‘Mynd â’r tŷ am dro’ gan Cowbois Rhos Botwnnog yw Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2024.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud o bafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd heddiw (dydd Gwener, Awst 9).

Gruffudd Jones, Tomos Jones, Gwenno Morgan, Keziah O’ Hare, Mared Thomas ac Owain Williams oedd y beirniaid eleni, a daeth pumed albwm y band i’r brig o blith deg o albymau.

Treuliodd Iwan Huws, prif leisydd y band, gyfnod yn yr ysbyty’n ddiweddar ar ôl cael ei daro’n wael wrth berfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau.

Rhestr fer 2024

Amrwd – Angharad Jenkins a Patrick Rimes

Bolmynydd – Pys Melyn

Caneuon Tyn yr Hendy – Meinir Gwilym

Dim dwywaith – Mellt

Galargan – The Gentle Good

Llond Llaw – Los Blancos

Mynd â’r tŷ am dro – Cowbois Rhos Botwnnog

Sŵn o’r stafell arall – Hyll

Swrealaeth – M-Digidol

Ti ar dy ora’ pan ti’n canu – Gwilym