Bydd noson arbennig yng Nghanolfan Hermon, Sir Benfro fis nesaf i goffáu tri arwr lleol ac i “wobrwyo artistiaid ifanc newydd”.
Cafodd Gwobr Goffa Richard a Wyn ei sefydlu yn 2023, er cof am y ddau frawd oedd yn aelodau’r band Ail Symudiad ac yn sylfaenwyr cwmni recordio Fflach Cyf.
Roedd Richard a Wyn Jones yn wynebau cyfarwydd iawn ar y sîn roc Gymraeg am flynyddoedd lawer.
Gweithiodd y ddau’n ddiwyd i hyrwyddo talent lleol a chenedlaethol yn enw eu label recordio, Fflach, sydd wedi rhoi llwyfan i gymaint o gerddorion Cymru.
Wedi colli’r ddau yn 2021, sefydlodd pwyllgor Gŵyl Fel ‘Na Mai wobr goffa yn enw Richard a Wyn, sef Tlws Her Trefigin, er cof amdanyn nhw ac i wobrwyo cerddorion newydd.
Bydd y tlws hwn yn cael ei gyflwyno i’r band neu’r grŵp buddugol ar Chwefror 14.
Dyma fydd y trydydd tro i’r gystadleuaeth gael ei chynnal.
Gwobr newydd
Eleni, bydd gwobr arall yn cael ei chynnig, i Artist Unigol, hefyd.
Bydd y wobr hon, sef Tlws Kevin, yn cael ei rhoi er cof am un arall o ddatblygwyr allweddol Fflach Cyf, sef Kevin Davies, fu’n allweddol hefyd wrth sefydlu’r label recordio yn Aberteifi.
Am y tro cyntaf, bydd y gwobrau’n agored i bobol dros Gymru gyfan, gyda gwobrau’r gorffennol ond yn agored i’r rheiny yn y de-orllewin.
Y nod wrth ehangu’r gystadleuaeth yw “hybu cerddoriaeth Gymraeg a chyfrannu i Gymru gyfan”, yn ôl Cleif Harpwood o Bwyllgor Gŵyl Fel ‘Na Mai a phrif leisydd y band Edward H Dafis.
Wrth siarad â golwg360, dywed mai bwriad y noson yw “rhoi cyfleoedd i gerddorion newydd, sef holl amcan Richard a Wyn”, ac “ymestyn ma’s at artistiaid”.
“Nod y noson yw coffáu dau sydd wedi cyfrannu gymaint i’r sîn roc Gymraeg, a rhoi llwyfan i artistiaid newydd,” meddai.
Pwysleisia hefyd mor bwysig yw rhoi llwyfan proffesiynol i artistiaid gael dangos eu doniau, a “rhoi’r profiad o berfformio iddyn nhw”.
Ychwanega ei fod yn edrych ymlaen at noson o adloniant a gweld “parhad i gerddoriaeth gyfoes Gymraeg”.
Dywed mor bwysig yw hybu cerddoriaeth newydd Gymraeg a pharhau ag ethos Richard a Wyn, oedd mor gefnogol i gerddorion newydd.
“Mae’n llenwi pawb â gobaith i’r dyfodol gweld y diwylliant yn symud ymlaen,” meddai.
Cyfle i recordio a pherfformio
Yn ogystal â’r tlysau a’r gwobrau ariannol, bydd gwobr ychwanegol hefyd i enillwyr y ddwy gystadleuaeth, sef sesiwn recordio yn stiwdio Fflach Cymunedol, menter arall sydd am “sicrhau parhad i’r gwaith gwerthfawr a gyflawnwyd gan Rich a Wyn”, yn ôl trefnwyr Gŵyl Fel ‘Na Mai.
Bydd y buddugwyr hefyd yn cael y cyfle i berfformio mewn tair gŵyl leol.
“Mae’r holl beth yn bosib oherwydd y pwyllgor sy’n gwirfoddoli, a charedigion sy’n cefnogi popeth yn yr ardal hon,” meddai Cleif Harpwood.
Ychwanega Dafydd Vaughan, un o’r trefnwyr, fod “aelodau Pwyllgor Gŵyl Fel ‘Na Mai yn falch iawn o fedru cynnal y digwyddiad blynyddol hwn i goffáu Richard a Wyn, Ail Symudiad ac hefyd, am y tro cyntaf eleni, Kevin Davies, Fflach”.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen i weld pwy fydd talentau newydd y sîn yng Nghanolfan Hermon, ac yn ddiolchgar iawn i’r holl noddwyr am bob cefnogaeth,” meddai.