Mae pwyllgor wedi clywed bod Llywodraeth Cymru’n dal i fod yn y tywyllwch ynghylch faint o arian fydd Cymru’n ei dderbyn i wneud yn iawn am y cynnydd mewn trethi yn y sector cyhoeddus – sydd oddeutu £109m, yn ôl amcangyfrifon.
Dywedodd Jayne Bryant fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau mai nhw fydd yn ariannu swyddi’r sector cyhoeddus.
Ond mae Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Cymru’n dweud y bydd disgwyl i weinidogion dderbyn mwy o arian “yn hwyr yn y Gwanwyn”, a’u bod nhw’n dal heb dderbyn cadarnhad ynghylch faint y bydd Cymru’n ei dderbyn.
Mae Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, wedi codi pryderon ynghylch effaith y codiad mewn trethi, wrth i bwyllgor llywodraeth leol y Senedd feirniadu cynlluniau gwario’r gweinidogion ar gyfer 2025-26.
Mae Judith Cole, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Cyllid Cynghorau, yn dweud bod Llywodraeth Cymru’n amcangyfrif y bydd cost y codiad mewn treth yn y sector cyhoeddus tua £109m.
‘Fyswn i byth yn dod o ’na yn fyw’
Mae Siân Gwenllian wedi galw am eglurder, wrth ofyn, “Felly, does dim sôn, dim o gwbwl, gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig am ddarparu’r £109m hwnnw?”
“Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dan yr argraff, bod yr arian hwn ar y ffordd, ac mai’r £109m oedd hwnnw. Felly, rydych chi’n dweud heddiw, nad yw hynny ar y gweill o gwbl?” meddai.
“Nac ydw, fyswn i byth yn gwneud hynny – fyswn i byth yn dod o’r adeilad yn fyw…” meddai Judith Cole.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud y bydd yr arian yn dod i Lywodraeth Cymru er mwyn ariannu’r costau.
“Mae trafodaethau’n dal i ddigwydd o ran faint yn union yw’r swm.”
“Yr oll allaf i ei ddweud yw, unwaith y byddwn ni’n gwybod, byddwn ni’n rhannu hynny,” meddai Jayne Bryant wrth ymateb.
Fis diwethaf, cadarnhaodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid, fod disgwyl i Gymru dderbyn yr arian drwy’r fformiwla Barnett – gwariant sy’n seiliedig ar wariant yn Lloegr.
‘Cwbl ddibynnol’
Rhybuddiodd y cyn-Brif Weinidog y gallai hyn fod yn “anheg yn ei hanfod”, gyda chyrff cyhoeddus yn Lloegr yn derbyn 100% o iawndal, tra nad yw’r cyllid hyd yn oed yn cyffwrdd ag anghenion Cymru.
Wrth ofyn sut fydd y cyllid yn cael ei rannu ymysg siroedd, dywedodd Judith Cole y gallai’r fformiwla ariannu arferol gael ei ddefnyddio, neu fe allai fod ar sail cyfran y gwariant, fel yn Lloegr.
Ond pwysleisiodd fod angen ystyried ffactorau eraill hefyd oherwydd, er enghraifft, bydd rhai cynghorau’n darparu mwy o wasanaethau gan staff yn uniongyrchol ganddyn nhw.
“Rydyn ni’n gwbl ddibynnol ar drafodaethau rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Thrysorlys y Deyrnas Unedig,” meddai Reg Kilpatrick, y Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol.
Rhybuddiodd Siân Gwenllian y bydd effaith y codiad mewn trethi i’w gweld yn y sector gwirfoddoli a gwasanaethau allanol, gan gynyddu’r pwysau ar gyllideb cynghorau.
‘Realiti’
“Dw i wedi siarad â thri chyngor… dywedodd un y byddai hyn yn costio £2m ychwanegol, o ran talu cyflogau mewnol ond £2.5m o ran y gwaith sydd yn cael ei gomisiynu,” meddai Siân Gwenllian.
“Dywedodd cyngor arall y byddai cost o £5.4m yn fewnol, £2.8m o waith o’r tu allan; dywedodd un arall y byddai’n £8m yn fewnol a £3m ar y gwaith o’r tu allan.
“Mae yna lot o waith comisiynu wedi digwydd y tu hwnt i awdurdodau lleol eu hunain, a does dim sôn o gwbl am unrhyw gymorth.”
Cytunodd Peter Fox o’r Ceidwadwyr Cymreig, gan godi tystiolaeth gan Gyngor Wrecsam, sy’n dangos bod 80% o ofal yn y cartref wedi’i gomisiynu ac mai’r pwrs cyhoeddus fydd yn talu am hynny yn y pen draw.
“Os nad yw yswiriant gwladol wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer cyflogwyr uniongyrchol a’r rheiny sydd mewn busnesau cysylltiedig, rydyn ni’n mynd i fod yn dileu’r codiad ariannol yn y gyllideb newydd hon, y gyllideb well hon, sydd ond am roi’r un elfen honno i’r gwasanaeth…dyna fydd y realiti fwy na thebyg,” meddai.
Wrth roi tystiolaeth ddoe (dydd Mercher), dywedodd Jayne Bryant fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau y bydd hi’n defnyddio’r Swyddfa Ystadegau Gwladol er mwyn diffinio gweithiwr yn y sector cyhoeddus.
‘All dim byd gael ei gadarnhau’
Ychwanegodd Reg Kilpatrick fod Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid, yn ymwybodol iawn o’r mater, sy’n rhan o drafodaethau parhaus gyda Thrysorlys y Deyrnas Unedig.
Cododd Carolyn Thomas o’r Blaid Lafur bryderon ynghylch amrywioldeb y cronfeydd wrth gefn sydd, meddai, yn amrywio o ryw £6m i £250m dros Gymru.
Gofynnodd am y galwadau am gael gweld ‘llawr cyllido’, gyda chynydd yn yr arian dros dro ar gyfer deuddeg mis, gan ddechrau ym mis Ebrill, gan amrywio o 2.6% yn Sir Fynwy i 5.6% yng Nghasnewydd.
Wrth ymateb i alwadau Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig i edrych o’r newydd ar y fformiwla sy’n cael ei ddefnyddio wrth bennu cyllid y cynghorau, dywedodd fod y cyfrifiadau cymhleth yn cael eu hadolygu’n flynyddol.