Mae Anthony Slaughter, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, yn dweud y byddai’n “anodd” cefnogi Cyllideb Ddrafft Cymru fel ag y mae hi pe bai’n Aelod o’r Senedd.

Cafodd y Gyllideb Ddrafft ei chyhoeddi gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Cymru, yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Rhagfyr 10).

Bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddenu cefnogaeth o leiaf un Aelod o’r Senedd o’r gwrthbleidiau, neu i’r pleidiau eraill atal eu pleidlais er mwyn i’r Gyllideb gael ei phasio.

Does gan y Blaid Werdd yr un Aelod yn y Senedd ar hyn o bryd, ond gallai hynny newid yn dilyn etholiadau’r Senedd yn 2026, yn ôl arolygon barn.

Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yw unig gynrychiolydd ei phlaid yn  Senedd, a’r consensws yw mai hi yw’r un o blith y gwrthbleidiau sydd fwyaf tebygol o gefnogi’r Gyllideb.

Bydd fersiwn derfynol y Gyllideb yn cael ei chyhoeddi ym mis Chwefror.

‘Anuchelgeisiol ac annigonol’

Wrth siarad â golwg360, dywed Anthony Slaughter fod y Gyllideb Ddrafft yn un “anuchelgeisiol” ac “annigonol”.

“Roedd hi’n amlwg fod Llafur yn ceisio bod yn amddiffynnol oherwydd bod hon yn Gyllideb flaengar yn eu meddyliau nhw,” meddai.

“Dyma’r tro cyntaf i ni gael rhagor o arian i’w wario, ond mae’r cyfan yn teimlo fel papuro dros y craciau.”

Ychwanega y byddai’n “anodd cefnogi’r Gyllideb”, yn enwedig yng nghyd-destun yr “addewid” y byddai Llywodraethau Lafur y naill ochr a’r llall i Bont Hafren yn dod â llawer mwy i Gymru.

“Cyn i fi hyd yn oed ystyried cefnogi Cyllideb, byddai angen i fi weld mwy o weithredu o ran ariannu HS2, datganoli Ystâd y Goron, a system ariannu sy’n deg i Gymru,” meddai.

Mae’r amodau hyn yn debyg i’r rhai sy’n cael eu pwysleisio gan Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Gostyngiad yn y gyllideb newid hinsawdd yn “siomedig”

Dywed Anthony Slaughter ei fod yn “siomedig” fod y gyllideb ar gyfer newid hinsawdd i’w gweld wedi gostwng.

Bydd yn rhaid aros am eglurhad gan weinidogion ac ysgrifenyddion Llywodraeth Cymru er mwyn gwybod sut yn union fydd yr arian sydd wedi’i ddyrannu i bob adran yn cael ei wario.

Yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2024-25, roedd tua £3bn o adnoddau wedi’u rhoi yn uniongyrchol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Y tro hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfuno cyllidebau materion gwledig a newid hinsawdd, gyda llai na £1bn yn cael ei ddyrannu.

Dydi hi ddim yn glir eto a fydd arian ar gyfer meysydd megis cynllunio yn mynd tuag at wytnwch a newid hinsawdd.

Yn ôl Anthony Slaughter, mae’n ymddangos bod newid hinsawdd wedi cael ei “wthio i lawr” rhestr flaenoriaethau’r Llywodraeth.

“Mae’n rhaid i ni edrych allan am y manylion, oherwydd mae’r categorïau ariannu mor eang,” meddai.

“Ond mae newid hinsawdd yn cyffwrdd pob dim, felly roedd hi’n siom peidio’i weld e prin yn cael ei drafod yn ystod y ddadl.”

‘Croesawu ariannu ychwanegol’

Er bod Anthony Slaughter wedi’i siomi ar y cyfan, dywed ei fod yn deall mai dyma’r tro cyntaf ers polisi llymder y Llywodraeth Geidwadol yn 2010 i’r arian sydd ar gael i Gymru ei wario gael ei gynyddu.

“Mae’r arian ychwanegol yn angenrheidiol, ac yn amlwg i’w groesawu,” meddai.

“Ond eto, mae’n teimlo fel papuro dros y craciau i fedru trwsio’r llanast sydd yn bodoli o ganlyniad i fwy na 25 mlynedd o’r math yma o Lywodraeth Lafur yn y Senedd.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae Cenhadaeth Economaidd Cymru yn adlewyrchu’r genhadaeth hirdymor i greu economi fwy llewyrchus, gwyrdd a theg,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae’r blaenoriaethau’n cynnwys sgiliau, partneriaethau cryfach ar gyfer rhanbarthau cryfach, a buddsoddi ar gyfer twf.

“Mae ein Cyllideb Ddrafft ar gyfer 2025-26 yn gyllideb ar gyfer dyfodol mwy disglair sy’n cefnogi busnesau bach ac yn sbarduno twf economaidd.

“Bydd cyfanswm o £335m yn cael ei wario ar ddarparu rhyddhad ardrethi annomestig i fusnesau Cymru yn 2025-2026.

“Mae pob portffolio wedi gweld mwy o fuddsoddiad, ac mae ein cynlluniau gwariant cyfalaf yn fwy na £3bn am y tro cyntaf.

“Bydd hyn yn sicrhau newid sylweddol o ran cefnogi swyddi a thwf gwyrdd.”

 

Cyllideb ddrafft i’w “chroesawu”, ond angen “strategaeth economaidd hirdymor”

Rhys Owen

Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi bod yn ymateb i’r Gyllideb Ddrafft