Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi eu Gwobrau Hybu’r Gymraeg ar gyfer eleni.

Mae’r gwobrau blynyddol yn dathlu cyfraniadau staff a myfyrwyr, yn siaradwyr newydd ac yn siaradwyr iaith gyntaf, at ethos yr iaith yn y Brifysgol.

Fe ddechreuodd yr arfer ar Ddydd Gŵyl Dewi 2017, yng nghwmni’r Prifardd Eurig Salisbury.

Mewn seremoni arbennig ar Ragfyr 4 eleni, cafodd enillwyr eleni eu hanrhydeddu gydag englyn personol.

Cafodd yr englynion eu hysgrifennu gan naill ai’r Athro Mererid Hopwood (yr Archdderwydd presennol), Dr Eurig Salisbury (Darlithydd Ysgrifennu Creadigol o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd), neu Dr Hywel Griffiths (Darllenydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol).

Gwobrau

Enillodd Vicki Jones wobr y Dysgwr Disglair.

Mae hi’n dod o Gilgwri yn wreiddiol, ac roedd hi wedi gweithio i’r Brifysgol am 30 mlynedd cyn ymddeol yn yr haf.

Chwe blynedd yn ôl ddechreuodd hi ddysgu Cymraeg o ddifrif, gan fynychu dosbarthiadau cymunedol a chyrsiau Cymraeg Gwaith.

Dr Hannah Binks, gafodd ei geni yn Aberystwyth, oedd enillydd Gwobr Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle.

Cafodd ei phenodi yn Ddarlithydd Cyswllt yn Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth yn 2017, ac yna’n ddarlithydd gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg yn yr Adran yn 2019.

Cafodd Gwobr Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle ei chyflwyno i Dr Lloyd Roderick, sy’n Llyfrgellydd Pwnc yn Llyfrgell Hugh Owen ers 2018.

Yn wreiddiol o Lanelli, mae’n cefnogi myfyrwyr a staff gyda chasgliadau, ymchwil ac adnoddau, ac yn hyrwyddo ac yn annog defnydd y Gymraeg ymhlith staff a myfyrwyr.

Ellie Norris, myfyrwraig o Aberdâr sy’n astudio gradd mewn Troseddeg, enillodd Wobr Astudio trwy’r Gymraeg.

Wedi’i magu ar aelwyd ddi-Gymraeg, penderfynodd Ellie fynychu Prifysgol Aberystwyth am ei bod am astudio mewn ardal lle mae’r Gymraeg i’w chlywed yn cael ei siarad yn y gymuned.

Mae bellach yn llysgenad ar ran Adran y Gyfraith a Throseddeg er mwyn hybu a hyrwyddo astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Celyn Bennett oedd enillydd Gwobr Pencampwr y Gymraeg.

Mae’n astudio am Radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cafodd ei fagu ar aelwyd ddi-Gymraeg, gan ddysgu Cymraeg fel rhan o’i gyrsiau TGAU a Safon Uwch Cymraeg Ail Iaith yn Ysgol Gyfun Trefynwy.

Fe yw Llywydd presennol Myfyrwyr Llafur Aberystwyth, ac mae’n ymdrechu i sicrhau bod popeth yn y gymdeithas yn ddwyieithog.

Gwobrwyodd y panel dyfarnu Wobr Arbennig i Elain Gwynedd, myfyrwraig o Borthaethwy oedd yn astudio am radd yn y Gymraeg yn y Brifysgol rhwng 2020 a 2023.

Roedd ymroddiad ganddi drwy gydol ei chyfnod yn y Brifysgol tuag at gefnogi’r iaith, medden nhw.

Cafodd ei hethol yn Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn 2023 ac yn 2024, ac yn y cyfnod hwn fe lwyddodd myfyrwyr Aberystwyth i ennill yr Eisteddfod Rhyngolegol am y tro cyntaf ers naw mlynedd.

‘Ysgogi ac yn ysbrydoli’

Mae Dr Gwawr Taylor, Ysgrifennydd y Brifysgol a Chyfarwyddwr y Gymraeg, wedi llongyfarch yr enillwyr.

Dywed fod “eu hymroddiad a’u brwdfrydedd yn ysgogi ac yn ysbrydoli staff a myfyrwyr ar draws cymuned y Brifysgol”.

“Diolch i chi gyd am eich gwaith diflino a’ch ymrwymiad i’r Gymraeg,” meddai.