Mae enillydd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod, sydd yn byw ym Mhontypridd ac a oedd yn aelod o’r pwyllgor codi arian at y Brifwyl, o’r farn fod “arbrawf” yr Eisteddfod drefol eleni wedi gweithio.
“Mae hi’n Eisteddfod arbennig,” meddai, mewn cyfweliad â chylchgrawn Golwg fore heddiw (dydd Gwener, Awst 9).
“Roedd hi’n arbrofol yn yr ystyr am ei bod hi mewn parc, ac yn Eisteddfod werdd – y sustem o ran pobol yn cyrraedd ar drenau ac ar droed – mae popeth i’w weld wedi mynd fel roedd pobol eisio iddo fo fynd. Mae’r arbrawf wedi gweithio.”
Bu’n “braf” bod yn rhan o fwrlwm y gwaith codi arian, yn ôl Eurgain Haf.
“Roedd pobol wedi dod lan â syniadau bach newydd.
“Mi wnaeth yna dîm ohonon ni nofio’n rhithiol hyd afon Taf o’i tharddiad yn y Bannau i lawr i Barc Ynysangharad – pawb yn y pyllau nofio a’r lidos yn gwneud hyd a hyn o filltiroedd. Mi wnaeth hynna godi dros £1,000.
“Mi wnaethon ni noson i lansio ‘Grogg’ Robin McBryde yn arbennig ar gyfer y ’Steddfod ac roedd cyfran o hwnnw’n mynd at darged y gronfa leol.”
‘Golygfa swreal’
Mae Eurgain Haf, sydd â’i gwreiddiau ym mhentref Penisarwaun ger Llanberis, yn byw ym Mhontypridd ers 2006, ar ôl symud yno gyda’i gŵr, un o Gwm Rhymni’n wreiddiol, a’u dau o blant o Gaerdydd.
Maen nhw’n byw ger Comin Coed Penmaen, lle mae’r Maen Chwyf a cherrig meini’r Orsedd – a lle y byddai’r ‘archdderwydd’ hynod William Price yn arfer ei ddefodau hynafol.
Bydd hi’n mynd am dro i Barc Ynysangharad bob wythnos gyda’i dau o blant.
Fydd hi byth yn anghofio’r olygfa o Robin McBryde, Ceidwad y Cledd, yn cerdded y tu ôl iddi rownd y parc wedi’r seremoni yn y Pafiliwn ddydd Mercher.
“Wna i byth anghofio cerdded rownd y bandstand a gweld yr Orsedd yn gynffon y tu ôl i mi!” meddai.
“Roedd o’n olygfa swreal a bendigedig.”
- Fe fydd cyfweliad am ei nofel fuddugol, Y Morfarch Arian (Gwasg y Bwthyn) yn rhifyn nesaf Golwg.