Mae trefnwyr gŵyl Electric Picnic yn Iwerddon wedi cyhoeddi y bydd gwersyll Gwyddeleg yn rhan o’r digwyddiad eleni.
Fel rhan o Croí na Féile, sy’n fenter gan fudiad Conradh na Gaeilge, bydd yna lwyfan Gwyddeleg, An Chollchoill, a gwersyll Láthair Ghaeltachta i’r rhai sy’n medru’r Wyddeleg.
Bydd cerddoriaeth Wyddelig a Gwyddeleg i’w chlywed yn yr ardal Wyddeleg bob nos rhwng 7 o’r gloch a 12 o’r gloch, gyda chyfuniad o artistiaid a DJs profiadol a newydd.
Mae’r digwyddiad wedi gwerthu allan dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’r trefnwyr yn annog pobol i fachu eu tocynnau er mwyn gallu cymdeithasu â siaradwyr eraill yr iaith.
‘Conglfaen calendr cymdeithasol yr haf’
“Electric Picnic yw conglfaen calendr cymdeithasol yr haf yn Iwerddon, gan ddod â miloedd o bobol ynghyd i ddathlu trwy gerddoriaeth a diwylliant,” meddai Orlaith Nic Ghearailt o fudiad Conradh na Gaeilge.
“Mae gwyliau’n rhoi’r cyfle i ni fynegi ein hunain mewn ffordd unigryw – a beth yw iaith ond mynegiant o hunaniaeth.
“Bydd y rhaglen eleni’n dod ag ymwelwyr yr ŵyl i lawr drwy’r goedwig i lwyfan llawn cerddoriaeth hyfryd a bandiau cyffrous, gydag artistiaid profiadol ac actiau disglair y dyfodol yn barod i fynd ar y llwyfan.
“Mae llwyfan Collchoill a gwersyll y Gaeltacht wedi bod yn tyfu ac yn datblygu ers 2018.
“Rydym yn gweld effaith bositif presenoldeb yr iaith a’r diwylliant ar fynychwyr yr ŵyl bob blwyddyn, ac rydym wir yn edrych ymlaen at adeiladu ar hynny eto yn 2024.”
‘Yr iaith Wyddeleg wrth galon yr Electric Picnic’
“Mae Conradh na Gaeilge, gyda chefnogaeth Foras na Gaeilge, wedi rhoi’r iaith Wyddeleg wrth galon Electric Picnic ers 2018, ac rydym yn edrych ymlaen at ddod â Croí na Féile yn ôl i ŵyl gerddorol fwyaf Iwerddon eleni,” meddai Paula Melvin, llywydd Conradh na Gaeilge.
“Bydd gan bobol y cyfle i ddefnyddio’r Wyddeleg yn yr ŵyl drwy wersylla yng ngwersyll y Gaeltacht a thrwy alw heibio llwyfan Collchoill ar y tair noson.
“Rydyn ni wedi cael adborth gwych bob blwyddyn hyd yma, ac mae’n wych gweld yr iaith Wyddeleg yn #CroínaFéile yng nghymuned yr ŵyl!”