Mae Lluís Puig, cyn-weinidog yng Nghatalwnia sydd bellach yn byw’n alltud yng Ngwlad Belg, yn gobeithio cael cefnogaeth Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd wrth i Sbaen geisio’i estraddodi er mwyn ei erlyn am ei ran yn refferendwm annibyniaeth 2017.
Mae’r Eiriolwr Cyffredinol wedi cynghori y dylid gweithredu gwarant i’w arestio, ond mae Gwlad Belg wedi bod yn ceisio gwrthod y fath gamau yn erbyn nifer o wleidyddion, gan gynnwys y cyn-arweinydd Carles Puigdemont, sydd hefyd wedi bod yn byw’n alltud yn y wlad honno.
Ddoe (dydd Iau, Gorffennaf 14), dywedodd yr Eiriolwr Cyffredinol na all gwledydd eraill gwestiynu’r Goruchaf Lys mewn gwledydd sy’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd, oni bai bod modd dangos “diffygion systemig” yn eu systemau cyfiawnder, gan arwain y ffordd i Puig gael ei estraddodi i Sbaen i wynebu cyhuddiadau.
Ond mae’n gobeithio y bydd barnwyr yn gweithredu’n groes i’r cyngor hwnnw, ond dydy hynny ddim yn digwydd yn aml iawn.
Pe bai’r llysoedd yn dyfarnu yn ei erbyn, bydd yn rhaid iddo ddechrau o’r dechrau wrth geisio ymladd yn erbyn y cyhuddiadau.
90% o’r amser, mae penderfyniadau’r Eiriolwr Cyffredinol yn “bendant”, wrth gael y gair olaf ar ran y llysoedd, ond mae Catalwnia’n apelio arnyn nhw i “feddwl am y 10% arall”.
‘Diffygion systemig’
Yn ôl cyfreithwyr Carles Puigdemont, mae’r sefyllfa bresennol yn arwydd o “ddiffygion systemig”.
Daw hyn ar ôl i recordiadau o José Manuel Villarejo, cyn-gomisiynydd blaenllaw gyda’r heddlu, gael eu cyhoeddi yn dangos y camau gymerodd Llywodraeth Sbaen dros gyfnod hir o amser i bardduo’r ymgyrch tros annibyniaeth i Gatalwnia.
Mae’r achos hwn, yn ôl rhai, yn ddigon o dystiolaeth i allu honni bod yna “ddiffygion systemig” yn y system gyfiawnder.
Mae Carles Puigdemont, Toni Comín a Clara Ponsatí, sydd i gyd yn gyn-weinidogion sydd bellach yn byw’n alltud, yn aros i’w hachosion fynd rhagddynt a bydd yn rhaid iddyn nhw aros eto waeth bynnag am y sefyllfa bresennol hon oherwydd dydy eu statws imiwnedd ddim eto wedi cael ei ddatrys.
Collodd y tri eu himiwnedd fis Mawrth y llynedd, ond mae eu cyfreithwyr wedi apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
Cawson nhw eu breintiau seneddol yn ôl fis Mehefin y llynedd, a’u colli nhw eto y mis canlynol yn dilyn penderfyniad dros dro.
Ond ym mis Mai eleni, cawson nhw eu himiwnedd yn ôl dros dro gan Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd.