Mae gwasanaethau newyddion S4C a BBC Cymru yn gwadu eu bod nhw’n esgeuluso ffrae’r Fedal Ddrama, yn dilyn honiadau’r dramodydd a beirniad Paul Griffiths mewn llythyr agored yr wythnos hon.
Fe ddechreuodd y ffrae wedi i’r Eisteddfod gyhoeddi ddiwrnod yn unig cyn y seremoni wobrwyo llynedd na fyddai cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn mynd yn ei blaen, er bod y beirniaid wedi dethol darn buddugol.
Fe fu golwg360 yn adrodd bryd hynny mai amheuon yn ymwneud â meddiannu diwylliannol oedd wrth wraidd penderfyniad yr Eisteddfod.
Mae Paul Griffiths o Ddyffryn Conwy wedi bod yn un o eiriolwyr mwyaf brwd yr ymgyrch sy’n ymbil ar yr Eisteddfod i ddatgelu rhagor o wybodaeth am y penderfyniadau a wnaed fis Awst diwethaf.
Yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd golwg360 lythyr agored newydd gan yr ymgyrchwyr oedd wedi’i lofnodi gan gannoedd o bobol ar hyd a lled Cymru.
Ond fe fu Paul Griffiths yn beirniadu S4C a BBC Cymru am iddyn nhw beidio crybwyll y llythyr agored diweddaraf.
Fe fu hefyd yn codi amheuon nad oedd Llys yr Eisteddfod – sydd â sawl aelod sydd wedi llofnodi’r llythyr agored – yn cael digon o sylw gan Fwrdd Rheoli’r Eisteddfod, sydd i fod yn atebol i’r Llys.
Mae golwg360 wedi derbyn ymatebion gan S4C, BBC Cymru, a’r Eisteddfod i’r cyhuddiadau diweddaraf hyn.
‘Wedi’i siomi’
Mewn grŵp cyhoeddus ar wefan gymdeithasol Facebook, eglurodd Paul Griffiths ei fod “wedi siomi” bod “diffyg sylw gan BBC Cymru a Newyddion S4C” i lythyr agored diweddaraf yr ymgyrch.
Fe awgrymodd mai’r ceisiadau rhyddid gwybodaeth gafodd eu cyflwyno gerbron y darlledwyr, ynghyd â’u partneriaeth ddarlledu gyda’r Eisteddfod, sy’n gyfrifol am yr esgeulustod.
Ond gwadu’r cyhuddiadau hyn mae’r ddau gorff.
Mae llefarydd ar ran S4C yn mynnu bod “rhaglen newyddion S4C a’r gwasanaeth newyddion digidol wedi darlledu a chyhoeddi sawl eitem ar y stori yma dros y misoedd diwethaf”.
“Penderfyniad golygyddol” oedd peidio â thrafod y datblygiadau diweddaraf, meddai llefarydd.
Yr un yw ymateb y BBC, sy’n pwysleisio bod “BBC Cymru wedi rhoi sylw sylweddol i’r stori o dan sylw dros y misoedd diwethaf”, a bod “straeon yn cael sylw ar deilyngdod golygyddol ac yn seiliedig ar yr agenda newyddion dyddiol”.
‘Unbenaethol’
Mae Paul Griffiths hefyd yn honni na fu holl aelodau Llys yr Eisteddfod yn derbyn gohebiaeth gan Fwrdd Rheoli’r Eisteddfod, fel sy’n ddisgwyliedig.
Daeth yr awgrym ar sail neges gan un o aelodau’r Llys, sydd hefyd yn cefnogi’r ymgyrch, nad yw wedi derbyn unrhyw ohebiaeth gan yr Eisteddfod ers 2021.
Y Llys ydy corff llywodraethol yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae’n agored i unrhyw un sy’n dymuno gwneud cais.
Pryder arall fynegodd Paul Griffiths ar y grŵp Facebook oedd diffyg rhestr hygyrch o holl aelodau cyfredol y Llys, wedi i ddau Archdderwydd gadarnhau nad oedd mynediad at fanylion yr holl aelodau ganddyn nhw.
Yn ôl y dramodydd, prif bryder yr ymgyrch yw fod “y Bwrdd Rheoli… yn unbenaethol ers tro, a ddim yn gofyn am gyngor ac arweiniad [gan Lys yr Eisteddfod]”.
Yn ôl Strwythur Llywodraethu’r Eisteddfod, mi ddylai’r Bwrdd Rheoli, sy’n gyfrifol am yr holl drefniadau yn ymwneud â’r ŵyl, fod yn atebol i’r Llys.
Ychwanega Paul Griffiths ei fod yn gyndyn mai’r Bwrdd Rheoli oedd wrth wraidd helynt y Fedal Ddrama, am eu bod nhw “wedi hawlio’r cyfrifoldeb cyfan dros ganslo’r Seremoni a’r gystadleuaeth”.
‘Cyfrifoldeb unigolyn’
Ond diystyru’r holl honiadau uchod wnaeth llefarydd ar ran yr Eisteddfod mewn datganiad i golwg360.
Rhesymau cyfreithiol sydd wrth wraidd pam nad yw rhestr aelodau’r Llys ar gael yn gyhoeddus.
Dywed nad yw’r Eisteddfod “yn rhannu rhestr lawn o’r Llys gydag unrhyw un”, gan ychwanegu y byddai hynny “yn mynd yn groes i reolau GDPR”.
Yn ogystal, pwysleisia’r llefarydd nad yr Eisteddfod sy’n gyfrifol os nad yw aelod yn derbyn gohebiaeth.
Wrth drafod honiadau’r unigolyn penodol sydd heb dderbyn neges ers 2021, awgrym yr Eisteddfod yw “efallai eu bod nhw wedi symud neu wedi newid e-bost dros y blynyddoedd diwethaf”.
“Cyfrifoldeb unigolion yw dweud wrthym ni os ydyn nhw’n symud neu’n newid ebost,” meddai.
“Nid ydyn ni wedi derbyn unrhyw beth yn datgan nad yw’r unigolyn wedi derbyn gwybodaeth gan y Llys ers 2021.”