Am y tro cyntaf erioed, mae mwy nag un person wedi derbyn medal Goffa Syr TH Parry-Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cafodd y wobr ei chyflwyno i Linda Gittins a Penri Roberts, sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn heddiw (dydd Mawrth, Awst 6).

Mae’r wobr yn cael ei chyflwyno i gydnabod cyfraniad gwirioneddol i’r ardal leol – yn enwedig wrth weithio gyda phobol ifanc.

Fe wnaeth y ddau, ynghyd â’r diweddar Derec Williams, sefydlu’r Cwmni ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn ym Machynlleth yn 1981.

Branwen ac Osian Williams, plant Derec Williams, gyflwynodd y medalau i’r ddau.

Dywedodd Linda Gittins eu bod yn hynod o falch o dderbyn y Fedal, ac yn falch iawn dros Penri Roberts hefyd, a’u bod yn cofio am Derec Williams wrth dderbyn yr anrhydedd.

“Roedden ni’n gweithio fel triawd, nid fel tri unigolyn,” meddai.

“Y tri ohonom a sefydlodd Gwmni Theatr Maldwyn, ac mae’r Fedal hon yn gymaint iddo ag ydyw i’r ddau ohonom.

“I’r tri ohonom, roedd y sioe yn bwysig, ac roedd ei llwyddiant a mwynhad y tîm a’r cast yn diolch ynddo’i hun.

“Wnes i erioed ddychmygu y bydden ni’n derbyn y fath anrhydedd, felly roedd yn sioc fawr, ac a dweud y gwir, dwi dal methu credu’r peth.”

Y Cwmni

Dros y deugain mlynedd diwethaf, mae’r cwmni wedi darparu profiadau amhrisiadwy i bobol ifanc cefn gwlad canolbarth Cymru, ac wedi meithrin rhai o sêr mwyaf talentog sioeau cerdd y Deyrnas Unedig.

Cafodd y ddau wybod eu bod yn cael eu gwobrwyo yn ystod ymarferiad o’u sioe Pum Diwrnod o Ryddid, fydd yn teithio Cymru yn ddiweddarach eleni.