Cafodd Sesiwn Fawr Dolgellau ei chynnal dros y penwythnos hwn, gyda miloedd yn dychwelyd i’r ŵyl werin boblogaidd yng nganol tref Dolgellau am y tro cyntaf ers dwy flynedd.

Cafodd pob tocyn penwythnos i’r ŵyl ei werthu yn gynt nag erioed eleni, ac roedd 58 o artistiaid yn perfformio ar draws naw llwyfan, gan ddod â chymysgedd eclectig o gerddoriaeth gwerin, roc a byd i’r dref.

Ymhlith artistiaid cerddorol prif lwyfan yr ŵyl yng Ngwesty’r Ship roedd Yws Gwynedd, Sŵnami, Tara Bandito, Skerryvore o’r Alban, N’famady Kouyaté o Guinea Gorllewin Affrica a The Trials of Cato.

Mae’r Sesiwn Fawr yn cael ei threfnu gan bwyllgor bychan o wirfoddolwyr lleol, gan gynnwys aelodau sydd wedi bod yno ers y dechrau un 30 mlynedd yn ôl, ynghyd â tho iau o drefnwyr.

‘Tydi’r Sgwâr ddim digon mawr’

Ymysg y sgyrsiau llenyddol roedd digwyddiad arbennig i lansio cyfrol y Sesiwn, Tydi’r Sgwâr ddim digon mawr, sy’n llawn hanesion, lluniau a hynt a helynt 30 mlynedd o’r Sesiwn Fawr.

“Roedd hi mor braf croesawu pawb yn ôl i’r Sesiwn wedi dwy flynedd o egwyl,” meddai Ywain Myfyr, awdur y gyfrol ac un o sylfaenwyr y Sesiwn Fawr.

“Pawb wedi cyrraedd hefo gwên lydan ar eu wynebau, ac mae’r wên wedi mynd yn fwy llydan fyth wrth i’r penwythnos fynd yn ei flaen ac wrth i bawb fwynhau’r arlwy amrywiol.

“Yn ogystal â bod yn hwb i’r ysbryd, mae’r penwythnos hefyd wedi bod yn hwb sylweddol i economi’r ardal yn dilyn cyfnod heriol o ganlyniad i’r pandemig.

“Dwi’n gobeithio y gallwn ni gyd edrych ymlaen yn hyderus at y 30 mlynedd nesa.”

‘Am benwythnos arbennig!’

“Am benwythnos arbennig!” meddai Llinos Rowlands, un o berchnogion siop gwin Dylanwad yn Nolgellau.

“Cafodd sawl ymwelydd sypreis neis o ddod wrth ddod ar draws yr ŵyl, a methu credu’r holl fwrlwm oedd i’w gael mewn tref mor fach.

“Am ddechrau da i’r haf i fusnesau’r dref.

“Diolch o galon i Bwyllgor y Sesiwn Fawr am eu gwaith caled unwaith eto.”

Bydd cyfle i fwynhau uchafbwyntiau’r Sesiwn Fawr mewn rhaglen arbennig 90 munud o hyd ar S4C, nos Sadwrn, Gorffennaf 23.

Am fwy o wybodaeth, ewch i www.sesiwfawr.cymru a chyfryngau cymdeithasol Sesiwn Fawr Dolgellau @sesiwnfawr / #SFD30.

Disgwyl “parti mawr” yn Nolgellau i ddathlu pen-blwydd y Sesiwn Fawr yn 30 oed

Cadi Dafydd

“I’r rhai sydd wedi tyfu fyny efo’r Sesiwn, mae’n anodd dychmygu’r dref hebddi…”

“Gobeithio fedrith Sesiwn Fawr fynd am ddeng mlynedd arall, a gobeithio fydda i’n perfformio yno…”

Cadi Dafydd

Yws Gwynedd yn edrych yn ôl ar ei gysylltiad â Sesiwn Fawr Dolgellau ac yn edrych ymlaen at gloi’r nos Sadwrn eleni wrth i’r ŵyl werin droi’n 30 oed