Nid oes blwyddyn eto ers i Gôr Taflais gael ei sefydlu yng Nghaerdydd, ond mae’r côr eisoes yn mynd o nerth i nerth.

Eleni, fe gyflwynodd yr Eisteddfod gystadleuaeth dorfol newydd sbon ar gyfer corau nad ydyn nhw wedi cymryd rhan yn yr Eisteddfod o’r blaen.

Y bwriad oedd ceisio annog corau newydd i ffurfio, neu ailffurfio, a chymryd rhan yn yr ŵyl.

Yn ôl y trefnwyr, roedd 14 côr wedi cofrestru a 750 o bobol wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth brynhawn Sul (Awst 4).

Llwyddodd Côr Taflais i gipio’r wobr gyntaf yn y gystadleuaeth honno, ac yn ôl Eilir Owen Griffiths, fu’n siarad ar S4C, roedd y côr wedi dangos eu “cryfder” ac yn amlwg yn mwynhau.

Cyhoeddi bod y côr Taflais yn fuddugol

Pwy yw Taflais?

Criw brwdfrydig o gantorion o ardal Caerdydd yw Côr Taflais, oll yn weithwyr proffesiynol yn y brifddinas.

Cafodd y côr ei sefydlu gan Heledd Haf fis Medi y llynedd, gyda’r bwriad o greu côr sy’n pontio oedran myfyrwyr â chorau ag aelodau llawer hŷn.

Wrth siarad â golwg360, dywed Heledd Haf, y cadeirydd, fod “nifer ohonom wedi canu i Aelwyd y Waun Ddyfal yn y brifysgol ac, wrth ddod i ddiwedd yr oedran hynny, roedden ni’n teimlo bod rhaid ymuno efo corau wedyn oedd dipyn hŷn na ni”.

“Er bod nifer o gorau yng Nghaerdydd, roedden ni’n teimlo bod dim côr rili yn ffocysu ar bobol sydd newydd orffen yn y brifysgol a gweithwyr proffesiynol ifanc,” meddai.

Mae’r côr yn gobeithio eu bod yn cynnig rhywbeth bach gwahanol i bobol ifanc, ac yn gobeithio bod pobol yn teimlo’n fwy hyderus i ymuno â nhw.

Mae’r enw Taflais yn cyfuno enw’r afon Taf a’r elfen o ‘daflu’r llais’.

Cystadlu

Bu’r côr yn llwyddiannus iawn yn Eisteddfod yr Urdd, gan lwyddo i ennill gwobr ym mhob un o gystadlaethau corawl yr ŵyl.

Dywed Heledd Haf fod eu llwyddiant yn yr Urdd wedi rhoi’r hyder a’r hwb ychwanegol hwnnw iddyn nhw fynd ymlaen i gystadlu yn Rhondda Cynon Taf.

“Roedd y ffaith ein bod wedi gwneud mor dda yn yr Urdd wedi bod yn sioc inni gyd ac roedd o wedi rhoi’r platfform ’na inni i fynd ymlaen,” meddai.

Roedd y ffaith fod yr Eisteddfod wedi cynnig cystadleuaeth newydd yn wych, yn ôl y cadeirydd, oherwydd fyddai’r côr ddim wedi teimlo’n ddigon cyfforddus i gystadlu yn erbyn y corau sydd wedi bod wrthi ers degawdau.

“Mae o’n fwy o dasg na beth mae pobol yn sylwi – nid yn unig i sefydlu côr – ond i gael y côr ar lwyfan am y tro cyntaf!” meddai.

“Ond roedd y ffaith ei bod yn gystadleuaeth i gorau newydd yn sicr wedi rhoi’r hyder yna inni.”

Bu Gronw Ifan, un o gyd-arweinyddion y côr, hefyd yn siarad â golwg360, gan ddweud ei fod yn mwynhau’r dasg o arwain, er ei fod yn heriol ar adegau!

Oherwydd bod y côr yn llawn pobol ifanc, meddai, mae’r côr am ganolbwyntio ar ddarnau mwy ysgafn a darnau mae pobol yn mwynhau eu canu.

Pwysleisia fod yr ail ddarn yn eu rhaglen yn yr Eisteddfod, ‘Gede Nibo’, yn cyfleu’r hwyl a’u bod nhw eisiau i’r darn “fod yn hollol wahanol ac yn ddarn roedd y côr yn mwynhau ei ganu”.

“Oherwydd ein bod yn dewis darnau mwy ysgafn, dyna sy’n gwahaniaethu ni rhwng corau eraill, ac rydan ni’n llenwi’r bwlch o bobol yn eu hugeiniau i’r tridegau.

“Rydan ni’n trio bod yn hollol wahanol a pheidio sefyll ar dir neb arall.”

Gronw Ifan a Caradog Jones

Cymdeithasu

Mae’r côr yn rhoi pwyslais mawr ar yr elfen gymdeithasol, er mwyn creu’r teimlad o deulu a chymuned o fewn y côr.

“Ar ôl i chi orffen yn y brifysgol, dydych chi ddim gyda’r digwyddiadau cymdeithasol sy’n digwydd fel pan ydach chi’n fyfyriwr, a’r syndod ni wedi cael yw faint mae pobol yn falch o allu cael grŵp o ffrindiau yn y côr,” meddai Heledd Haf.

Dywed Gronw Ifan mai “dyna sy’n ei gwahaniaethu ni rhwng corau eraill, i fod yn onest, oherwydd mae cymdeithasu yn rhan fawr o’r côr”.

Mae’r côr yn mynd am beint cymdeithasol ar ôl pob ymarfer, un ai i dafarn Duke of Wellington neu i’r Owain Glyndŵr.

Maen nhw hefyd yn ceisio cynnal digwyddiad cymdeithasol arall unwaith y mis.

Dywed Heledd Haf nad oedden nhw eisiau bod yn gôr sydd ond yn croesawu pobol brofiadol, ond yn hytrach eu bod yn croesawu pawb.

“Ni wedi gwneud ymdrech mawr i drio cael y cydbwysedd yna rhwng bo ni’n ddigon safonol fel côr, ond hefyd ein bod yn agored i bawb,” meddai.

Mwynhau peint ar ôl yr ymarfer!

Cynlluniau i’r dyfodol

Mae gan y côr ddigwyddiadau wedi’u trefnu hyd at ddiwedd y flwyddyn, gan gynnwys ambell gyngerdd yng Nghapel y Tabernacl, lle maen nhw’n ymarfer.

Yn ôl Heledd Haf, mae’r gefnogaeth maen nhw wedi’i chael yn lleol yng Nghaerdydd wedi bod yn bwysig, ac maen nhw eisiau gwneud ambell gyngerdd yn lleol er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad.

Mae gan y côr fwriad i fynd i’r Ŵyl Ban Geltaidd ym mis Ebrill, heb anghofio am gystadlu yn yr Urdd a’r Genedlaethol hefyd.

Mae croeso i unrhyw un ymuno â’r côr, a byddan nhw’n ymgynnull eto ym mis Medi.