Eurgain Haf sydd wedi ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.

Daeth 14 o ddarnau i law’r beirniaid Annes Glynn, John Roberts ac Elen Ifan, a’r dasg eleni oedd ysgrifennu nofel heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema ‘Newid’.

Cafodd y Fedal ei chyflwyno gan Clochdar, papur bro Cwm Cynon, er cof am Idwal Rees, pennaeth cyntaf Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, a’r wobr ariannol o £750, gan Gymdeithas Gymraeg Rhiwbeina.

Y feirniadaeth

“Nid nofel drom, lafurus mo hon,” meddai Annes Glynn am y nofel fuddugol.

“Mae dawn yr awdur i newid cywair yn effeithiol, y cyfuniad o dosturi a hwyl, a’r fflachiadau cynnil o hiwmor – rhywbeth digon prin yn y gystadleuaeth – yn ei chadw rhag disgyn i’r pydew hwnnw.

“Mae’n llenor sy’n gwybod pryd i roi’r brêcs ymlaen ac yn ddigon hyderus yn ei allu ei hun ac yng nghrebwyll y darllenydd.

“Gall Manaia ysgrifennu’n fywiog; at ei gilydd creodd gymeriadau crwn, byw hefyd a gallwn ddyfynnu enghreifftiau lu o ‘ddweud da’ drwyddi draw.

“Yn sicr, gŵyr Manaia werth a grym geiriau.

“Am greu cyfuniad ohonynt yn gelfydd â chynildeb, sensitifrwydd a hiwmor ac am greu prif gymeriad a fydd yn aros yn y cof, Manaia sy’n derbyn y Fedal eleni.”

Yn ôl Elen Ifan, “mae’r ysgrifennu yn gadarn”.

“Ceir disgrifiadau cywrain a barddonol ar adegau, cymeriadu cryf, plotio da, a deialog gredadwy drwyddi draw,” meddai.

“Mae’r stori’n adeiladu i grescendo sy’n ymylu ar fod yn eithafol, ond i mi roedd y digwyddiad sy’n arwain at yr uchafbwynt hwnnw – un ymddangosiadol ddigon di-nod – yn llwyddiannus iawn.

“Roedd y darllenydd, o’i brofi drwy lygaid Heli, yn deall yr arwyddocâd, ac fe deimlwn ei cholled i’r byw.

“Mae’r nofel hon yn ei chyfanrwydd, a’i chymeriadau yn arbennig, yn cyfareddu, ac yn aros gyda’r darllenydd am gyfnod hir wedi’i darllen.

“Mae Manaia yn llawn haeddu’r wobr eleni.”

Dywed John Roberts fod gan y buddugol “allu i ysgrifennu yn gynnil ond lliwgar a bywiog, ac mae’r cymeriadau yn grwn ac yn gyfan”.

“Cynnil iawn yw’r darlun o rwystredigaeth y tad ac ansicrwydd y fam ond y mae’n ddigon i’r darllenydd eu hadnabod a chydgerdded gyda hwy…

“Dyma gymeriadau sydd yn aros gyda’r darllenydd a dyma ysgrifennu synhwyrus, dychmygus sydd yn defnyddio hiwmor, cynhesrwydd a thensiwn.

“Manaia sy’n dod i’r brig a’r ddwy nofel arall yn dynn ar ei sodlau.”

Yr enillydd

Mae gwreiddiau Eurgain Haf ym Mhenisarwaun yn Eryri, ond erbyn hyn mae hi wedi ymgartrefu ym Mhontypridd efo’i gŵr Ioan a’u dau o blant, Cian Harri a Lois Rhodd, a chi bach annwyl o’r enw Cai Clustia’.

Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Tan-y-Coed, Penisarwaun ac yna Ysgol Uwchradd Brynrefail, Llanrug lle daeth hi dan ddylanwad ei hathrawon Cymraeg, Esyllt Maelor a’r diweddar Alwyn Pleming, oedd wedi ei hannog i ysgrifennu.

Aeth yn ei blaen i Brifysgol Aberystwyth, lle graddiodd yn y Gymraeg a’r Ddrama, cyn mynd ati i gwblhau gradd MPhil yn y ddrama, ac mae’n ddiolchgar i’r Athro Elan Closs Stephens a’r diweddar Athro John Rowlands am eu holl anogaeth yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae’n ddyledus i drefnwyr Eisteddfod Bentref Penisarwaun am roi’r hwb a’r hyder iddi pan oedd yn blentyn i barhau i ysgrifennu, a byddai’n annog unrhyw gyw awdur i gystadlu a chefnogi eu heisteddfodau bychain lleol. Dyma feithrinfa eu dawn.

Aeth yn ei blaen wedyn i ennill sawl gwobr lenyddol gan gynnwys Coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, coron Eisteddfod Môn a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen.

Hyd yma, mae wedi cyhoeddi deuddeg o lyfrau ar gyfer plant yn cynnwys Y Boced Wag a Cyfrinach Noswyl Nadolig, ac wedi cyfrannu straeon byrion ar gyfer cyfrolau i oedolion fel O, Mam Bach! Cariad Pur a Nerth Bôn Braich.

Mae hefyd yn gyn-enillydd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Ryng-golegol, a chafodd drama fer o’i heiddo, Cadw Oed, ei pherfformio fel rhan o gynhyrchiad teithiol Sgript Cymru, Drws Arall i’r Coed yn 2005.

Hoffai ddiolch i’r holl olygyddion clên y cafodd y pleser o gydweithio gyda nhw hyd yma, ac yn arbennig i Catrin Hughes, cyn-olygydd gyda Gwasg y Dref Wen, am roi’r cyfle a’r wefr iddi o weld ei gwaith mewn print am y tro cyntaf un gyda’i nofel i blant, Fferm Ffion.

Mae ei gyrfa ym maes cyfathrebu a PR a threuliodd ddeng mlynedd hapus iawn yn gweithio yn Adran y Wasg S4C, cyn cael ei phenodi yn Uwch Reolwr y Wasg a’r Cyfryngau i elusen Achub y Plant Cymru.

Ymysg ei diddordebau eraill mae cerdded gyda ffrindiau, mynd am wyliau i lecynnau godidocaf Cymru efo’r teulu, a chanu gyda Chôr Godre’r Garth.

Bydd ei chyfrol ar werth ar ddiwedd y seremoni mewn siopau llyfrau ar y Maes ac ar draws Cymru.

Bydd y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, a fydd ar werth yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.