Fydd dim modd dweud ‘y Theatr Gen’ ragor, er mai dyna’r enw sydd wedi cydio ar lafar am gwmni Theatr Genedlaethol Cymru.
Heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 20), mae’r cwmni’n ail-frandio’i hun yn ‘Theatr Cymru’ – enw a brand newydd sy’n cynrychioli eu “hymrwymiad i fod yn gwmni theatr i Gymru gyfan ac i roi’r genedl a’i phobol wrth galon eu gwaith”.
Hefyd, mae newyddion am arlwy’r cwmni ar gyfer 2025.
Bydd Theatr Cymru yn cyflwyno chwe chynhyrchiad yn 2025.
Yn ogystal â dramâu newydd gan Mared Jarman a Tudur Owen, bydd taith o fonolog Bethan Marlow, Brên. Calon. Fi., gafodd ei gweld yn Eisteddfodau Ceredigion a Phontypridd.
Yn yr hydref, bydd y cwmni’n cyflwyno clasur Shakespeare, Romeo a Juliet “ar ei newydd wedd”, a hefyd yn cynnal prosiectau cymunedol.
Bydd cyfle i bobol wylio cynyrchiadau’r cwmni o’u cartref ar S4C a BBC iPlayer am y tro cyntaf hefyd.
Dyma gynyrchiadau Theatr Cymru yn 2025:
- Byth Bythoedd Amen gan Mared Jarman – ar daith yn Ionawr a Chwefror 2025
- Huw Fyw gan Tudur Owen – ar daith ym mis Mai 2025
- Brên. Calon. Fi gan Bethan Marlow – ar daith ym mis Mehefin 2025
- Wrecslam! – Eisteddfod Wrecsam 2025
- Romeo a Juliet – ym mis Hydref 2025
- Sioe Nadolig (i’w chyhoeddi) – Rhagfyr 2025
Daw’r newyddion wrth i’r cwmni baratoi at fynd ar daith fory (dydd Iau, Tachwedd 21) â’u sioe theatr i blant, Dawns y Ceirw gyda’r cerddor Casi Wyn.
Cydweithio ar y brand
Mae’r cwmni wedi gweithio gyda chwmni o’r end Uned Studio wrth ailddatblygu’r brand.
“Rydyn ni’n falch o allu lansio’r brand ac enw newydd, sy’n teimlo’n fwy triw i weledigaeth bresennol y cwmni ac yn cyfleu ein hawydd ni i fod yn groesawgar a chynhwysol,” meddai Angharad Jones Leefe, Cyfarwyddwr Gweithredol y cwmni,
“Dyma enw sy’n cynrychioli’n glir ein hunaniaeth a’n pwrpas, ac sy’n cyfleu ein hangerdd dros fod yn llwyfan i wneuthurwyr a gweithwyr theatr anhygoel Cymru.
“Mewn blwyddyn lle rydyn ni wedi gweld ein cynulleidfaoedd yn dychwelyd i lefel cyn-Covid am y tro cyntaf, rydyn ni’n hyderus o adeiladu ar hyn gyda’r rhaglen waith uchelgeisiol yma ac yn edrych ymlaen at groesawu cynulleidfaoedd ledled Cymru i’r cynyrchiadau yma.”
Drama gyntaf Tudur Owen
Cynhyrchiad cyntaf y cwmni yn 2025 fydd drama newydd gan Mared Jarman, Byth Bythoedd Amen, rhwng Ionawr 25 a Chwefror 13.
Bydd y ddrama “ddinesig, ddoniol a thywyll” yn trafod themâu fel “cariad, colled a bywyd fel pobol anabl mewn byd sy’n blaenoriaethu’r brif ffrwd”.
Fis Mai, bydd y cwmni yn cyflwyno drama lwyfan gyntaf Tudur Owen, Huw Fyw, gyda Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru, yn cyfarwyddo.
Tudur ei hun fydd yn y brif ran, sef Huw, yr hen filwr blin sy’n cael tro ar fyd ar ôl cael profiad lwcus.
Bydd y ddrama grafog yn edrych ar sut i fyw yn y presennol, gan ddal gafael yn dynn ar y gorffennol.
Mae’r cynhyrchiad yn cyd-daro ag 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Yn yr hydref, fe fydd y cwmni’n mynd i’r afael â Romeo a Juliet gan William Shakespeare – addasiad Cymraeg J T Jones.
Bydd y cynhyrchiad “yn plethu’r Gymraeg a’r Saesneg, gan osod y ffrae ffyrnig rhwng y teuluoedd Montague a Capulet yng nghymdeithas ddwyieithog Cymru, ac yn archwilio eithafoedd angerdd ac anrhefn”.
Bydd rhaglen o weithdai yn seiliedig ar y cynhyrchiad ar gael i ysgolion.
Dawns y Ceirw
Dyma ddyddiadau taith Dawns y Ceirw, sioe i blant pump i naw oed a’u teuluoedd gan Casi Wyn, am garw bach sy’n mentro yn bell o’i gartref yn y goedwig:
- Tŷ Dawns, Caerdydd, Tachwedd 21-23
- Theatr Felin-fach, Tachwedd 26
- Canolfan Gelfyddydau MEMO, Y Barri, Tachwedd 27-28
- Yr Egin, Caerfyrddin, Tachwedd 29-30
- Neuadd Dwyfor, Pwllheli, Rhagfyr 3
- Galeri, Caernarfon, Rhagfyr 4-5
- Theatr Derek Williams, Y Bala, Rhagfyr 6