r cwmni wedi dweud na fydd unrhyw swyddi parhaol ar y safle, a gallai Ysbyty Eryri gael ei heffeithio gan “weithgareddau diwydiannol”