Mae telynorion o’r gogledd yn gobeithio croesawu myfyrwyr prifysgol o ogledd-ddwyrain India i Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y flwyddyn nesaf, ar ôl bod yn rhoi gwersi iddyn nhw.

Fe wnaeth Gwenan Gibbard, Nia Williams a Catrin Morris Jones dreulio deng niwrnod yn ninas Shillong yn cydweithio ag artistiaid o fryniau Khasia.

Ers 2022, mae Canolfan Gerdd William Mathias wedi bod yn cydweithio ag Ysgoloriaeth Mair Jones er mwyn uno traddodiadau cerddorol Cymru a gogledd-ddwyrain India.

Bu farw’r delynores Mair Jones yn 2021, a’i dymuniad oedd i’w thelyn Geltaidd gyrraedd bryniau Khasia.

Dan arweiniad y dylunydd Cefyn Burgess gafodd yr ysgoloriaeth ei sefydlu, a llwyddodd telyn Mair Jones i gyrraedd bryniau Khasia.

Ers hynny, mae prosiect y Ganolfan Gerdd wedi datblygu, gyda chyfleoedd yn codi i unigolion megis Gwenan Gibbard, Nia Williams a Catrin Morris Jones gael teithio i India i weld y cysylltiad rhwng cerddoriaeth Gymraeg a Khasi – rhywbeth oedd o gryn ddiddordeb i Mair Jones.

Uno traddodiadau

Roedd sawl elfen i’r daith, gan gynnwys y cyfle i gynnig gwersi telyn i fyfyrwyr mewn colegau lleol a pherfformio yng Ngŵyl Tri Hills – rhywbeth oedd yn “agoriad llygad” i Gwenan Gibbard.

“Roedd hyny’n ofnadwy o ddiddorol i fi, mi oedden nhw’n dysgu am ein cerddoriaeth ni yng Nghymru ac wedyn mi oedden ni’n cael clywed eu caneuon nhw yn eu hiaith Khasi, oedd yn wych a dweud y gwir,” meddai wrth golwg360.

“Mi oedden nhw’n ymwybodol o’r cysylltiad rhwng Cymru a bryniau Khasia, oherwydd bod y cenhadon Cymreig wedi mynd draw yno yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

“Roedd yr holl brofiad yn un cwbl arbennig, a chael rhannu caneuon efo’r cerddorion yno yn sicr yn uchafbwynt i mi.

“Mae geiriau ac alaw yn bwysig iawn yn nhraddodiad pobol bryniau Khasia, fel i ni’r Cymry; mae’n rhyfeddol sut mae cerddoriaeth yn gallu uno pobol o rannau mor wahanol o’r byd.”

Cyfle i gyfarfod â myfyrwyr

Roedd y daith yn gyfle i’r delynores Catrin Morris Jones gyfarfod â’i myfyrwyr o Brifysgol Gristnogol Martin Luther, ar ôl dros flwyddyn yn eu dysgu nhw dros y we i ganu’r delyn.

Mae ei myfyrwyr bellach yn gallu cyfansoddi a chanu gyda’r delyn, ac roedd gallu cwrdd â nhw wyneb yn wyneb yn rhywbeth arbennig iawn iddi, meddai wrth golwg360.

“Mi ges i gyfle i wneud gweithdai yn y brifysgol gyda myfyrwyr newydd yn y brifysgol oedd â diddordeb mewn cychwyn gwersi telyn.

“Ac mi gafon ni gyngerdd efo pedwar allan o’r pump yn yr Ŵyl Tri Hills.

“Mi oedd yr ŵyl yn fy atgoffa i o’r Steddfod, y maes tu allan a stondinau bwyd i gyd.

“Un o’r uchafbwyntiau i fi oedd jyst cyfarfod y myfyrwyr, cael gwneud y linc personol yna efo nhw.

“Roedd o’n rywbeth arbennig iawn ar ôl y flwyddyn a hanner o fentora.

“Roedd y bobol wnaethon ni ddod ar eu traws yn Shillong mor garedig, a phan oeddan ni’n mynd mewn i ryw siop fach a phobol yn gofyn o le oeddan ni’n dod, roedd pawb yn gwybod lle’r oedd Cymru.”

Dychwelyd y ffafr

Dyma’r trydydd tro i’r delynores Nia Williams ymweld ag ardal Shillong yn sgil prosiect Canolfan Gerdd William Mathias.

Aeth hi draw am y tro cyntaf yn 2023, ar ran y Ganolfan Gerdd, er mwyn cyflwyno’r delyn i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Gristnogol Martin Luther.

Gan ei bod hi’n gweithio’n bennaf fel cerddor ym maes iechyd a lles, cafodd y cyfle i ddychwelyd i ganu’r delyn ar wardiau Ysbyty Gordon Roberts ac Ysgol Mary Rice yn Shillong.

“Mi oedd o’n lyfli cael mynd yn ôl, mae yna bobol hyfryd ym Mryniau Khasia,” meddai wrth golwg360.

“Mi oedd o’n neis cael cwmni Gwenan a Catrin y tro yma; mae’n goblyn o daith, yn cymryd tair awyren i le wyt ti eisiau mynd.

“Dw i’n mynd i’r ysbyty bob tro dw i’n mynd, a dw i wrth fy modd yn cael mynd yn ôl atyn nhw. Mae pawb mor groesawgar.

“Mae gweld eu hymateb nhw wastad yn rywbeth dw i’n ei hoffi.

Gobaith y tair yw cynnig y cyfle i fyfyrwyr o Brifysgol Gristnogol Martin Luther ddod draw i Gymru y tro nesaf.

“Mi fysa’n neis cael mynd yn ôl, ond hefyd mi fysa’n dda bo nhw yn cael y cyfle i ddod i Gymru yn gyntaf,” meddai Nia Williams.

“Bysa’n neis eu bod nhw’n gallu dod i Steddfod Wrecsam, dw i’n meddwl.”