Does “dim lle i laesu dwylo” wrth adeiladu hyder plant wrth siarad Cymraeg yn yr ysgol nac yn gymdeithasol, yn ôl Cyngor Gwynedd.
Daw hyn ar ôl i’r ymgyrchydd iaith Angharad Tomos godi pryderon nad yw maint y dirywiad ieithyddol yng Ngwynedd wedi cael ei gofnodi, ac wrth iddi alw am gryfhau polisi iaith y sir.
Dylai pob plentyn yn y sir gael yr hawl i dderbyn addysg gyflawn drwy’r Gymraeg, meddai Angharad Tomos wrth fanylu ar y gofynion.
Wrth siarad ar ran Cymdeithas yr Iaith, dywedodd wrth golwg360 mai’r cwestiwn mawr yn dilyn Eisteddfod lwyddiannus ym Moduan ydy “sut i gadw gafael ar y Gymraeg yn Llŷn a gweddill Gwynedd”.
Heb bolisi iaith “llawer cadarnach”, bydd pethau’n dirywio’n gynt, meddai’r awdur a’r ymgyrchydd.
“Y diffyg mawr yw nad oes monitro ieithyddol wedi digwydd o gwbl gan y Cyngor yn ystod y blynyddoedd diweddar yng Ngwynedd, felly dydi maint y dirywiad heb ei gofnodi.
“Pan gawn wybod y gwir, bydd maint y dirywiad yn oeri’n gwaed.
“Un peth amlwg yw cryfhau polisi iaith Gwynedd yn ddiymdroi, a’r ail beth yw cryfhau’r polisi trochi fu mor llwyddiannus yn y gorffennol.”
Y sefyllfa a’r pryderon
Mae Adran Addysg Cyngor Gwynedd wedi gosod ysgolion uwchradd y sir – oni bai am Ysgol Friars ac Ysgol Tywyn – yng Nghategori 3 dan drefn categoreiddio newydd Llywodraeth Cymru.
Bydd ysgolion Categori 3 yn cynnig ystod eang o’u Meysydd Dysgu a Phrofiad drwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd o leiaf 60% o’r disgyblion yn ymgymryd ag o leiaf 70% o’u gweithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol yn yr ysgol yn Gymraeg.
Dylid rhoi’r ysgolion uwchradd yn y categori uchaf ar gyfer Addysg Cyfrwng Cymraeg, meddai Angharad Tomos.
Ychwanega hefyd fod yna broblemau o hyd o ran diffyg adnoddau cyfrwng Cymraeg, a bod yna “danariannu” ym maes trochi ieithyddol
Y llynedd, fe wnaeth Cyngor Gwynedd ofyn i Lywodraeth Cymru am £2.9m i wella canolfannau iaith y sir.
Dan y cynlluniau, byddai £1.1m yn cael ei fuddsoddi mewn adnoddau newydd yn Nhywyn a Bangor, ac i wella’r adnoddau ym Mhorthmadog.
Yn ôl Angharad Tomos, rhaid rhoi mwy o bwyslais ar ganolfannau trochi.
‘Blaenoriaeth’
Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd, mae sicrhau hyder plant wrth siarad Cymraeg yn yr ysgol ac yn gymdeithasol yn flaenoriaeth iddyn nhw.
“Dengys Cyfrifiad 2021 fod 86.2% o blant a phobl ifanc oedran ysgol (3-15 oed) yn gallu siarad Cymraeg, sydd yn ganran uwch na phoblogaeth gyffredinol y sir o 64.4%, ac yn sylweddol uwch na’r ganran o blant 3-15 oed drwy Gymru gyfan sy’n siarad Cymraeg, sef 32%,” meddai.
“Dengys hyn gyfraniad allweddol Polisi Iaith Addysg Gwynedd i gadernid y Gymraeg yn y sir.”
Er bod gwaith ysgolion yn “destun balchder a dathlu”, dywed y llefarydd nad oes “lle i laesu dwylo”, a’u bod nhw “wedi ymrwymo i barhau i gryfhau” eu darpariaeth Gymraeg eto.
“At hyn, dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi derbyn buddsoddiad i wella amgylchedd dysgu Canolfannau Iaith Gwynedd, ynghyd â buddsoddiad i gynyddu capasiti ysgolion Llanllechid, Bro Lleu a Chwilog er mwyn cefnogi tair cymuned o arwyddocâd ieithyddol i ffynnu, hynny yw cymunedau gyda dros 70% o siaradwyr Cymraeg,” meddai.
“Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio â grwpiau cymunedol a’r gymuned ehangach i sicrhau fod y Gymraeg yn iaith gynhwysol ac i’w chlywed ym mhob rhan o’r sir.”