Mae Liz Saville Roberts yn dweud bod “San Steffan yn fwy o act syrcas na Llywodraeth”, wrth ymateb i benodi Grant Shapps yn Ysgrifennydd Amddiffyn diweddaraf Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Daw’r penodiad newydd wedi i’r cyn-Ysgrifennydd Ben Wallace gyhoeddi fis diwethaf ei fod yn bwriadu camu o’r neilltu.

Bydd yr Ysgrifennydd newydd yn gyfrifol am luoedd arfog y Deyrnas Unedig o hyn allan, ac mae’n dweud y bydd yn parhau i gefnogi Wcráin yn y rhyfel.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Grant Shapps wedi bod yn Ysgrifennydd Trafnidiaeth, yn Ysgrifennydd Cartref (am chwe diwrnod), yn Ysgrifennydd Busnes ac yn Ysgrifennydd Ynni,” meddai Liz Saville Roberts.

“A nawr mae disgwyl i ni gogio ei fod yn awdurdod ar amddiffyn.

“Mae San Steffan yn fwy o act syrcas na Llywodraeth.”

Ad-drefnu

Dywed Grant Shapps ei bod yn “anrhydedd” cael ei benodi i’r swydd.

“Hoffwn roi teyrnged i Ben Wallace am y cyfraniad enfawr mae wedi ei wneud i amddiffyn a diogelu’r Deyrnas Unedig yn fyd-eang dros y pedair blynedd ddiwethaf,” meddai.

“Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda dynion a menywod dewr y Lluoedd Arfog sy’n amddiffyn diogelwch ein cenedl yn Defence HQ.”

Bydd y cyn-Weinidog Plant Claire Coutinho yn dod yn Ysgrifennydd Ynni yn ei le, a bydd David Johnston, sy’n gyn-aelod o’r Pwyllgor Addysg, yn camu i’w rôl hithau fel y seithfed person i gamu i’r swydd honno yn y cyfnod Seneddol hwn.

Ymddiswyddiad Ben Wallace

Fe fu Ben Wallace yn y rôl ers pedair blynedd.

Yn ei lythyr at Rishi Sunak, dywedodd fod y Deyrnas Unedig “yn cael ei pharchu ledled y byd am ein lluoedd arfog, ac ers y rhyfel yn Wcráin, mae’r parch hwn wedi tyfu’n fwy eto.”

“Rwyf wedi penderfynu gofyn am gael camu o’r neilltu,” meddai.

“Enillais fy sedd yn 2005, ac ar ôl cynifer o flynyddoedd mae’n bryd i mi fuddsoddi yn y rhannau o fywyd rwyf wedi’u hesgeuluso, a chwilio am gyfleoedd newydd.”

Yn wreiddiol, roedd disgwyl y byddai’r Prif Weinidog yn ad-drefnu’r Cabinet cyn cynhadledd y Ceidwadwyr fis Hydref.

Ond yn dilyn y newidiadau diweddaraf, mae’n annhebygol bellach y bydd hynny’n digwydd.