Mae Hybu Cig Cymru wedi penodi Prif Weithredwr newydd, ar ôl cyfnod hir yn recriwtio.
Daw José Peralta â chryn dipyn o brofiad i’r swydd, medd Hybu Cig Cymru mewn datganiad.
Bu’n gweithio yn y diwydiant ers dros 25 mlynedd, ac fel Rheolwr-Gyfarwyddwr hefyd, a hynny i Vion, un o gwmnïau cig coch mwyaf y Deyrnas Unedig, dan berchnogaeth Grŵp Bwyd Gwlad y Grampian, a Grŵp Bwyd 2 Sisters.
Dan ei arweinyddiaeth, gwelodd y sefydliad werthiannau blynyddol yn cyrraedd dros £500m, gyda thros 3,000 o gyflogwyr, chwe safle cynhyrchu ledled y Deyrnas Unedig, a dyma oedd un o fusnesau gwerthu cig oen a chig eidion mwyaf y Deyrnas Unedig a thramor tan 2016.
Bu’n Rheolwr-Gyfarwyddwr ar Gwmni Bwyd Tulip hefyd.
Mae ei swydd ddiweddaraf – Prif Swyddog Gweithredol Puffin Produce yn Sir Benfro – wedi helpu datblygiad safle poteli llaeth Hufenfa Sir Benfro.
‘Diwydiant deinamig’
“Mae Bwrdd Hybu Cig Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda José ac yn hyderus yn ei sgiliau arweiniol a’r profiad dirifedi sydd ganddo yn y diwydiant cig coch,” meddai Catherine Smith, cadeirydd Hybu Cig Cymru.
Ychwanega ei bod yn sicr y bydd Hybu Cig Cymru’n “datblygu yn y cyfnod nesaf yma mewn diwydiant deinamig, tra’n parhau i roi’r rhai sy’n talu’r dreth ar gig coch wrth galon yr oll rydyn ni’n ei wneud”.
“Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno â’r sefydliad, wrth inni barhau i dyfu a chryfhau ein brandiau cydnabyddedig,” meddai.
“Wrth inni gadarnhau ein cynllun busnes pum-mlynedd a chychwyn siapio’n gweledigaeth strategol ar gyfer 2026 a thu hwnt, rydyn ni’n ffocysu ar greu map clir fydd yn ein cynorthwyo yn ein twf cynhaliol fel diwydiant, sydd yr rhan mor allweddol i economi’r bwyd amaethyddol Cymreig.
“Hoffwn ddiolch i Heather Anstey-Myers, fel Prif Weithredwr dros dro, am yr holl waith caled dros y flwyddyn ddiwethaf.”
‘Swydd bwysig’
Dywed Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, sydd â chyfrifoldeb dros faterion gwledig yn Llywodraeth Cymru, ei fod yn “falch bod José Peralta yn dod i’r swydd bwysig hon”.
“Bydd ei brofiad yn amhrisiadwy wrth symud y sefydliad ymlaen,” meddai.
“Hyderaf y bydd Hybu Cig Cymru yn parhau i chwarae rhan ganolog wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru a chyfrandalwyr, wrth roi dyfodol cynaliadwy i ffermwyr ar hyd Cymru.”
‘Llais cryf dros y diwydiant cig coch Cymreig’
“Dwi’n edrych ymlaen at ddechrau’n syth gyda Hybu Cig Cymru er mwyn sicrhau bod sefydliad yn uno gyda’i phartneriaid, fel llais cryf dros y diwydiant cig coch Cymreig,” meddai José Peralta.
“Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, byddaf yn gweithio gyda’r rhai sy’n talu’r dreth ar gig coch a’r partneriaid ehangach er mwyn adnabod yr ardaloedd o gyd-weithio.”
Ychwanega mai trethdalwyr cig coch fydd wrth wraidd yr holl waith, er mwyn sicrhau buddion iddyn nhw a’r diwydiant yn ehangach.
Mae disgwyl iddo fe ddechrau yn y swydd ar Ionawr 20.