Mae Cyngor Gwynedd yn gofyn i Lywodraeth Cymru am £2.9 miliwn o bunnoedd i wellau canolfannau iaith y sir yn ogystal â chynyddu capasiti nifer o ysgolion.
Bwriad y canolfannau yw trochi plant sydd ddim yn siarad Cymraeg yn yr iaith, fel bod modd iddyn nhw ddychwelyd i’w hysgolion wedyn i dderbyn addysg Gymraeg.
Os yw’r cais am arian gan Lywodraeth Cymru yn llwyddiannus, mae Cyngor Gwynedd yn dweud y byddan nhw’n gallu:
- buddsoddi mwy na £1.1 miliwn i gynyddu capasiti a gwella Canolfannau Iaith Gwynedd.
- buddsoddi mwy na £1.5 miliwn o arian cyfalaf a £300,000 o arian refeniw i gynyddu capasiti ysgolion Llanllechid, Bro Lleu a Chwilog er mwyn cefnogi tair cymuned o arwyddocâd ieithyddol i ffynnu, hynny yw cymunedau gyda dros 70% o siaradwyr Cymraeg.
“Arwain y ffordd”
Dywedodd Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Beca Brown: “Dros y degawdau mae Gwynedd wedi arwain y ffordd yn genedlaethol o safbwynt cefnogi a hyrwyddo addysg Gymraeg.
“Mae gennym weledigaeth gadarn i roi’r cyfle i bob disgybl a addysgir yn y sir – o Aberdaron i Abergwyngregyn i Aberdyfi – i adael yr ysgol yn ddinasyddion rhugl a hyderus eu Cymraeg.
“Yn ôl data cyfrifiad 2011 roedd 92.3% o ddisgyblion Gwynedd rhwng 5-15 oed yn ein hysgolion yn siaradwyr Cymraeg – y ganran uchaf yng Nghymru o beth ffordd – ac mae hyn yn destun balchder inni.
“Ond, mae lle i wella, i arloesi mwy ac i fod yn fwy uchelgeisiol byth dros ein pobl ifanc a’n hiaith.
“Bwriad ein pecyn cyffrous o fesurau ydi torri tir newydd yn y gefnogaeth yr ydym yn ei ddarparu i drochi pob disgybl sy’n symud i Wynedd yn y Gymraeg ac i gryfhau’r iaith mewn tair ysgol o fewn ein cadarnleoedd Cymraeg.”
Dau safle newydd
Mae’r gwaith o sefydlu dau safle addysg drochi newydd yn Nhywyn a Bangor wedi dechrau yn barod, yn ogystal â gwaith i wella’r adnoddau yn safle addysg drochi Porthmadog.
Yn ôl y Cyngor, mae’r buddsoddiad diweddaraf yma ym maes y Gymraeg yn ei alluogi i ddatblygu’r tri safle sy’n darparu addysg drochi i flynyddoedd 2-4 drwy:
- Buddsoddi ac ymestyn darpariaeth bresennol Canolfan Iaith Maesincla yng Nghaernarfon;
- Gwella’r adnoddau a chynyddu’r capasiti ym Meirionnydd drwy symud Canolfan Iaith Dolgellau i Ysgol Bro Idris;
- Gwella’r ddarpariaeth ac adnoddau yn ardal Dwyfor drwy symud Canolfan Iaith Llangybi i Ysgol Cymerau, Pwllheli.
“Cynlluniau cyffrous”
Ychwanegodd Beca Brown: “Fel plentyn i rieni di-Gymraeg wnaeth symud i Wynedd, dw i’n ystyried fy hun yn hynod lwcus fod fy mam a fy nhad wedi ymgartrefu mewn sir sy’n sicrhau fod pob disgybl – beth bynnag eu cefndir – yn gallu chwarae rhan lawn yn ein cymdeithas leol.
“Mae’n wir dweud y byddai’n annhebyg y byddwn wedi bod mor ffodus pe byddent wedi symud i ran arall o Gymru.
“Fy mlaenoriaeth fel Aelod Cabinet yw sicrhau fod pob plentyn yng Ngwynedd yn derbyn yr un cyfleoedd ac y cefais i a, ble bynnag bosib, ein bod yn buddsoddi i gyflwyno gwelliannau pellach.
“Mae’r cynlluniau cyffrous yma yn torri tir newydd o safbwynt addysg Gymraeg yng Ngwynedd, ac yn llythrennol felly ym Mangor a Thywyn.
“Byddaf felly yn argymell yn gryf fod y Cabinet yn cefnogi’r argymhelliad i fwrw ymlaen efo’r cynigion yma a bod cais am £2.9miliwn o gefnogaeth ariannol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru fel y gallwn wireddu ein gweledigaeth.”