Fydd dim seremoni ar gyfer y Fedal Ddrama eleni, medd yr Eisteddfod mewn datganiad.

Maen nhw’n dweud na fyddan nhw na’r beirniaid – Geinor Styles, Mared Swain a Richard Lynch – yn gwneud sylw pellach.

Roedd disgwyl i’r buddugol ennill y fedal, er cof am Urien ac Eiryth Wiliam, a £750 yn rhoddedig gan deuluoedd Megan Tudur, Rheinallt Llwyd a Manon Rhys, er cof am Mair a James Kitchener Davies, eu merch Mari a’u hŵyr Mei.

Mae’r Eisteddfod wedi rhoi gwybod i aelod o’r teulu sydd wedi rhoi’r wobr ariannol y byddan nhw’n cysylltu gyda nhw yn swyddogol fel teulu cyn diwedd yr wythnos i drafod.

Yn ddigon rhyfedd, union 90 mlynedd yn ôl, fe gafodd drama enwocaf Kitchener Davies, Cwm Glo, ei hun ei hatal gan yr Eisteddfod.

Roedd hi’n ddrama am y dirwasgiad a dryllio moesau a gwerthoedd, ac mae’r ferch yn y ddrama yn gadael ei chartref yn y Rhondda i ennill arian fel putain ar y stryd yng Nghaerdydd.

Gwrthododd y beirniaid yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan yn 1932 ei gwobrwyo, a thyrrodd pobol i’w gweld.

Yn y cynhyrchiad llwyfan gan Gwmni Drama’r Pandy, fe actiodd Letitia, chwaer y dramodydd, y ferch, ac roedd y cast yn cynnwys y llenor enwog Kate Roberts a’i gŵr Morris Williams.

Atal y gystadleuaeth

Daw’r penderfyniad “bod yn rhaid atal y gystadleuaeth eleni” yn dilyn trafodaeth ar ôl beirniadu.

Fydd dim beirniadaeth yn cael ei chyhoeddi yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau chwaith.

Dywed yr Eisteddfod y byddan nhw’n adolygu prosesau a gweithdrefnau eu cystadlaethau cyfansoddi yn sgil y penderfyniad hwn.

Daeth cyhoeddiad o lwyfan y Pafiliwn wrth i’r cystadlu ddod i ben am 4 o’r gloch, a bydd y cystadlu’n parhau ar ôl 5 o’r gloch.

Wrth i’r cyhoeddiad gael ei wneud yn fyw ar S4C, dywedodd y cyflwynydd Nia Roberts fod yr Eisteddfod wedi gwrthod eu cais am gyfweliad.

Eglurhad

Yn dilyn y cyhoeddiad, fe fu ymateb chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol, wrth i nifer o bobol alw am eglurhad.

“Mae yna ddatganiad allan yna; fel nodon ni mi aethon ni drwy’r broses ac yna daeth i’r amlwg fod rhaid i ni wneud penderfyniad i atal y gystadleuaeth,” meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, wrth BBC Radio Cymru fore Gwener (Awst 9).

“Fel ydyn ni’n gwneud bob blwyddyn fe fyddwn ni yma yn adolygu ac fe fyddwn ni’n adolygu ein prosesau ni a’n gweithdrefnau ni fel rhan o’r adolygu yna yn dilyn y penderfyniad eleni.

“Mae nifer o bobol wedi rhoi ryw senarios i fi ar hyd y Maes ddoe. Mae yna ddrama yn cael ei greu ar y Maes yma.

“Beth sy’n bwysig ydi ein bod ni’n parchu’r broses a hefyd yn parchu cyfrinachedd a’n bod ni fel corff wedyn yn gallu adolygu a rhoi pethau yn eu lle er mwyn sicrhau bod yna ddyfodol llewyrchus i’r ddrama.

“Fe fyddwn ni’n gwarantu bod ein prosesau ni yn y dyfodol yn gwarantu nad oes rhaid gwneud penderfyniad fel hyn eto – gobeithio.”