Gallai’r teulu brenhinol barhau i fod yn gyswllt rhwng gwledydd Prydain ar ôl i Gymru, yr Alban a Lloegr wahanu, yn ôl Dafydd Wigley.
Byddai angen i’r cenhedloedd ddod o hyd i sefydliadau ar y cyd er mwyn cydweithio ar ôl annibyniaeth, meddai.
Wrth siarad â Newyddion S4C, ychwanegodd y byddai’r frenhiniaeth yn chwarae rôl debyg i wledydd eraill lle mae’r Frenhines yn bennaeth gwladwriaeth, fel Seland Newydd.
“Y realiti yw, yn yr ynysoedd hyn, hyd yn oed os yw’r Alban a Chymru a Lloegr yn wledydd annibynnol, y bydd yn rhaid i ni gael rhyw ffordd o gydweithio â’n gilydd ar faterion sy’n bwysig,” meddai.
“‘Rydan ni hefyd yn derbyn, mae’r Blaid yn derbyn yng Nghymru, mae’r SNP yn derbyn yn yr Alban, y bydd y frenhiniaeth yn aros.
“Dylai gwaith y Frenhines fod yn wahanol i Gymru a’r Alban nag ydyw ar hyn o bryd – dylai fod yn fwy tebyg i’r hyn mae hi’n ei wneud yn Seland Newydd.
“Ond rydym yn parchu hynny fel math o gyswllt sy’n dangos ein bod yn cydnabod y berthynas sydd wedi bod gyda Lloegr, ond fe fyddai’r pŵer ymarferol o ddydd i ddydd yn nwylo Cymru.”
‘Ateb cwestiynau rhesymol’
Ychwanega Dafydd Wigley fod angen i’r mudiad annibyniaeth allu ateb cwestiynau rhesymol ynglŷn â sut y byddai’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr yn gweithredu ar ôl annibyniaeth.
“Mae gwaith i’w wneud i ateb cwestiynau rhesymol gan Mrs Jones sy’n byw yng Nghei Connah, yn gweithio yng Nghaer ac sy’n mynd yn ôl ac ymlaen bob dydd,” meddai.
“A fydd gennym ffin agored, fydd nwyddau’n gallu symud yn ôl ac ymlaen, a fydd yr arian hwnnw’n gallu symud yn ôl ac ymlaen?
“Dyma’r cwestiynau y mae’n rhaid eu hateb yn glir cyn inni ofyn i bobol Cymru bleidleisio dros annibyniaeth.
“Rwy’n gwbl argyhoeddedig ei bod yn bosibl cael yr atebion hynny yn glir ac yn gryno ac yn gywir, a’i bod yn bosibl argyhoeddi pobol Cymru ar yr adeg gywir.
“Dydyn ni ddim wedi cyrraedd hynny eto ond bydd yn sicr yn dod o fewn y blynyddoedd nesa’.”