O ddathlu penblwydd Sesiwn Fawr Dolgellau yn 30 oed i ddathlu balchder yn y Cymoedd, mae yna ddigonedd ymlaen y penwythnos yma. Dyma ‘Geid golwg360’…


Sesiwn Fawr Dolgellau

Bydd yr ŵyl werin yn cael ei chynnal dros y penwythnos (Gorffennaf 15-17), gydag artistiaid fel Sŵnami, Bwncath, Skerryvore, Gwilym Bowen Rhys, a N’Famady Kouyate yn perfformio.

Mae’r arlwy yn ymestyn y tu hwnt i gerddoriaeth hefyd, ac yn cynnwys lansiad cyfrol i ddathlu pen-blwydd y Sesiwn Fawr yn 30 oed, Tydi’r Sgwar Ddim Digon Mawr, taith chwedlonol o amgylch y dref, a gweithgareddau i blant.

Fe fydd tua 54 o artistiaid yn perfformio ar naw llwyfan yn y dref.

Pryd? nos Wener (Gorffennaf 15) – nos Sul (Gorffennaf 17)

Ble? Amryw o leoliadau o amgylch y dref

Darllenwch ragor yma:

“Gobeithio fedrith Sesiwn Fawr fynd am ddeng mlynedd arall, a gobeithio fydda i’n perfformio yno…”

Cadi Dafydd

Yws Gwynedd yn edrych yn ôl ar ei gysylltiad â Sesiwn Fawr Dolgellau ac yn edrych ymlaen at gloi’r nos Sadwrn eleni wrth i’r ŵyl werin droi’n 30 oed

Gŵyl Balchder Rhondda

Mae cyfle i ddathlu’r gymuned LHDTC+ yn y Rhondda y penwythnos yma, gyda bron i 30 o berfformwyr, stondinau bwyd ac adloniant i’r teulu cyfan.

Pryd? 11yb nes 10yhdydd Sadwrn (Gorffennaf 16) – dydd Sul (Gorffennaf 17)

Ble? Ffatri Bop y Porth, Stryd Jenkins, CF39 9PP

Gŵyl Balchder y Fenni

Bydd Balchder y Fenni yn dychwelyd ddydd Sadwrn (Gorffennaf 16) i ddathlu a chefnogi’r gymuned LHDTC+ gyfan yn Sir Fynwy, eu teuluoedd a’u ffrindiau. Maen nhw’n gobeithio cefnogi “unrhyw bobol ifanc sydd wedi teimlo’n arbennig o unig yn ystod y pandemig”.

Pryd? 12yh – 6yh, dydd Sadwrn (Gorffennaf 16)

Ble? Eglwys Priordy’r Santes Fair, Y Fenni

Gŵyl Balchder Powys

Bydd gŵyl balchder gyntaf Powys yn cael ei chynnal dros y penwythnos gyda chymysgedd o ŵyl, parêd a pharti. Ymysg y perfformwyr mae Qwerin, Megan Reece a Chris Rio.

Pryd? 12yh – 12yb, dydd Sadwrn (Gorffennaf 16)

Ble? Amryw o leoliadau o gwmpas Llandrindod


Twrnament Pêl-droed CPDI Porthmadog

Bydd twrnament pêl-droed timau uwchradd yng Nghlwb Pêl-droed Porthmadog. £2 fydd cost mynediad i weld y twrnament, gyda’r elw yn mynd tuag at gronfa Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn 2023.

Pryd? 10yb – 12yh, dydd Sadwrn (Gorffennaf 16)

Ble? Clwb Chwaraeon Madog


Ras Ryngwladol yr Wyddfa

Mae un o heriau dygnwch caletaf Ewrop yn dychwelyd – mae’r ras 10 milltir yn golygu rhedeg o ymyl Llyn Padarn ym mhentref Llanberis i gopa uchaf Cymru a Lloegr ac yn ôl i lawr. Cafodd Ras yr Wyddfa ei darlledu am y tro cyntaf ym 1987 ar S4C a heddiw mae’n un o brif ddigwyddiadau’r calendr chwaraeon cenedlaethol. Mae rhedwyr o fwy na deg gwlad wahanol yn cystadlu bob blwyddyn ond mae hefyd yn ddigwyddiad pwysig iawn yn lleol sy’n helpu i roi Llanberis ar y map ac yn hwb i dwristiaeth a’r economi leol.

Bydd hefyd ras ieuenctid ac mae’n bosib cofrestru ar y diwrnod.

Pryd? dydd Sadwrn (Gorffennaf 16)

Ble? Bydd cyfle i fwynhau’r ffair a stondinau a chyfle i weld y rhedwyr yn gorffen y ras yng Nghae’r Ddôl yn Llanberis.


Wonderfest 2022

Fel rhan o’r ŵyl yn Abertawe bydd gweithdai sglefrfyrddio, arddangosfa gelf, ysgol goedwig, gweithdai sgiliau syrcas a mwy. Mae hi’n ŵyl flynyddol ar gyfer pobol ifanc 13+ oed, rhieni a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobol ifanc i gefnogi eu lles.

Pryd? 11yb – 4 yh, dydd Sul (Gorffennaf 17)

Ble? Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe

Wonderfest 2022

11:00, 17 Gorffennaf 2022
Ar ddyd Sul 17 Gorffennaf, bydd Wonderfest yn cynnal gŵyl yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Am ragor o wybodaeth am rai o’r digwyddiadau, neu os hoffech chi hysbysebu’ch digwyddiad eich hun, ewch draw i Calendr360.