Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru’n dweud bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru i’w “chroesawu”.
Ond dydy’r sector ddim yn teimlo’i bod hi’n “job done”, meddai Fflur Elin, Pennaeth Materion Cyhoeddus y sefydliad.
Mae’r Ffederasiwn yn galw am “strategaeth economaidd hirdymor” i gefnogi “twf economaidd”, sef un o brif amcanion llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig.
Dywed Fflur Elin ei bod hi’n “croesawu eu bod nhw [Llywodraeth Cymru] wedi cadw’r rhyddhad ar drethi busnes lletygarwch, manwerthu a hamdden”, a bod elfennau fel hyn yn “arwydd” fod y Llywodraeth “wedi clywed pa mor galed yw’r sefyllfa i fusnesau”.
‘Buddsoddiad mewn cynllunio bron â dyblu’
Yn ôl Fflur Elin, mae’r buddsoddiad mewn cynllunio bron mor bwysig â chefnogaeth uniongyrchol i fusnesau.
“Wnaethon ni alw am fuddsoddiad mewn trafnidiaeth, mewn seilwaith cyffredinol – felly tyllau ffyrdd – ac mae yna gyllidebau wedi’u creu ar gyfer y seilwaith yna,” meddai wrth golwg360.
Yn rhan o’r Gyllideb Ddrafft, bydd maes trafnidiaeth yn derbyn £69.9m (12% o’r Gyllideb ddiwethaf) yn ychwanegol ar gyfer costau dydd i ddydd.
Mae £51m yn ychwanegol o gyllid cyfalaf i drafnidiaeth, sef yr arian sydd yn mynd ar seilwaith.
Bydd dwy gronfa newydd ar gyfer adfer ffyrdd hefyd.
‘Strategaeth economaidd hir dymor’
Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru hefyd yn rhoi pwyslais ar yr angen am “strategaeth economaidd hirdymor” gan Lywodraeth Cymru.
“Mae angen cael hyn i wybod sut mae’r holl bethau yma yn plethu gyda’i gilydd i hybu twf economaidd,” meddai Fflur Elin.
“A dyma ble mae pethau fel y dirwedd cefnogi busnes yn dod mewn.”
Dywed ei bod hi’n deall fod yna gwestiynau ynghylch cyllidebau’r dyfodol gan Lywodraeth Cymru, sydd hefyd yn dylanwadu ar hyn.
Mae ansicrwydd am ddyfodol y Gronfa Ffyniant Gyffredin, er enghraifft.
Mae’r Canghellor Rachel Reeves wedi cychwyn adolygiad gwariant, fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2025.
Dywed Fflur Elin y bydd “y cyllidebau yn eithaf sicr wedyn am y pedair mlynedd nesaf”, fydd yn hwyluso strategaeth economaidd fwy hirdymor yma yng Nghymru.
‘Angen mwy o dargedau’
Yn rhan o’r strategaeth, mae galw hefyd am fwy o dargedau tu hwnt i Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) yng Nghymru yn sgil yr economi a thwf.
“Ar hyn o bryd, does dim byd i ddweud bod y pethau yma’n llwyddo,” meddai Fflur Elin wedyn.
“Dw i’n meddwl, i ryw raddau, efo GDP, yn enwedig i’n haelodau ni fel busnesau bach, mae yna lot yn gofyn, ‘Beth mae hynny’n ei olygu i ni?’”
Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru’n gofyn am ragor y tu hwnt i “brosiectau mawr”, er mwyn sicrhau bod twf “yn cael ei rannu ar draws y system” er mwyn “helpu’r busnesau lleiaf”.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.