Mae Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn mynd i’r afael ag ôl-groniad o achosion yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mewn dadl yn Senedd ddoe (dydd Mercher, Ionawr 15), fe wnaeth Plaid Cymru gyhuddo’r Blaid Lafur o fod wedi “methu’n llwyr”, gan adael mwy na 620,000 yn llesg ar eu rhestrau aros hirfaith.
Fe rybuddiodd Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd Plaid Cymru, fod rhestrau aros wedi bod ar eu huchaf erioed bob mis ers mis Mawrth, gan gynnwys pob mis y bu’r Prif Weinidog Eluned Morgan wrth y llyw.
“Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru?” gofynnodd.
“Yn gyntaf, i weld bai ar bawb arall: bai ar y cleifion, bai ar reolwyr, bai ar y colegau brenhinol, bai ar bawb, ond gwadu unrhyw gyfrifoldeb eu hunain.
“Wedi 25 mlynedd o lywodraethu, fe benderfynon nhw gynnal ymarfer gwrando, a chlywed yr union beth ddylen nhw fod wedi gwybod ers blynyddoedd.
“Yna, bob mis yn arwain at y Nadolig, fe gafodd strategaeth newydd ei chyflwyno, a phob un mis roedd ffigurau’r rhestrau aros yn codi.”
‘Brawychus’
Wrth arwain dadl gan Blaid Cymru yn y Senedd, cyfeiriodd Mabon ap Gwynfor at gynllun pum pwynt ei blaid i fynd i’r afael â rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gafodd ei ddatgelu’r wythnos hon.
Soniodd ei gyd-bleidiwr Sioned Williams am gynnydd ‘dychrynllyd’ yn y defnydd o ofal iechyd preifat, gan rybuddio bod anghydraddoldebau dwfn yn dod i’r fei.
Wrth gyhuddo’r Blaid Lafur o erydu gweledigaeth Aneurin Bevan ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, dywedodd fod ystadegau’n dangos cynnydd o 77% yn nifer y cleifion gafodd fynediad i ysbytai preifat yng Nghymru dros y bum mlynedd ddiwethaf.
“Mae 58% o bobol Cymru unai wedi derbyn gofal iechyd preifat neu’n nabod ffrindiau neu aelodau o’r teulu sydd wedi,” meddai.
“Mae hynny’n uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig.”
Dywedodd Llŷr Gruffudd, un o aelodau eraill Plaid Cymru yn y Senedd, fod “y sefyllfa yng ngogledd Cymru, yn fy rhanbarth i, yn frawychus, os ydw i’n onest”.
“Mae cenhedlaeth gyfan o blant a phobol ifanc sydd â chyflyrau fel awtistiaeth ac ADHD yn cael cam,” meddai.
‘Tanariannu cronig’
Fe rybuddiodd James Evans, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion iechyd, fod y Gwasanaeth Iechyd yn wynebu argyfwng, a bod hyd at 23,000 o bobol yn aros o leiaf ddwy flynedd i dderbyn triniaeth
“Nid dim ond diffyg effeithlonrwydd ydy’r broblem,” meddai.
“Mae’n symptom problem ddyfnach yn sgil tanariannu cronig ac esgeuluso’n system gofal cymdeithasol.”
Fe alwodd am ymchwiliad annibynnol i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, i “drwsio system sydd wedi’i thorri gan flynyddoedd o gamreolaeth gan y Blaid Lafur”.
Fe wnaeth Russell George, cadeirydd pwyllgor iechyd y Senedd, grybwyll pryderon ynghylch cynigion “hurt” Bwrdd Iechyd Addysgu Powys er mwyn mantoli eu harian.
“Mewn ysbyty yn yr Amwythig neu yn Telford, gallai claf o Gymru fod yn siarad gydag ymgynghorydd, a’r ymgynghorydd hwnnw’n sôn bod capasiti gan yr ysbyty ond na fedr yr ysbyty drin y claf am nad yw Powys yn medru talu,” meddai.
‘Trychinebus’
Dywedodd Buffy Williams y Blaid Lafur fod blynyddoedd o danariannu cronig gan lywodraethau Ceidwadol y Deyrnas Unedig wedi bod yn drychinebus ar gyfer Gwasanaeth Iechyd Cymru.
Fe gyfeiriodd Jeremy Miles, gafodd ei benodi’n Ysgrifennydd Iechyd ym mis Medi, at argoelion addawol o ran blaenoriaeth Llywodraeth Cymru i dorri rhestrau aros.
Dywedodd wrth y Senedd fod nifer y bobol sydd wedi aros dros ddwy flynedd wedi disgyn 66% ers 2022, ac mai 3% yn unig sy’n aros o leiaf ddwy flynedd bellach, o gymharu â 10% pan oedd y rhestrau aros ar eu gwaethaf.
“Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn gwneud cynnydd er gwaethaf y pwysau, ond mae llawer mwy i’w wneud er mwyn sicrhau bod pobol yn cael eu trin yn gynt,” meddai.