Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Powys yn cymryd rhan yn yr orymdaith Pride gyntaf erioed ym Mhowys yn Llandrindod y penwythnos hwn.

Mae’r orymdaith, sy’n cael ei chynnal ddydd Sadwrn (Gorffennaf 16), yn ddigwyddiad nodedig i’r gymuned LHDTC+ yn y sir, ond hefyd i’r Cyngor fydd yn cymryd rhan fel aelod o Gyngor Balch.

Partneriaeth wirfoddol o awdurdodau lleol yng Nghymru yw Cynghorau Balch sy’n rhagweithiol o ran cynnwys pobl LHDTC+.

Cafodd ei ffurfio yn 2015 i sicrhau bod llywodraeth leol ledled Cymru yn arweinydd gweladwy yn y maes hawliau LHDTC+, ac yn mynd ati i hyrwyddo cynhwysiant LHDTC+ mewn cymunedau ledled Cymru.

Nod y bartneriaeth yw creu dull unedig a chydweithredol o ymdrin â chynhwysiant LHDTC+ ledled Cymru, gan gefnogi awdurdodau lleol sy’n aelodau, trwy eu hymrwymiad i greu gweithleoedd a chymunedau cyfartal, amrywiol a chynhwysol, lle gall y gymuned LHDTC+ fod yn rhydd o wahaniaethu neu ragfarn.

‘Cyflogwr croesawgar a chynhwysol’

“Rwy’n falch iawn bod Cyngor Sir Powys yn cymryd rhan fel Cyngor Balch yn yr orymdaith Pride cyntaf erioed ym Mhowys y penwythnos hwn,” meddai’r Cynghorydd Matthew Dorrance, dirprwy arweinydd ac Aelod Cabinet dros Bowys Decach.

“Rydym am ddangos i bobol bod y Cyngor yn gyflogwr croesawgar a chynhwysol sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo amrywiaeth ar draws ein gweithlu tra’n cefnogi’r gymuned LHDTC+ ym Mhowys.

“Mae’n bwysig bod y Cyngor yn cymryd rhan mewn digwyddiadau fel Powys Pride a bod pobol LHDTC+ yn ein cymunedau yn gwybod eu bod ganddynt gefnogaeth lawn y cyngor.”