Bydd aelodaeth Huw Edwards o’r Orsedd yn cael ei thrafod yng nghyfarfod Llys yr Eisteddfod heddiw (dydd Iau, Awst 8).

Bydd y Llys yn cwrdd am 1.30yp ym Mhabell y Cymdeithasau ar gyfer eu cyfarfod blynyddol, a hwythau ond yn cwrdd unwaith y flwyddyn.

“Mewn materion fel hyn, mae’r Orsedd yn ddarostyngedig i Lys yr Eisteddfod,” meddai Christine James, y Cofiadur, mewn datganiad.

“Mae gan y llys broses deg a chytbwys sydd wedi cychwyn ac er tegwch i bawb a rhag cam arwain neb nid yw’n briodol i wneud sylw pellach ar hyn o bryd.

“A byddwn yn ddiolchgar pe bai chi ddim yn camddyfynnu nac yn camddehongli’r sylwadau hyn ac rwy’n eich herio chi i ddarlledu’r sylwadau olaf hyn.”

Mae golwg360 yn deall na fydd penderfyniad yn cael ei wneud heddiw.

Cefndir

Daeth y darlledwr Huw Edwards yn aelod o’r Orsedd ar ôl cael ei urddo yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ddwy flynedd yn ôl.

Ond fe gyfaddefodd yn ddiweddar iddo dderbyn delweddau anweddus o blant dros WhatsApp.

Yn Llys Ynadon Westminster, plediodd yn euog i dri chyhuddiad o fod â chwe delwedd Categori A, deuddeg delwedd Categori B a 19 delwedd Categori C ar yr ap.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ar Fedi 16, ac mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth yn y cyfamser.

Gwobrau

Yn y cyfamser, fydd y BBC ddim yn ildio gwobr am raglen frenhinol gafodd ei chyflwyno gan Huw Edwards adeg priodas William a Kate.

Ond mae gwobrau unigol y cyflwynydd yn dal i fod yn destun adolygiad, gan gynnwys saith o wobrau gan BAFTA Cymru.