Mae golwg360 yn deall fod seremoni’r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd wedi cael ei hatal gan fod y darn buddugol wedi’i ysgrifennu gan berson gwyn o safbwynt person o gefndir ethnig lleiafrifol.

Mae’n debyg fod enillydd wedi dod i’r brig yn y gystadleuaeth, ond fod penderfyniad wedi’i wneud i atal y gystadleuaeth ar ôl cael gwybod pwy oedd y dramodydd buddugol.

Wrth gael eu holi, dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol nad oes ganddyn nhw ddim i’w ychwanegu at y datganiad gafodd ei gyhoeddi ddoe (dydd Iau, Awst 8).

Damcaniaethu a dyfalu

Yn sgil penderfyniad yr Eisteddfod i beidio gwneud sylwadau pellach, mae nifer o ddamcaniaethau wedi cael eu rhannu, gan gynnwys bod deallusrwydd artiffisial (AI) wedi cael ei ddefnyddio.

Fe wnaeth yr Eisteddfod Genedlaethol gyhoeddi am 4 brynhawn ddoe na fyddai seremoni’n cael ei chynnal.

Dywedon nhw na fyddan nhw na’r beirniaid – Geinor Styles, Mared Swain a Richard Lynch – yn gwneud sylw pellach.

Daeth y penderfyniad “bod yn rhaid atal y gystadleuaeth eleni” yn dilyn trafodaeth ar ôl beirniadu’r gystadleuaeth.

Fydd dim beirniadaeth yn cael ei chyhoeddi yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau chwaith, ond maen nhw wedi cysylltu â’r cystadleuwyr i gynnig sylwadau.

“Bydd yr Eisteddfod yn adolygu prosesau a gweithdrefnau ein cystadlaethau cyfansoddi yn sgil y penderfyniad hwn,” medd y datganiad.

Canslo seremoni’r Fedal Ddrama: Galw am eglurhad

Dydy’r Eisteddfod na’r beirniaid ddim am wneud sylw, ond fydd y Fedal Ddrama ddim yn cael ei rhoi eleni a fydd dim beirniadaeth