Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dibynnu ar wirfoddolwyr, a rhai ohonyn nhw’n siaradwyr Cymraeg newydd lleol sy’n rhoi help llaw i’r ŵyl am y tro cyntaf.

Yn ôl Osian Rowlands, Prif Weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, fe wnaeth dros 150 o bobol gyflwyno’u henwau i wirfoddoli ym Maes D.

Un o’r rhai sy’n gwirfoddoli ac yn ymweld â’r Eisteddfod am y tro cyntaf heddiw (dydd Iau, Awst 8) yw Lara Morris o Gwm-bach ger Aberdâr.

Mae’r athrawes gyflenwi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2018, ac mae hi wrthi’n astudio Cwrs Uwch y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Er ei bod hi wedi gwneud rywfaint o Gymraeg tra’r oedd hi yn yr ysgol, penderfynodd wella ei Chymraeg yn sgil ei gwaith fel athrawes gyflenwi.

“Es i i Eisteddfod [yr Urdd] yn Llanymddyfri, ond mae’n well gen i fynd [eleni] achos bod e yn Rhondda Cynon Taf hefyd; mae’n wych,” meddai wrth golwg360.

“Mae hi’n anhygoel, dw i’n meddwl; mae llawer o bethau a llawer o ddysgwyr yma, a llawer o siaradwyr hefyd.

“Roeddwn i’n codi arian yn llawer o’r digwyddiadau yng Nghwm Cynon, ac roeddwn i yn y cyngerdd Gŵyl Dewi a llawer o bethau i godi arian, felly dw i wrth fy modd.”

‘Y peth gorau dw i erioed wedi’i wneud’

Mae Margaret Thomas, sy’n dod o Aberdâr, wedi bod yn dysgu Cymraeg ers chwe blynedd, ac mae hithau’n gwirfoddoli yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf eleni hefyd.

Aeth ei meibion i ysgol Gymraeg ac mae ei gŵr yn siarad Cymraeg, felly mae hi wedi bod yn ymweld â’r Eisteddfod ers blynyddoedd.

“Athrawes oeddwn i, ac roedd rhaid i fi ddysgu Cymraeg i’r babanod,” meddai wrth golwg360.

“Ar ôl ymddeol, dywedais i, ‘Tro fi nawr, tro fi i ddysgu Cymraeg’.

“Dw i’n mwynhau, mae e’r peth gorau dw i erioed wedi’i wneud.

“Mae’n hyfryd.

“Dim ond heddiw dw i’n gwirfoddoli; fory nawr, byddwn ni’n dod lawr fel teulu achos mae fy ngŵr yn arwain Côr Cwm-bach a fyddan nhw’n canu’n rhywle ar y maes.

“Mae fy mab yn Llundain yn arwain Côr Llundain, a byddan nhw’n cystadlu.

“Felly byddwn ni yma drwy’r dydd fory tan y diwedd.”

Ychwanega fod brwdfrydedd mawr wedi bod ymysg siaradwyr newydd yn Aberdâr, sydd tua deuddeg milltir o Bontypridd, cyn yr Eisteddfod.

“Trwy’r flwyddyn nawr, roedd llawer o ddigwyddiadau yn codi arian – Aberdâr, Penderyn, Hirwaun, y clwb rygbi, ocsiwn…

“Dw i wedi bod yn cymryd rhan ym mhopeth; mae’n amser hyfryd.

“Dw i ddim yn rhugl, ond dw i’n falch i drio bod yn rhugl.”

‘Adeiladu ar y brwdfrydedd’

Morus Griffith yw Cydlynydd Gwirfoddoli’r Eisteddfod Genedlaethol, a dywed bod y ffaith fod “nifer fawr” o siaradwyr Cymraeg newydd yn defnyddio gwirfoddoli yn yr Eisteddfod fel cyfle i fagu mwy o hyder i ddefnyddio’r iaith yn gymunedol “yn bwerus iawn”.

“Mae’r gwaith mae’r Eisteddfod yn ei wneud yn y maes hwn, yn lleol a chenedlaethol, i’w ganmol,” meddai.

“Ond bwriad y cynllun hwn yw adeiladu ar y brwdfrydedd a sicrhau dilyniant o flwyddyn i flwyddyn.

“Mae croeso i bawb wirfoddoli, o Gymry Cymraeg i ddysgwyr, a’r rheini sydd heb gychwyn ar eu taith iaith eto; mae lle i bawb.

“Mae paratoadau ar droed i ymestyn yr elfen hon yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y flwyddyn nesaf, ac rydyn ni eisoes yn edrych ymlaen ymhellach na hynny.”

Morys Griffiths, Cydlynydd Gwirfoddoli’r Eisteddfod

‘Rhoi hyder i ddysgwyr’

Ychwanega Osian Rowlands o Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf eu bod nhw wedi bod yn rhoi cymorth i wirfoddolwyr a gweithwyr busnesau’r ardal i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddyn nhw.

Mae clybiau sgwrsio i siaradwyr newydd yn y Porth yn Rhondda, Aberdâr a Maerdy, un newydd yn Aberpennar ac un ar ei ffordd i Donypandy hefyd.

“Helpu gyda geirfa wahanol, rhoi hyder iddyn nhw ddefnyddio beth sydd gyda nhw – cyfarwyddiadau, amser, arian. I roi’r hyder iddyn nhw i ddweud: ‘Sori dw i’n gorfod stopio, dw i’n dysgu Cymraeg’, dysgu nhw bod tafodiaethau gwahanol,” meddai wrth golwg360.

“Gaethon ni adborth gwych i hynny, a’n gobaith ni yw bod hynny’n parhau nawr yn Wrecsam, sy’n ardal eithaf tebyg.”

Osian Rowlands

“Wrth gwrs, y gobaith yw y bydd pobol, ar ôl cael blas fan hyn, yn cael y profiad positif a bydd diddordeb gyda nhw, gobeithio, i gario ymlaen – ac nid dim ond gwirfoddolwyr, mae’r un peth am y busnesau yn y dref.

“Be sy’n digwydd fan hyn yw bod pobol yn poeni eu bod nhw ddim digon rhugl. Fi’n trio dweud bod hwn yn iawn.

“Yr her i ni yw trio datblygu cymunedau busnes mwy dwyieithog. Be’ mae hwn yn golygu [yw] pethau bach, cyfarch pobol, bod y Gymraeg mwy gweladwy, bod lanyards, bathodyn, bod pobol yn gweld bod cyfle, os ydyn nhw moyn, eu bod nhw’n gallu defnyddio cymaint neu gyn lleied o Gymraeg [ag maen nhw moyn].

“Mae honna’n neges fawr rydyn ni’n ei rhoi: ‘Defnyddiwch gymaint neu gyn lleied o Gymraeg ag ydych chi’n gallu neu chi moyn.

“Defnyddiwch beth sydd gyda chi, a byddwch yn falch o hynny.’”

Sicrhau bod y brwdfrydedd yn parhau wedi’r wythnos hon yw’r her nawr, meddai Osian Rowlands wedyn, gan ychwanegu eu bod nhw’n cefnogi’r Pwyllgor Apêl lleol i gynnal digwyddiadau megis cwisiau, nosweithiau yng Nghlwb y Bont ac wrth baratoi at Eisteddfod Cwm Rhondda.