Mae ymgyrchwyr sy’n ceisio achub campws Llanbed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi llythyr agored.
Daw’r llythyr lai nag wythnos ers i rai o gyn-fyfyrwyr y brifysgol gyflwyno deiseb newydd yn gofyn am gynllun gan y brifysgol a Llywodraeth Cymru i sicrhau hyfywedd y campws.
Wedi’i sefydlu yn 1822 dan yr enw Prifysgol Dewi Sant, mae’r campws yn un o sefydliadau addysg uwch hynaf Cymru.
Ond mae nifer y myfyrwyr sy’n mynychu’r safle wedi gostwng dros y degawdau diwethaf.
Fis Tachwedd, cyhoeddodd rheolwyr y brifysgol y byddai darpariaeth cyrsiau’r Dyniaethau yn symud oddi yno i gampws Caerfyrddin o fis Medi eleni.
Yn dilyn protestiadau fis Rhagfyr, mae rhai o gyn-fyfyrwyr y brifysgol wedi cychwyn deiseb yn galw ar y brifysgol a Llywodraeth Cymru i weithredu er mwyn sicrhau y bydd campws Llanbed yn dal i gael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr yn y dyfodol.
Dyma gyhoeddi’r llythyr agored.
Annwyl Ddarllenwyr,
Ni ddylai fod angen deiseb i warantu dadl; fodd bynnag, rwy’n apelio atoch ar frys. Rydym yn falch bod y cyfryngau lleol wedi bod yn dilyn ein hymgyrch i wrthdroi’r penderfyniad i roi’r gorau i addysgu israddedig yn Llanbedr Pont Steffan o fis Medi eleni. Ar hyn o bryd mae deiseb Senedd fyw ar y gweill ac rydym yn eich annog i’w llofnodi. Pe bawn ni’n cyrraedd 10,000 o lofnodion, bydd cyfle da i gael dadl ar y mater yn y Senedd.Dyna’n gobaith gorau o dynnu sylw at y mater ar y lefel uchaf yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn mynnu mai mater i reolaeth PCYDDS yn unig yw hwn. Credwn ei fod yn fater i Gymru gyfan.
Bydd cau campws Llambed yn dod â 200 mlynedd o addysg uwch i ben yn Llanbedr Pont Steffan, y sefydliad addysg uwch hynaf yng Nghymru.
Byddai diwedd addysgu israddedig yn Llanbedr Pont Steffan yn bradychu treftadaeth a diwylliant Cymru ac yn amddifadu cenedlaethau’r dyfodol o’r lleoliad unigryw hwn. Byddai hefyd yn cael effeithiau economaidd hynod o niweidiol ar y dref a’r cymunedau cyfagos. Dylai hyn fod yn fater o bryder difrifol i holl Aelodau’r Senedd o bob plaid.
Mor ddiweddar â 2022 bu’r Brifysgol yn dathlu’r ddwy ganrif gyda balchder, gan nodi bod Llanbedr Pont Steffan wedi darparu amgylchedd delfrydol ar gyfer ehangu mynediad i addysg uwch, tra’n cyfrannu at ardal fwy llewyrchus a gwydn yng nghanolbarth Cymru. Am ddegawdau, roedd gan y brifysgol Adran Gymraeg lewyrchus a denodd academyddion o fri a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Heb fyfyrwyr a gyda llond dwrn o staff ar y campws, bydd effaith ddinistriol ar y gymuned leol ac ehangach. Mae’r economi leol wedi crebachu’n raddol dros y 10 mlynedd diwethaf wrth i nifer y myfyrwyr yn Llanbedr Pont Steffan leihau. Bydd y cynigion newydd hyn yn gwaethygu’r sefyllfa hon. Ni allwn adael i hyn ddigwydd a chredwn y gellir ac y dylid ymchwilio i gyfleoedd a chynigion newydd ar fyrder.
Gwarth o beth bod rhaid i ni droi at ddeiseb ar gyfer mater o bwysigrwydd cenedlaethol i sicrhau dadl yn ein Senedd, ond fe’ch anogaf i gefnogi ein hymgyrch drwy lofnodi’r ddeiseb https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246410
Cynhelir diwrnod o weithredu ddydd Mawrth 21 Ionawr lle gall unigolion â diddordeb ddod ynghyd i wrthwynebu’r cynigion sy’n dod gan PCYDDS. Bydd y cynlluniau ar gyfer y diwrnod yn cynnwys lansio ein ffilm ymgyrch fer a phrotest yn y Senedd yng Nghaerdydd o 10.30am. Rydym yn gwahodd unrhyw un sy’n gwrthwynebu cynnig PCYDDS i ddod ag addysg uwch i ben yn Llanbedr Pont Steffan fynychu’r brotest. Ni allwn adael i fan geni addysg uwch yng Nghymru gau.
Yr eiddoch yn gywir
Esther Weller