Bydd cyfle i’r cyhoedd holi penaethiaid S4C mewn digwyddiad arbennig ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd heddiw (dydd Mercher, Awst 7).

Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu fel rhan o ymrwymiad y sianel i wrando ar ei chynulleidfa a bod yn S4C i bawb.

Bydd cyfle i’r cyhoedd holi penaethiaid a rhai o gomisiynwyr S4C mewn sesiwn holi ac ateb ar stondin S4C am 3.30yp.

Bydd y cyflwynydd Dylan Ebenezer yn cynnal y sesiwn holi ac ateb gyda Sioned Wiliam, Prif Weithredwr dros dro S4C, y Prif Swyddog Cynnwys Geraint Evans, a rhai o Gomisiynwyr S4C.

Hefyd heddiw, am 2.30yp, bydd trafodaeth arbennig am yr opera sebon Pobol y Cwm ar stondin Llywodraeth Genedlaethol Cymru, a hynny dan arweinyddiaeth yr Athro Jamie Medhurst, fydd yn cael cwmni’r actorion Elisabeth Miles, Emyr Wyn a Lauren Phillips.

I ddathlu llwyddiant ein dysgwyr, bydd digwyddiad O Iaith ar Daith i un o brif Hyfforddwyr Y Llais, yn cael ei gynnal ddydd Iau (Awst 8) am 2.20yp ym Maes D gyda’r cyflwynydd a’r artist Aleighcia Scott, fydd yn trafod ei thaith i ddysgu Cymraeg ar S4C gyda’r actor a’i chydymaith ar y rhaglen, Mali Ann Rees.

I ffans rygbi, am 3yp ddydd Iau, bydd cyfle arbennig i gwrdd â Ken Owens, wrth i Catrin Heledd ei holi am ei yrfa rygbi ddisglair.

Mae llwyth o ddigwyddiadau eraill yn ddyddiol ym mhabell S4C, gan gynnwys sesiwn acwstig gydag Yws Gwynedd, disgo distaw, sesiynau i blant, rhaglen wrando S4C, canu carioci, cadair Y Llais a dangosiadau amrywiol yn y sinema, gan gynnwys prif seremonïau’r dydd.

Bydd y plant hŷn yn cael modd i fyw yng nghwmni criw Stwnsh, fydd yn cynnal amryw o weithgareddau a gemau ar hyd y Maes ac yn stondin S4C, a bydd rhai o hoff gymeriadau Cyw yn swyno’r plant lleiaf yn y sioeau Cyw a gweithgareddau o gwmpas y Maes.