Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn parhau i godi premiwm treth gyngor ar rai eiddo, er gwaethaf pryderon fod perchnogion sy’n adnewyddu eu tai yn cael eu dal yn ei chanol hi “heb yn wybod iddyn nhw”.

Mewn cyfarfod ddydd Llun (Ionawr 13), pleidleisiodd cynghorwyr Bro Morgannwg o blaid parhau â’u polisi o godi premiwm treth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi.

Yn unol â’r polisi, caiff dwywaith y dreth gyngor ei godi ar gartrefi fu’n wag ers hyd at 24 mis, a bydd premiwm o 150% yn cael ei godi ar gyfer eiddo fu’n wag ers hyd at 36 mis.

Bydd premiwm treth gyngor o 200% yn cael ei godi ar gartrefi fu’n wag ers dros 36 mis.

Y syniad y tu ôl i’r premiwm yw dod â rhagor o eiddo gwag yn ôl i ddefnydd ar gyfer teuluoedd ac unigolion mae eu hangen nhw arnyn nhw.

‘Cefnogi’r egwyddor, ond nid y polisi presennol’

Dywedodd y Cynghorydd George Carroll, arweinydd Grŵp Ceidwadol Cyngor Bro Morgannwg, fod ei grŵp yn cefnogi’r egwyddor o ddod ag eiddo gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd.

Fodd bynnag, ychwanegodd na all gefnogi’r polisi yn ei ffurf bresennol, ar ôl i etholwr fynd ato ar ôl cael eu dal yn ei chanol hi “heb yn wybod” iddyn nhw.

“Roedd yr achos yn ymwneud â phrynwr tro cyntaf oedd yn byw gyda’u rhieni wrth adnewyddu’r eiddo hwnnw,” meddai.

“Roedden nhw’n wynebu dwywaith y bil treth gyngor gan fod y gwaith adnewyddu hwnnw wedi cymryd yn hirach na’r disgwyl.

“Yn fy marn i, mae’n anghyfiawn i bobol gael eu dal allan gan y polisi fel hyn.

“Byddwn i’n mynd ymhellach fyth, ac yn dweud ei fod yn wrthgynhyrchiol gwneud hynny.

“Os yw’r polisi’n gweithredu fel y bu o’r blaen, mewn gwirionedd bydd pobol yn llai tebygol o gaffael eiddo sydd efallai’n wag neu mae angen gwaith arnyn nhw, oherwydd byddan nhw’n wynebu cyfrifoldeb treth tipyn uwch nag y bydden nhw… pe baen nhw’n prynu eiddo i fyw ynddo ar unwaith.”

Cefnogaeth i’r polisi

Dechreuodd Cyngor Bro Morgannwg godi premiwm treth gyngor o 100% ar ail gartrefi o Ebrill 1 y llynedd.

Cafodd y cynlluniau i godi premiwm treth gyngor eu cymeradwyo yn 2023.

Dywedodd Ian Johnson, arweinydd Grŵp Plaid Cymru’r Cyngor, ei fod yn cefnogi cynnig y Cyngor i barhau â pholisi’r premiwm treth gyngor, gan gyfeirio at nifer y cartrefi sydd eisoes wedi dod yn ôl i ddefnydd parhaol.

Mae adroddiad Cyngor Bro Morgannwg yn nodi bod 402 o ail gartrefi wedi’u hadnabod yn wreiddiol fel rhai oedd yn gymwys i fod yn destun premiwm pan gafodd y polisi ei gymeradwyo.

Cododd hyn i 508 o eiddo ym mis Tachwedd 2023.

Ond mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod yna 339 o eiddo ar hyn o bryd sy’n destun premiwm ail gartrefi o 100%.

Ar ddiwedd 2024, roedd gan Gyngor Bro Morgannwg bron i 7,000 o bobol ar restr aros ar gyfer tai cyngor.

Chwilio am dai

“Yn rhy aml o lawer, rydyn ni’n mynd drwy nifer y bobol yn y Fro sy’n chwilio am gartrefi,” meddai’r Cynghorydd Lis Burnett, arweinydd Cyngor Bro Morgannwg.

“Mae seilio polisi ar un achos yn eithaf anodd, felly wna i ddim derbyn [pwynt] y Cynghorydd Carroll, ac eithrio dweud bod y Cyngor hwn, mewn gwirionedd, yn rhan o’r cynllun grant eiddo gwag.

“Mae’r Cyngor hwn wedi cefnogi nifer o berchnogion cartrefi i ddod â’u tai gwag yn ôl i ddefnydd, a dw i’n gwybod yn fy ward i am ddau eiddo sydd wedi bod yn falltod ers nifer o flynyddoedd sydd bellach yn eu hôl ac yn ffurfio rhan o’r stoc dai, a hefyd maen nhw’n gartrefi o safon.”