Mae nifer o undebau creadigol wedi dod ynghyd i fynegi pryder am ddyfodol y celfyddydau yng Nghymru.

Mewn llythyr at y Prif Weinidog Eluned Morgan, mae undebau BECTU, Equity, Undeb y Cerddorion, Urdd Ysgrifenwyr Prydain Fawr ac Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr yn galw am gamau brys i fynd i’r afael â’r dirywiad presennol yng nghelfyddydau a diwylliant Cymru.

Mae’r undebau hyn yn cynrychioli ysgrifenwyr, cerddorion, perfformwyr, dawnswyr, newyddiadurwyr a gweithwyr proffesiynol tu ôl y llenni a’r sgrîn.

Daw’r alwad yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd.

Toriadau, Covid-19 a chostau byw

Mae’r cyfuniad o doriadau cyllid, effaith y pandemig, yr argyfwng costau byw a llu o weithwyr yn gadael Cymru wedi creu amgylchiadau sy’n fygythiad difrifol i’r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru, medd yr undebau.

Mae gwariant diwylliannol Llywodraeth Cymru fel cyfran o gyllideb ymhlith yr isaf yn Ewrop – llai na 0.15% o gyfanswm y gwariant cyffredinol, o gymharu â chyfartaledd o 1.5% yn Ewrop.

Mae un o’r prif gyllidwyr celfyddydol, Cyngor Celfyddydau Cymru, wedi dioddef toriad mewn termau real o ryw 37% yn eu cyllideb ers 2010.

Ym myd darlledu hefyd, mae cyllid S4C wedi cael ei dorri’n barhaus gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, o £101m gan yr Adran Ddiwylliant (DCMS) yn 2010 i £88.85m yn 2023/4 o ffi’r drwydded, sydd hyd yn oed yn fwy difrifol wrth ystyried costau cynyddol a chwyddiant.

Mae’r byd cyhoeddi yng Nghymru hefyd mewn argyfwng, medd yr undebau, gyda thoriad o 37% mewn termau real dros y degawd diwethaf “yn peryglu llenyddiaeth i oedolion a phlant yn y Gymraeg a’r Saesneg”.

Yn y cyfamser, mae dau o gylchgronau Cymru (Planet a’r New Welsh Review) wedi cau, gyda cholled swyddi yn ogystal â gohebiaeth ar fywyd diwylliannol Cymru, ac mae problemau wedi bod gyda chyllid ar gyfer gwefannau newyddion Cymraeg golwg360 a Corgi.

Streicio

Yn ddiweddar, pleidleisiodd aelodau o Undeb y Cerddorion yn Opera Cenedlaethol Cymru o blaid streicio posibl dros gynigion y cwmni i leihau cyflogaeth y gerddorfa ac ymgorffori toriad cyflog o 15%.

Mae hyn yn dilyn toriad o 35% gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a thoriad o 11.8% gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae arolwg diweddar gan Bectu yn dangos bod hanner gweithlu ffilm a theledu Cymru yn ddiwaith, gydag oddeutu traean ohonyn nhw’n rhagweld y byddan nhw’n gadael y diwydiant yng Nghymru yn gyfan gwbl.

Mae dileu hyfforddiant cerddoriaeth a drama iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a hynny’n ddisymwth, sydd yn golygu mai dyma’r unig conservatoire yn y Deyrnas Unedig heb ddarpariaeth iau reolaidd, yn doriad arall fydd yn cael effaith ddinistriol ar dalent Gymreig y dyfodol, medd yr undebau.

“Mae gwir angen strategaeth ddiwylliannol ar Gymru sy’n canolbwyntio ar fuddsoddiad ac amcanion hirdymor priodol, ac ar yr hawl i gyflog ac amodau gwaith teg ar sail cytundebau cyfunol undebau ar gyfer ein hartistiaid profiadol a dawnus, yn ogystal â’n talent ifanc, os yw’r sector i oroesi,” meddai Simon Curtis, Swyddog Equity Cymru.

‘Peryglon a heriau’

Mae Tom Giffard, llefarydd diwylliant y Ceidwadwyr Cymreig, wedi ychwanegu ei lais at y rhai sy’n galw am gamau brys.

“Mae hi wedi bod yn wych gweld golygfeydd a chlywed synau’r Eisteddfod ym Mhontypridd dros yr wythnos ddiwethaf,” meddai.

“All y digwyddiadau hyn ddim ond digwydd yn sgil ymroddiad y trefnwyr a’r gwirfoddolwyr, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn diolch iddyn nhw am wneud yr Eisteddfod eleni’n llwyddiant ysgubol.

“Mae’r Eisteddfod yn ein hatgoffa eto fod angen i’r Prif Weinidog newydd weithredu ar frys er mwyn mynd i’r afael â’r heriau a’r peryglon i’r iaith Gymraeg ac asedau diwylliannol Cymreig.

“Dydy’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ddim yn mynd i unman, gyda nifer yr athrawon sy’n siarad Cymraeg yn aros yn yr unfan a llai o bobol ifanc yn defnyddio’r Gymraeg.

“Mae toriadau Llafur i’n sefydliadau diwylliannol poblogaidd, gan gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru’n gwneud niwed di-ben-draw drwy leihau’r hyn sydd gennym i’w gynnig i dwristiaid, niweidio ein heconomi a chreu perygl o ran cadw hanes Cymru.

“Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun i roi hwb i dwristiaeth yng Nghymru, i roi arian go iawn i’n hasedau diwylliannol cenedlaethol, ac i gydweithio â phob sector er mwyn sicrhau ein bod ni’n bwrw’r targed hanfodol hwnnw o ran siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”