Mae adroddiadau bod cyn-gyfarwyddwr gweithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn bron i deirgwaith y cyflog roedd hi i fod i’w gael ar gyfer ei swydd.
Cafodd Gaynor Thomason ei thalu’n gyfwerth â chyflog blynyddol o £496,500 oedd £105,648 yn fwy na’r hyn roedd hi i fod i’w dderbyn yn ystod ei phedwar mis yn y rôl.
Mae rheoliadau Llywodraeth Cymru’n nodi mai £149,334 yw’r uchafswm y dylai rywun ei dderbyn o dan fand cyflog 14.
Daw’r canfyddiadau gan Archwilio Cymru, wedi iddyn nhw edrych ar y cyfrifon ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 1 a Gorffennaf 31 y llynedd, pan oedd Gaynor Thomason yn gyfarwyddwr gweithredol.
‘Gwbl annerbyniol’
Mae’r adroddiadau’n codi “cwestiynau difrifol” am y drefn bresennol, yn ôl llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae’r ffaith bod cyfrifon y Bwrdd Iechyd wedi’u cymeradwyo am ail flwyddyn yn olynol yn rhyfeddol ac yn codi cwestiynau difrifol am effeithiolrwydd trefn ymyrraeth a chyfeirio Llywodraeth Cymru,” meddai Darren Millar.
“Rhaid i drethdalwyr gogledd Cymru fod yn hyderus bod y rhai sy’n gyfrifol am wario ar wasanaethau cyhoeddus yn stiwardiaid da o’r adnoddau cyfyngedig a ddyrennir iddyn nhw.”
Dywed ei bod yn “gwbl annerbyniol” nad oedd yr arian cyhoeddus wedi mynd tuag at leihau’r straen ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, megis cwtogi rhestrau aros.
Ychwanega fod “cleifion yn dihoeni ar restrau aros, adrannau achosion brys yn methu, a phobol yn methu cael mynediad at ddeintyddion y Gwasanaeth Iechyd”.
“Dyma dystiolaeth bellach o’r angen am newid trefn lwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i roi terfyn ar y pydredd unwaith ac am byth,” meddai.
‘Blwyddyn heriol iawn’
Dywed Carol Shillabeer, Prif Weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fod y cyfrifon wedi’u cadw yn ystod blwyddyn “heriol iawn”.
“Yn amlwg, cafodd y bwrdd iechyd flwyddyn heriol iawn yn ystod 2022/23, arweiniodd at y sefydliad yn cael ei uwch gyfeirio i statws Mesurau Arbennig gan Lywodraeth Cymru,” meddai.
“Mae’r cyfrifon o’r cyfnod hwnnw wedi bod yn destun archwiliad trylwyr, ac mae’r rhesymau dros eu hamodi gan yr Archwilydd Cyffredinol yn glir.
“Mae’r Bwrdd newydd yn benderfynol o arwain llywodraethu gwell, gan gynnwys llywodraethu ariannol, ac mae ystod o gamau gwella ar unwaith eisoes ar y gweill.”