Mae’r Gyllideb Ddrafft ddiweddaraf yn awgrymu nad oes “polisi economaidd aeddfed” gan Lywodraeth Cymru o hyd, yn ôl yr economegydd Dr John Ball.

Mae’r cyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe yn cyfrannu’n gyson at waith ymchwil YesCymru.

Wrth siarad â golwg360, dywed ei fod yn teimlo bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys er mwyn annog twf economaidd yng Nghymru.

‘Wedi’i siomi’

Cyn y Gyllideb ddoe (dydd Mawrth, Rhagfyr 10), roedd gobaith gan rai y byddai’r gyfundrefn Lafur newydd yn San Steffan yn galluogi rhagor o uchelgais o ran amcanion ariannol Llywodraeth Cymru, yn enwedig am fod y Canghellor Rachel Reeves wedi addo cyllid ychwanegol i Gymru yn ystod ei Chyllideb hithau fis Hydref.

Mae Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Cymru, wedi medru addo £1.5bn ychwanegol i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus, yn rhan o Gyllideb werth £26bn Llywodraeth Cymru.

Bydd hyn yn cynnwys gwariant bob dydd a gwariant untro ar bethau sylfaenol, gaiff ei alw’n wariant cyfalaf.

Mae hon yn Gyllideb dra gwahanol, felly, i’r rheiny mae Cymru wedi’u profi ers cyfnod y pandemig, oedd yn llawn toriadau a diffygion.

Dyna bwysleisiodd Mark Drakeford, wrth fynnu bod y Gyllideb yn fan cychwyn ar ymdrech i wrthdroi’r niwed wnaeth y weinyddiaeth Geidwadol flaenorol yn San Steffan i Gymru.

Ond mae John Ball wedi’i siomi o hyd.

“Does dim byd dramatig o gwbl am y cynlluniau ariannu,” meddai wrth golwg360.

“Ar y cyfan, mae’n ymddangos fel mân dincro gwleidyddol.”

‘Anwybyddu rhywbeth sylfaenol’

Pwyslais y Gyllideb Ddrafft yw cryfhau gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Dywed Mark Drakeford fod yna “gyfle go iawn” i’w “hadfywio” wedi dirywiad sylweddol.

Bydd cyllid ychwanegol i’w ddyrannu gan adrannau iechyd, tai a llywodraeth leol, trafnidiaeth, addysg, newid hinsawdd a materion gwledig, a chyfiawnder cymdeithasol y Llywodraeth.

Bydd yr Adran Iechyd, yn benodol, yn derbyn £610m yn ychwanegol i’w wario.

Mae Heledd Fychan, llefarydd economaidd Plaid Cymru, eisoes wedi beirniadu’r Gyllideb Ddrafft, gan ddweud na fydd y cyllid newydd hwn yn ddigon i dalu am y gwaith adnewyddu sydd ei angen ar adeiladau ysbytai Cymru.

Ond pryderon mwy sylfaenol sydd gan John Ball.

“Wrth gwrs, mae’n rhaid croesawu rhagor o wariant ar y Gwasanaeth Iechyd ac ym maes cartrefi ac iechyd,” meddai.

“Ond mae’r Gyllideb yn anwybyddu rhywbeth reit sylfaenol – er mwyn i’r gwasanaethau hyn ffynnu, mae’n rhaid bod economi iach sy’n tyfu gennym ni.”

‘Angen polisi economaidd aeddfed’

Mae’n hanfod economaidd, yn ôl yr economegydd, fod yr economi’n tyfu er mwyn i’r gwasanaethau fedru cael eu hariannu yn y dyfodol.

Mae angen ffynhonnell sefydlog ar wariant y Llywodraeth, yn enwedig wrth i’r boblogaeth heneiddio a dod yn fwyfwy dibynnol ar wasanaethau cyhoeddus.

Dim ond trwy gynyddu gweithgarwch economaidd mae canfod y ffynhonnell hon.

Awgrym Dr John Ball ydy nad yw’r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd wedi mynd i’r afael â’r hanfod hon ers amser maith.

“Dro ar ôl tro, mae’n rhaid i mi bwysleisio fod angen polisi economaidd aeddfed ar Gymru,” meddai.

Mae adlais i’r dadansoddiad hwn yn yr adroddiad diweddaraf ar werth ychwanegol crynswth yng Nghymru.

Mae gwerth ychwanegol crynswth yn mesur ffyniant economaidd drwy ystyried y gwerth sy’n cael ei ychwanegu at yr economi gan nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu cynhyrchu yma, wedi i gostau gael eu neilltuo.

Yn 2022, roedd gwerth ychwanegol crynswth y pen yng Nghymru yn cyfateb i 72% o’r cymedr ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae hyn yn awgrymu bod gweithgarwch economaidd yn ychwanegu llai at yr economi yng Nghymru nag y mae ym mhob un o wledydd eraill y Deyrnas Unedig, a phob rhanbarth ond un yn Lloegr.

‘Methu’r cyfle’

Cyfeiriodd cyhoeddiad Mark Drakeford yn fras at “yrru twf economaidd”, ond yn ôl Dr Ball doedd y dyhead hwn ddim wedi’i adlewyrchu yn y Gyllideb Ddrafft ei hun.

Mae’n pwysleisio bod angen rhyw fath o bolisi diwydiannol neu fanwerthu difrifol ar Lywodraeth Cymru – awgrym sy’n arbennig o arwyddocaol eleni yn sgil cau’r ffwrnais ddur ym Mhort Talbot ym mis Medi.

“Unwaith yn rhagor, rydyn ni wedi colli’r cyfle i ddefnyddio’r Gyllideb flynyddol fel sail ar gyfer twf economaidd,” meddai.