Stormydd Llanrwst bum mlynedd yn ôl, gwyntoedd cryfion Tyddewi yn 2002, haul chwilboeth Aberteifi yn 1976… mae’r tywydd yn rhan fawr o sgyrsiau eisteddfodol.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth eisiau clywed am atgofion pobol am dywydd y Brifwyl.
Mae Tywydd Eisteddfodol yn brosiect newydd gan ddaearyddwyr a darlithwyr Cymraeg ac astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, ac maen nhw’n awyddus i glywed am straeon, casglu lluniau a dod o hyd i ddarnau o lenyddiaeth ar y pwnc.
Daearyddwyr sy’n ymchwilio i agweddau cyfoes a hanesyddol ar newid hinsawdd yw Dr Cerys Jones, Dr Hywel Griffiths a’r Athro Sarah Davies, tra bo Dr Eurig Salisbury a Dr Cathryn Charnell-White yn haneswyr llên sy’n ymddiddori yn y dystiolaeth lenyddol am y tywydd.
Mae’r tywydd wedi effeithio ar Eisteddfodau ers canrifoedd, ac un achos amlwg oedd Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr yn 1861, pan gafodd pafiliwn yr Eisteddfod ar Gomin Hirwaun ei chwythu i ffwrdd gan storm gref dridiau cyn yr ŵyl.
Bu’n rhaid symud yr ŵyl i Neuadd y Dref, a degawd wedyn yn Nhremadog digwyddodd rhywbeth tebyg eto.
Ar y llaw arall, cafodd Prifwyl 1955 ym Mhwllheli ei disgrifio fel ‘Eisteddfod Pwll-haul’ gan ohebydd y Liverpool Echo oherwydd y tywydd braf.
Cysylltu Eisteddfodau â’r tywydd
Dechreuodd y drafodaeth wrth i Dr Cathryn Charnell-White feddwl am y ffordd mae eisteddfodwyr yn aml yn cofio’r tywydd mewn eisteddfod benodol.
“Rydyn ni eisiau casglu straeon, atgofion, lluniau, cerddi, unrhyw beth yn ymwneud â phrofiad pobol o dywydd Eisteddfodol,” meddai wrth golwg360.
“Dw i wedi dechrau edrych drwy gyn-gyfrolau o Barddas; mae gwahanol weithgareddau yn ystod wythnos yr Eisteddfod i’r beirdd yn golygu’u bod nhw’n ymateb i’r beth sydd newydd ddigwydd, ac yn aml iawn mae’r tywydd yn rhan ohono fe.
“Mae yna gyfeiriadaeth eraill hefyd, byddai hi’n werth mynd drwy bethau fel cyn-rifynnau o gylchgrawn Merched y Wawr.”
Wrth fynd drwy hen rifynnau Barddas, mae’r ymchwilwyr wedi dod o hyd i sawl ‘englyn y dydd’ am y tywydd, yn ogystal â llawer o luniau a delweddau yn Archif Sgrîn a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Un o bartneriaid y prosiect, ynghyd â’r Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd a’r Llyfrgell Genedlaethol, yw Cymdeithas Edward Llwyd, sydd â ‘Dywyddiadur’ ar-lein, lle mae modd chwilio am dermau megis ‘Eisteddfod’.
“Mae yna lot o syniadau, achos mae e’n brosiect all esglybu a mynd i lot o gyfeiriadau gwahanol, ond rydyn ni wedi trafod llyfr bwrdd coffi, llyfr fyddai’n cyfuno lluniau ac atgofion,” meddai Dr Cathryn Charnell-White.
“Oherwydd ein bod ni’n cydweithio â chymdeithas Edward Llwyd, mae yna botensial yna ar gyfer rhoi’r data mewn bas data; mae gyda nhw dywyddiadur.
“Mae’n fendigedig, mae pobol yn gallu cyfrannu ato fe unrhyw bryd ar-lein.”
Cofio tywydd eithafol
Y tywydd mwyaf eithafol sy’n tueddu i dderbyn sylw ac aros yn y cof, gan amlaf, meddai Dr Cathryn Charnell-White, gan ddweud mai Eisteddfod boeth Cwm Rhymni yn 1990 sy’n aros yn y cof iddi hi.
“Y tywydd eithafol dw i wedi bod yn ei astudio, y tywydd eithafol sy’n cael sylw gan feirdd ac awduron, nid y tywydd bob dydd. Mae hynny hefyd yn ddiddorol yn ei hun,” meddai.
Y tro diwethaf i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Phontypridd yn 1893, roedd adroddiad ym mhapur newydd Tarian y Gweithiwr yn nodi bod “y tywydd yn bopeth a ellir ei ddymuno”.
“O ran astudiaethau’r cof, mae sut mae pobol yn cofio a beth mae pobol yn gofio am ddigwyddiadau penodol yn hynod, hynod ddiddorol felly dw i’n meddwl bydd gennym ni erthygl am astudiaethau’r cof a’r cofio a’r coffhau,” meddai wedyn.
“Roedden ni’n sôn hefyd bod gyda ni ddiddordeb o ran newid hinsawdd a sut mae mudiadau mawr fel yr Eisteddfod sy’n trefnu gŵyl mor fawr yn gorfod newid eu dulliau ac ystyried y tywydd, ystyried daearyddiaeth y tywydd, ac i ba raddau mae tywydd eithafol yn rhan o asesiadau risg.
“Mae meddylfryd wedi gorfod newid.”
Mae’r ymchwilwyr yn annog unrhyw un sydd ag atgofion, straeon neu luniau yr hoffen nhw eu rhannu am dywydd eisteddfodol, neu os ydyn nhw’n gwybod am gerddi neu destunau llenyddol sy’n cyfeirio at y tywydd mewn prifwyl, i gysylltu â tywydd@aber.ac.uk neu drwy fynd i stondin y brifysgol ar Faes yr Eisteddfod.