Fe all pobol ddisgwyl “parti mawr” yn Nolgellau wrth i’r Sesiwn Fawr ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed.

Bydd 58 o artistiaid yn perfformio ar draws naw llwyfan yn y dref dros y penwythnos (Gorffennaf 15-17), gan gynnwys Yws Gwynedd, Swnami, Tara Bandito a N’famady Kouyate.

Ynghyd â’r arlwy gerddorol, bydd sesiynau llên a chomedi ar gael i’w mwynhau yn rhad ac am ddim, yn ogystal â gweithgareddau i ddiddanu’r rhai iau, draw yn ardal newydd sbon y Pentre’ Plant.

“Mae yno wir rywbeth i bawb! Mae hi’n ŵyl gartrefol braf sydd wedi ei threfnu gan bwyllgor gwirfoddol yn lleol, a bydd croeso cynnes yn eich disgwyl yn Nolgellau,” meddai Siân Davenport, Swyddog Datblygu’r ŵyl, wrth golwg360.

“Cerddoriaeth byw, tywydd braf a chwrw da – be well?”

Torf Sesiwn Fawr 2019 yn codi’u gwydrau

Mae cyrraedd y 30 oed yn deimlad “od”, meddai’r trefnwyr.

“Mae’r Sesiwn yn hŷn na rhai o aelodau’r pwyllgor sy’n ei threfnu, bellach,” meddai Siân Davenport.

“I’r rhai sydd wedi tyfu i fyny efo’r Sesiwn, mae’n anodd dychmygu’r dref hebddi, ac mae’r rhai sydd wedi bod yno ers y dechrau un yn pendroni i le mae’r 30 mlynedd wedi mynd.

“Ond teimlad braf a balch hefyd o edrych yn ôl ar yr hyn mae’r Sesiwn Fawr wedi ei gyflawni dros y cyfnod hwnnw, wrth gwrs.”

Bydd cyfrol yn adrodd hynt a helynt y Sesiwn Fawr dros y blynyddoedd, Tydi’r Sgwâr ddim digon mawr, yn cael ei lansio yn Nhŷ Siamas yn Nolgellau am 2yp ddydd Sadwrn.

‘Gwledd’

Gyda’r lein-yp yn un mor fawr, mae’n anodd iawn i bwyllgor y Sesiwn ddewis uchafbwyntiau.

“Yws Gwynedd, Skerryvore, Tara Bandito, Mellt, Bwncath, Eadyth, N’Famady Kouyate … mae gormod i’w rhestru!

Swnami

“I ni fel pwyllgor, bydd hi’n braf cael gweld bandiau lleol fel Swnami a Lewys yn hawlio eu lle ar lein-up y prif lwyfannau, a hefyd y bandiau lleol mwy newydd fydd yn chwarae o amgylch amrywiol dafarndai y dref dros y penwythnos.

“Mae gwledd o ddigwyddiadau llenyddol i’w mwynhau yn rhad ac am ddim gan gynnwys taith llwybr chwedlau o amgylch y dref, sgwrs am gan mlynedd o waith dyngarol yr Urdd hefo Mari Emlyn, a recordiad byw o bodlediad Colli’r Plot yn cofio’r awdures o Ddolgellau, Marion Eames.

“I’r rhai sydd heb docyn penwythnos, mae dal cyfle i brynu tocyn ar y drws ar gyfer y Sesiwn Jazz yng nghaffi T H ar y nos Wener, y Sesiwn Gomedi yn Ty Siamas ar y nos Sul. Heb anghofio am y cyngerdd arbennig yn Eglwys y Santes Fair yng nghwmni Casi Wyn x Seindorf, Vri a Beth Celyn i gloi dathliadau Sesiwn Fawr 2022 ar y nos Sul.”

Mae tocynnau ar werth ar wefan sesiwnfawr.cymru; Siop y Cymro, Gwin Dylanwad a Tŷ Siamas yn Nolgellau; Siop Eifionydd ym Mhorthmadog; ac Awen Meirion yn y Bala.

‘Y gorau o fyd gwerin’

Bwriad y Sesiwn Fawr ydi arddangos “y gorau o fyd gwerin”, ochr yn ochr â cherddorion lleol a cherddoriaeth byd, sy’n disgyn o dan bob math o genres.

Skerryvore, fydd yn cloi’r nos Wener yng nghefn Gwesty’r Ship

“Rydyn ni’n hynod o ffodus i gael y band gwerin byd enwog o’r Alban – Skerryvore – yn cloi lein-up y Brif Lwyfan yng nghefn y Ship ar nos Wener y Sesiwn eleni – band sy’n cyrraedd capasati o rai miloedd ar eu liwt eu hunain! Bydd eu taith yn mynd a nhw o Ddolgellau i’r UDA, ac yna i Ddenmarc.

“Mae un o fandiau eraill y Sesiwn, Truckstop Honeymoon, newydd ddod yn ol o’u taith yn Norwy mewn pryd i’r Sesiwn Fawr – felly yn sicr mae poblogrwydd byd eang i gerddoriaeth werin, ac mae’r Sesiwn Fawr yn falch o roi Dolgellau ar fap y teithiau hyn!

“Mae rhai o fandiau gwerin cynnar y Sesiwn fel y Moniars, Bob Delyn a Gwerinos yn dal wrthi, ac mae bandiau gwerin eraill sydd wedi camu ar lwyfannau’r Sesiwn Fawr ar ddechrau eu taith, fel Calan a NoGood Boyo hefyd wedi chwarae’n rhyngwladol erbyn hyn.

“Mae’n braf meddwl bod y Sesiwn wedi bod yn rhan fach o hynny.”

‘Da ni ’nôl’

Cynhaliwyd yr ŵyl yn ddigidol, ‘Sesiwn Fawr Ddigi-Dol’, dros y pandemig, ond does dim byd i guro’r Sesiwn go iawn, meddai Siân Davenport.

“Bydd cael bloeddio ‘Da ni ‘nôl’ (cân Frizbee – hen ffrindiau’r Sesiwn) yn ein cannoedd wrth i Yws Gwnedd gloi’r nos Sadwrn yng nghefn Gwesty’r Ship yn gam balch ymlaen o wyliau’r cyfnod clo.

“Bydd yr haul yn siŵr o dywynnu ar Ddolgellau y penwythnos yma, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’r holl sesiynwr yn ôl i ddathlu.”

“Gobeithio fedrith Sesiwn Fawr fynd am ddeng mlynedd arall, a gobeithio fydda i’n perfformio yno…”

Cadi Dafydd

Yws Gwynedd yn edrych yn ôl ar ei gysylltiad â Sesiwn Fawr Dolgellau ac yn edrych ymlaen at gloi’r nos Sadwrn eleni wrth i’r ŵyl werin droi’n 30 oed