Bydd S4C yn dangos pennod arbennig o Cefn Gwlad yn dathlu bywyd Iolo Owen, amaethwr 90 oed sy’n dal i chwilio am gyfleon busnes ac yn adfer tŷ tafarn ar Ynys Môn.

Mae ganddo bump o blant gan gynnwys y digrifwr a chyflwynydd radio Tudur Owen.

Yn y rhaglen, fydd i’w gweld am naw o’r gloch ar nos Lun, 25 Gorffennaf 25, bydd Iolo a’i blant yn edrych yn ôl ar ei fywyd.

Unig blentyn oedd Iolo yn byw ar fferm denantiaeth ddiarffordd Bodgedwydd yn ne-orllewin Ynys Môn, cyn symud yn i Trefri, un o ffermydd mwyaf stad Bodorgan ym mhlwy’ Bodorgan, cartref hen lys Brenhinoedd Gwynedd.

Magodd yntau a’i wraig, Gwyneth, bump o blant yno, ac mae ei fab Richard yn ffermio yno erbyn hyn.

Fis Tachwedd y llynedd, cafodd Iolo agor Ffair Aeaf Môn yn gydnabyddiaeth am ei gyfraniad i’r sector amaethyddol.

Mae’r gŵr 90 oed, sy’n frodor o Ynys Môn, bellach yn edrych ymlaen at ei fenter ddiweddaraf sef adfer tŷ tafarn ym Malltraeth.

Anifeiliaid gwyllt

Yn yr 1950au prynodd tad Iolo fferm Glantraeth ac ar ddechrau’r 70au, penderfynodd Iolo droi’r hen siediau’n llwyfan i nosweithiau llawen ac yn fwyty.

Chwe bwthyn gwyliau sydd yno erbyn hyn, a’r hen fwyty bellach yn gartref i deulu lleol.

Bydd Iolo yn hel atgofion am ei gyfnod yn rhedeg y bwyty ar y rhaglen.

“Roedd yna ryw foi o’dd yn rentio tŷ gen i yn rhedeg pet shop ym Mangor” meddai.

“Roedd ganddo fwncwns ac anifeiliaid gwyllt eraill a cai o ddim cadw nhw ym Mangor.

“Ac mi ofynnodd os oedd gen i rywle i roi nhw.

“Wnes i feddwl: ‘Duwcs mi dynnith rhein bobol i’r bwyty!’

“Mi oedd o’n dead loss,” meddai wedyn.

“Ddo’th yna lew yna, a hwnnw’n fawr fwy na ci, cradur bach. Yn denau, a ‘di colli’i flew. A sna’m byd hyllach na llew ‘di colli’i flew!”

“Na’th y riportars ‘ma ddod o News of the World a neud rhyw fath o expose” ychwanega Tudur Owen.

“A dw i’n meddwl mai’r prif beth welson nhw oedd y llew yma mewn rhyw gawell yn edrych yn drist.

“A mi wnaethon nhw alw’r lle ‘the worst zoo in Britain‘”.