Mae’n anfaddeuol fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthod rhoi iawndal i fenywod gafodd eu heffeithio gan anghydraddoldeb pensiynau, yn ôl Liz Saville Roberts.

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan bellach yn galw am bleidlais ar y mater yn San Steffan.

Mewn dadl yn San Steffan, dywedodd fod y menywod gafodd eu geni yn y 1950au ac a gafodd eu heffeithio yn haeddu mwy nag ymddiheuriad, gan gyhuddo Llywodraeth Lafur San Steffan o wrthod cyngor yr ombwdsmon i ddarparu iawndal.

Dywed fod miloedd o fenywod yng Ngwynedd wedi’u heffeithio gan y cynnydd yn oedran pensiwn y wladwriaeth, gyda nifer heb gael rhybudd na digon o amser i wneud cynlluniau amgen, gan arwain at oblygiadau difrifol.

‘Anfaddeuol’

“Yng Nghymru, mae nifer o grwpiau gan gynnwys WASPI a Merched 1950au yng Nghymru, wedi bod yn gweithio’n ddiflino yn ymbil ar y Llywodraeth i weithredu ar anghydraddoldeb pensiwn, dros nifer fawr iawn o flynyddoedd,” meddai Liz Saville Roberts yn San Steffan.

“Mae cefnogaeth Plaid Cymru i fenywod gafodd eu geni yn y 1950au wedi aros yn glir, nid fel Llywodraeth y Blaid Lafur.

“Rydyn ni wedi gwneud ein ymrwymiad yn glir yn ein maniffesto cyn yr Etholiad Cyffredinol yn 2024.

“Rydyn ni’n credu ei bod hi’n anfaddeuol bod Llywodraeth Lafur wedi gwrthod yr ymgynghoriad gan un o’u cynghorwyr, yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd, i ddarparu iawndal, gan gyfiawnhau na fyddai’r gost hon yn ‘ddefnydd teg o arian trethdalwyr’.

“Mae hyn yn benodol yn amhosib ei gyfiawnhau, am fod yr Ombwdsmon wedi dweud yn glir yn ei adroddiad terfynol ’na ddylai ffynonnellau cyfyngedig fod yn esgus dros beidio â darparu datrysiad teg’.

“Ond nid yw’r iawndal arfaethedig a gyflwynwyd gan yr Ombwdsmon yn mynd yn ddigon pell yn y lle cyntaf.

“Bach iawn mae hyn yn gwneud i ddelio â’r effaith – yn ariannol ac fel arall – ar fenywod gafodd eu geni yn y 1950au sydd wedi’u heffeithio.

“Mae Plaid Cymru wedi cefnogi’r iawndal Lefel 5 ar y raddfa Ombwdsmon- rhwng £3,000 a £9,950.”

‘Cyfiawnder’

“Dyma leisiau menywod na chafodd eu clywed ar hyd eu gyrfaoedd,” meddai Liz Saville Roberts wedyn.

“Mae’n gywilyddus, gyda Llywodraeth Lafur mewn grym, nad yw’r lleisiau hynny’n dal i gael eu clywed.

“Fel aelodau seneddol, mae’n allweddol nawr ein bod ni’n defnyddio pob cyfle a phob trywydd sy’n bosib i ni, fel bod y menywod hynny gafodd eu geni yn y 50au, o’r diwedd, yn cael y cyfiawnder hwnnw, drwy wneud yn iawn am hynny.”

‘Sioc ac yn siom’

“Mae menywod dros y Deyrnas Unedig wedi’u taro’n wael gan y newidiadau,” meddai wedyn.

“Yn sioc ac yn siom i nifer ohonyn nhw, mae’r cynlluniau oedd ganddyn nhw wedi cael eu rhwystro.

“Mae menywod yng Nghymru wedi ei taro’n wael yn enwedig, gan y newidiadau.

“Mae disgwyliad oes, ar y cyfan, yn is yng Nghymru nag yn Lloegr.

“Mae incwm pobol yng Nghymru yn isel, ac felly maen nhw dan anfantais anghyfartal yn barod.

“Mae llai o gyfleoedd am swyddi ac mae swyddi’n fwy anwadal, yn enwedig mewn rhai etholaethau.”

Llywodraeth yn ‘troi eu cefn’

“Er cri’r anghytuno a blynyddoedd o ymgyrchu, mae Llywodraethau’r Deyrnas Unedig, dro ar ôl tro, wedi gwrthod cefnogi’r menywod hyn sydd wedi’u dal mewn sefyllfaoedd ariannol heriol, pan nad yw’n fai arnyn nhw,” meddai Liz Saville Roberts wrth barhau i drafod y sefyllfa.

“Pan fu aelodau Llafur – o Brif Weinidog Cymru i Ysgrifennydd Gwladol Cymru – yn sefyll gyda menywod y 1950au, yn dal eu placards, yn addo y byddai Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn rhoi diwedd ar anghydraddoldebau pensiwn, doedden nhw ddim yn disgwyl i’r Lywodraeth honno droi eu cefn.

“Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig nid yn unig rwymedigaethau cyfreithiol, ond rhwymedigaethau moesol hefyd, i roi sylw i’r caledi wynebodd y menywod, lle cafodd eu cynlluniau pensiwn eu torri’n fyr.

“Mae’n rhaid iddyn nhw weithredu ar unwaith i ddarparu cynllun iawndal teg a chyflym.”