Gyda’r ras i olynu Boris Johnson yn poethi, mae un o leisiau amlyca’r Ceidwadwyr yng nghefn gwlad yn galw ar ei olynwyr posib i ddod i’r Royal Welsh yr wythnos nesaf.

Bydd y sioe amaethyddol fawr yn cael ei chynnal am y tro cyntaf ers 2019, ac mae yna hen edrych ymlaen – er y bydd yna ofid hefyd o gofio bod y proffwydi tywydd yn rhagweld y bydd hi’n chwilboeth ddechrau’r wythnos.

Y Sioe Frenhinol yw’r achlysur pwysicaf yng nghalendr amaethwyr Cymru, gyda 200,000 yn tyrru i Lanelwedd ym Mhowys, ble bydd 7,000 o anifeiliaid yn cael eu harddangos a lle bydd 1,000 o stondinau.

Ac un ffermwr fydd yno yw’r Cynghorydd Aled Davies, a fu tan etholiadau lleol mis Medi yn Ddirprwy Arweinydd Cyngor Powys.

Mae’r Ceidwadwr yn dweud bod yr achlysur yn cynnig cyfle da i ddarpar Brif Weinidogion y Deyrnas Unedig ddangos eu doniau.

“Fe fysai’n braf gweld rhai o’r ymgeiswyr yn dod i ymgyrchu yn y Sioe Frenhinol,” meddai.

“Dw i ddim yn meddwl y bydd y rhestr fer wedi cael ei phenderfynu erbyn bod y Sioe Frenhinol wedi cychwyn.

“Ond fe fyddai’n braf gweld rhai o’r ymgeiswyr yn y Sioe, dw i’n siŵr y byddan nhw’n cael croeso cynnes.

“Mae’r Sioe Frenhinol yn ofnadwy o bwysig, ac mi fydd hi’n braf gweld pawb yn dod at ei gilydd eto yn Llanelwedd.

“Mae o’n gyfle da i’r ymgeiswyr yn sicr, mae rhywun fel Rishi Sunak yn cynrychioli ardal wledig yn Swydd Efrog, a dw i wedi ei glywed o’n siarad am ffermwyr yr ardal.

“Mae gen i lawer o barch at Rishi Sunak ac mi fyddai’n braf ei weld o yn Llanelwedd.”

‘Niwed wedi cael ei wneud’

Mae Aled Davies yn cynrychioli ward Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Llansilin ac yn gyn-Ddirprwy Arweinydd ar Gyngor Powys.

Mae’n deg dweud ei fod o a Cheidwadwyr eraill ym Mhowys wedi dioddef yn yr etholiadau lleol ar 5 Mai, yn sgil arweinyddiaeth Boris Johnson.

Fe fu’r Ceidwadwyr Cymreig yn rheoli Cyngor Powys ar y cyd â’r Annibynwyr rhwng 2017 a 2022.

Fodd bynnag, llwyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol i sefydlu eu hunain fel y blaid fwyaf ym Mhowys ar 5 Mai, gan fynd ymlaen i sefydlu clymblaid gyda’r Blaid Lafur.

Ac yntau braidd yn ansicr ynglŷn â pha gyfeiriad y bydd y Blaid Geidwadol yn mynd nesaf, mae Aled Davies yn dweud ei fod yn disgwyl i weld pwy fydd y ddau olaf yn y ras cyn datgan cefnogaeth i ymgeisydd penodol.

“Mae o’n dibynnu pwy fydd yn y ddau olaf pan fydd yr etholiad yn cael ei gynnal, ond dw i’n gobeithio mai rhwng Rishi Sunak a Penny Mordaunt y bydd hi,” meddai wrth gylchgrawn Golwg.

“Dw i’n meddwl fod gan Rishi Sunak y profiad, roedd o yna ar ddechrau Covid ac fe gyflwynodd o’r cynlluniau hyn i gyd i edrych ar ôl busnesau ac ati, fe lwyddodd o i wneud hynny yn gyflym iawn.

“Does dim dwywaith bod niwed wedi cael ei wneud [gan Boris Johnson], ond mae gennym ni gyfle rŵan i dynnu llinell oddi tano hwnna a symud ymlaen ac mi fydd yr etholiad yma’n rhywbeth positif i’r blaid.

“Mi fydd o’n gyfle i edrych ar y talent sydd y tu mewn i’r blaid.

“Mae hi’n bwysig iawn bod y Prif Weinidog yn rhoi stamp ei hun ar bethau, ac mae’n bwysig ein bod ni ddim jyst yn ethol arweinydd i’r blaid, ond arweinydd i’r wlad.

“Ac mae’n bwysig bod y person sy’n cael ei ethol yn gyfathrebwr, rhywun sy’n gallu cyfleu syniadau newydd ar sut i hybu’r economi ac arwain y wlad allan o’r anawsterau rydan ni’n eu hwynebu ar y funud.”

Erbyn hyn mae yna bump yn y ras i olynu Boris Johnson yn Brif Weinidog gwledydd Prydain – Rishi Sunak, Penny Mordaunt, Liz Truss, Tom Tugendhat a Kemi Badenoch.

Mi fydd y pump i’w gweld mewn dadl deledu fyw ar Channel 4 heno – nos Wener, Gorffennaf 15 – am 7.30yh.