Mae aelodaeth Huw Edwards o’r Eisteddfod wedi’i therfynu.
Daw’r penderfyniad yn dilyn pleidlais unfrydol yn ystod cyfarfod Llys yr Eisteddfod heddiw (dydd Iau, Awst 8).
Mewn datganiad, dywed yr Eisteddfod fod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi penderfynu gweithredu Adran 4 (a) (iv) o’r Cyfansoddiad.
Yn sgil hynny, mae hefyd wedi’i ddiarddel o’r Orsedd.
Fe fu’r Llys yn cwrdd am 1.30yp ym Mhabell y Cymdeithasau ar gyfer eu cyfarfod blynyddol, a hwythau ond yn cwrdd unwaith y flwyddyn.
“Mewn materion fel hyn, mae’r Orsedd yn ddarostyngedig i Lys yr Eisteddfod,” meddai Christine James, y Cofiadur, mewn datganiad cyn y cyfarfod.
“Mae gan y llys broses deg a chytbwys sydd wedi cychwyn ac er tegwch i bawb a rhag cam arwain neb nid yw’n briodol i wneud sylw pellach ar hyn o bryd.
“A byddwn yn ddiolchgar pe bai chi ddim yn camddyfynnu nac yn camddehongli’r sylwadau hyn ac rwy’n eich herio chi i ddarlledu’r sylwadau olaf hyn.”
Cefndir
Daeth y darlledwr Huw Edwards yn aelod o’r Orsedd ar ôl cael ei urddo yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ddwy flynedd yn ôl.
Ond fe gyfaddefodd yn ddiweddar iddo dderbyn delweddau anweddus o blant dros WhatsApp.
Yn Llys Ynadon Westminster, plediodd yn euog i dri chyhuddiad o fod â chwe delwedd Categori A, deuddeg delwedd Categori B a 19 delwedd Categori C ar yr ap.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar Fedi 16, ac mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth yn y cyfamser.
Gwobrau
Yn y cyfamser, fydd y BBC ddim yn ildio gwobr am raglen frenhinol gafodd ei chyflwyno gan Huw Edwards adeg priodas William a Kate.
Ond mae gwobrau unigol y cyflwynydd yn dal i fod yn destun adolygiad, gan gynnwys saith o wobrau gan BAFTA Cymru.