Fe fydd llywyddion dwy o bleidiau annibyniaeth Catalwnia yn cyfarfod heddiw (dydd Iau, Ionawr 16), a hynny am y tro cyntaf ers iddyn nhw gael eu hailethol yn llywyddion eu pleidiau.

Bydd y cyfarfod rhwng Carles Puigdemont (Junts per Catalunya) ac Oriol Junqueras (Esquerra Republicana) yn cael ei gynnal yng Ngwlad Belg.

Cafodd Puigdemont, Arlywydd Catalwnia rhwng 2016 a 2017, ei ailethol fis Hydref, tra bod Junqueras ei ailethol fis diwethaf.

Bydd Elisenda Alamany (Esquerra) a Jordi Turull (Junts per Catalunya), ysgrifenyddion cyffredinol y ddwy blaid, yn rhan o’r cyfarfod hefyd.

Cryfhau perthynas

Yn ôl Esquerra, mae cryfhau’r berthynas rhwng y ddwy blaid yn hanfodol gan fod ganddyn nhw’r un nod yn gyffredin, sef ennill annibyniaeth i Gatalwnia.

Fe wnaeth rhagflaenwyr y ddau arweinydd gyfarfod dros yr haf, yn dilyn etholiadau Ewrop a Chatalwnia.

Ond mae llai o gefnogaeth i annibyniaeth erbyn hyn, gyda’r Sosialwyr mewn grym a dydy’r pleidiau annibyniaeth ddim yn y mwyafrif yn Senedd Catalwnia chwaith, a hynny am y tro cyntaf ers dros ddegawd.

Ond Puigdemont a Junqueras oedd yr arweinwyr adeg refferendwm annibyniaeth 2017, gafodd ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan Sbaen.

Mae Puigdemont bellach yn byw’n alltud yng Ngwlad Belg yn sgil ei ran yn yr ymgyrch, tra bod Junqueras wedi cael ei garcharu cyn cael pardwn gan Sbaen.

Trafodaethau

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal tra bod trafodaethau ar y gweill yng Nghyngres Sbaen ac yn Senedd Catalwnia.

Mae’r Sosialwyr yn ceisio cytundeb ar gyfer eu cyllideb yn 2025.

Ond mae Junts per Catalunya wedi galw pleidlais hyder yn y llywodraeth, gan rybuddio y bydd yna “ganlyniadau” pe bai’r ymdrechion yn cael eu hatal.

Ac mae Esquerra yn mynnu na fyddan nhw’n cefnogi cyllideb heb sicrwydd o gefnogaeth i rai o’u cytundebau nhw.