Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn honiadau bod plismon wedi gyrru’n beryglus, yn dilyn marwolaethau dau berson ifanc yn eu harddegau yn Nhrelái eleni.
Bu farw Harvey Evans, 15, a Kyrees Sullivan, 16, yn dilyn gwrthdrawiad ar eu beiciau ar Fai 22.
Roedd clipiau teledu cylch-cyfyng yn dangos fan heddlu’n dilyn y ddau funudau cyn y digwyddiad.
Arweiniodd hyn at derfysg o fewn y gymuned, pan gafodd eiddo ei dorri a phlismyn eu hanafu.
Hysbysiadau camymddwyn difrifol.
Roedd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr heddlu eisoes wedi cyhoeddi bod hysbysiadau o gamymddwyn difrifol wedi cael eu cyflwyno i ddau heddwas o Heddlu’r De.
Mae un gyrrwr wedi cael gwybod ei fod yn destun ymchwiliad mewn perthynas â honiadau o yrru’n beryglus.
Mae David Ford, cyfarwyddwr Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, wedi diolch i’r gymuned am gynorthwyo’r ymchwiliad.
“Mae ein hymchwiliad annibynnol yn datblygu’n dda ac rwyf am ddiolch unwaith eto i’r gymuned leol am y gefnogaeth a ddarparwyd i’n hymchwiliad, gan gynnwys trwy rannu tystiolaeth teledu cylch cyfyng,” meddai.
Bydd penderfyniad dros achos disgyblu neu atgyfeiriad i Wasanaeth Erlyn y Goron yn cael eu gwneud yn dilyn yr ymchwiliad.